Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Iechyd yr Amgylchedd - Gradd BSc (Anrh)

Iechyd yr Amgylchedd - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd ein gradd BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd achrededig driphlyg yn eich paratoi i fod yn weithiwr proffesiynol uchel ei barch mewn gyrfa a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan bwysig yn y gymdeithas.

Mae’r BSc (Anrh) mewn Iechyd yr Amgylched ym Met Caerdydd yn rhoi cyfle i astudio ar gyfer pum cyfle gyrfa posibl o fewn un maes disgyblaeth, gan gynnwys, Diogelwch Bwyd, Tai, Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, Diogelu’r Amgylchedd a themâu creiddiol Iechyd y Cyhoedd, Epidemioleg ac Asesu Risg.

Mae ein tîm addysgu yn cynnwys ymarferwyr profiadol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a bydd eu gwybodaeth yn eich galluogi i ddod yn weithiwr proffesiynol cyflawn yn y maes.

Mae gennym ni gyfleoedd lleoliad gwaith ardderchog yn y sector preifat a cyhoeddus, a byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â nifer o deithiau maes yn y DU a thramor i gyfoethogi eich profiad dysgu.

Os ydych eisiau gweithio mewn swydd sy’n heriol, yn rhoi boddhad ac sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, efallai mai Iechyd yr Amgylchedd yw’r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Gwyliwch y fideo hwn gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd i weld drosoch eich hun.

​Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol.

Mae dau lwybr sylfaen ar gael, a gall ymgeiswyr ddewis a ydynt am astudio blwyddyn sylfaen yn y Gwyddorau Iechyd neu’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Darganfod mwy am y blynyddoedd sylfaen:


Bwriad y blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

​Cynnwys y Cwrs​

Gradd:

Drwy’r cwrs, byddwch yn astudio meysydd craidd, yn cynnwys Diogelwch Bwyd, Tai, Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle. Amddiffyn yr Amgylchedd a’r themâu sylfaenol sef Iechyd y Cyhoedd, Epidemioleg ac Asesu Risg.

Blwyddyn Un:

Bydd y rhaglen yn cychwyn wrth gyflwyno Iechyd yr Amgylchedd mewn cyd-destun byd-eang, yn cyflwyno'r myfyrwyr i sialensiau iechyd yr amgylchedd yn hanesyddol a chyfoes. Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau academaidd hanfodol i allu astudio ar lefel gradd. Byddwch yn astudio penderfynyddion iechyd yn gyfochrog â gwyddorau amgylcheddol cyn symud ymlaen i ystyried rôl yr amgylchedd byw a’r gweithle ar iechyd yn cynnwys tai, iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd. Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, byddwch yn astudio chwe modiwl:

  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1*
  • Rheoli Diogelwch Bwyd
  • Penderfynyddion Iechyd
  • Amgylchedd y Gweithle
  • Gwyddorau Iechyd yr Amgylchedd
  • Amgylchedd Byw

Blwyddyn Dau:

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth ac yn dechrau eu cymhwyso i dasgau a sefyllfaoedd y byddwch yn delio â nhw ar ôl i chi raddio. Bydd egwyddorion ac arferon diogelu’r cyhoedd yn cael eu haddysgu ar draws holl feysydd iechyd yr amgylchedd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ystyried rôl data a pherthnasedd hybu iechyd wrth reoli effeithiau iechyd o’ch gwaith. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddulliau ymchwil a byddwch yn dewis pwnc ar gyfer eich prosiect terfynol. Byddwch yn cael cymorth i sicrhau ac ymgymryd â lleoliad gwaith fel elfen wreiddiedig o'r cwrs.

Modiwlau’r ail flwyddyn ydy:

  • Egwyddorion Amddiffyn y Cyhoedd
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2*
  • Dulliau Ymchwil*
  • Asesu a Gwella Iechyd y Cyhoedd
  • Amddiffyn y Cyhoedd ar Waith

Blwyddyn Tri:

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cadarnhau eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy astudio pedwar modiwl.  Byddwch yn ymgymryd â darn mawr o astudiaeth annibynnol â chymorth a datblygu’ch sgiliau ym maes amddiffyn y cyhoedd a rheolaeth gynaladwy o fusnes i gyfyngu ar yr effeithiau ar iechyd a’r amgylchedd. Byddwch hefyd yn ymgymryd â gweithgaredd copa o ddylunio ymyriadau ar gyfer iechyd yr amgylchedd, ar gyfer iechyd a datblygiadau cynaladwy a gwerthuso’r cyfryw ymyriadau gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau cydnabyddedig. Modiwlau’r flwyddyn olaf ydy:

  • Achosion Diogelu Iechyd
  • Systemau Rheoli Cymhwysol
  • Ymyriadau ar gyfer Iechyd a Datblygiad Cynaladwy
  • Prosiect*

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu megis darlithoedd, seminarau, ymweliadau, sesiynau ymarferol, dysgu ar sail problemau, astudiaethau achos ac ymarferion chwarae rôl. Cefnogir yr holl addysgu gan amgylchedd dysgu rhithwir Moodle a Microsoft Teams, sy'n helpu myfyrwyr i gael mynediad at wybodaeth pan fo angen. Defnyddir nodiadau, darllen a byrddau trafod i gefnogi dysgu myfyrwyr.

Drwy’r rhaglen radd, mae’r oriau cyswllt yn amrywio. Mae ein haddysgu ar y campws yn bennaf trwy weithdai, seminarau a darlithoedd a chaiff y rhain eu cefnogi gan weithgareddau ac adnoddau ar-lein. Dylai eich amser dysgu gyda'r staff a'ch cyfoedion gael ei gefnogi gan amser astudio hunan-ymroddedig.

Mae cynllun tiwtor personol yn cynnig cymorth academaidd a bugeiliol i’r myfyrwyr o’r flwyddyn gyntaf ymlaen ac mae’n annog myfyrwyr i osod a chyflawni eu nodau academaidd a gyrfaol drwy bob blwyddyn o'r rhaglen.

Mae’r holl staff addysgu yn weithredol ynghlwm wrth yr Academi Addysg Uwch gyda nifer yn ennill gwobrau a chydnabyddiaeth am eu harferion addysgu blaengar.

Asesu

Mae asesu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys:

  • Gwaith cwrs
  • Asesiadau ymarferol
  • Cyflwyniadau a phosteri
  • Gwaith grŵp
  • Asesiad cymheiriaid
  • Cyfweliad proffesiynol
  • Arholiadau ysgrifenedig

Darperir yr holl adborth ar asesiadau yn electronig a gall fod mewn amrywiaeth o fformatau yn cynnwys yn ysgrifenedig, ar fformat sain a fideo.

Darperir adborth ychwanegol drwy gydol y rhaglen yn ystod sesiynau a addysgir a chyfarfodydd gyda‘r tiwtor personol.

Ar ddechrau pob tymor bydd y myfyrwyr yn cael manylion am y rhaglen asesu ar gyfer y tymor hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys union natur a fformat yr asesu, meini prawf yr asesiad a manylion y dyddiadau cyflwyno gwaith.

Lluniwyd asesiadau i efelychu nifer o sefydliadau o ddydd i ddydd yn y gweithle. Mae hyn yn cynnig profiad ymarferol i’r myfyrwyr o’r hyn gallan nhw dod ar ei draws a’i ddisgwyl cyn mynd i mewn i gyflogaeth.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae astudio gradd Iechyd yr Amgylchedd yn llwybr i mewn i nifer helaeth o yrfaoedd.

O fewn y sector preifat mae pum disgyblaeth y radd yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfaol. Mae’r rhain yn cynnwys ymgynghoriaeth, rolau archwilio a chydymffurfio â rheoliadau o fewn cwmnïau canolig neu fawr eu maint yn y DU a thramor.

O fewn llywodraeth leol, mae proffesiwn ymarferydd iechyd amgylcheddol yn uchel ei pharch a chyflogir ymarferwyr iechyd amgylcheddol gan awdurdodau lleol drwy Brydain. Mae'r lluoedd arfog a chyrff iechyd cyhoeddus hefyd yn cynnig opsiynau gyrfaol cadarn i ymarferwyr iechyd amgylcheddol:

Mae ein graddedigion yn gweithio ym mhob un o’r meysydd canlynol:

  • Adrannau Iechyd Amgylcheddol Awdurdod Lleol
  • Llywodraeth ganolog a’i hasiantaethau (e.e. Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
  • Y lluoedd arfog (Y Fyddin, Y Llynges a’r Llu Awyr)
  • Cwmnïau Gwyliau a Theithio
  • Adwerthwyr mawr megis Tesco a Sainsbury’s
  • Ymgynghoriaeth breifat
  • Cymdeithasau Tai
  • Academia
  • Tramor
  • Datblygiad Iechyd Rhyngwladol

Mae cyfraddau cyflogaeth graddedigion y cwrs yn uchel iawn. Mae’r enw da sydd i’r cwrs a chynnwys y modiwl ar Gyflogadwyedd Broffesiynol ynddo yn cynorthwyo hyn. Nod y modiwl hwn yw darparu profiad gwaith ystyrlon a chymorth gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant i ddatblygu CVs cryf, datganiadau personol ar gyfer ceisiadau am swyddi a'r wybodaeth a'r doniau sydd eu hangen ar gyfer y broses ymgeisio..

Ymhlith cyfleodd ar gyfer astudiaeth bellach, mae cwrs MSc Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Llesiant a chwrs Meistr Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau ymchwil.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen mewn naill ai Iechyd neu’r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 96-104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau CC. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM.
  • Lefel T: Pasio (C+).
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dau Radd 5 mewn pynciau Lefel Uwch.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu neges Trydar ar @CMetAdmissions​.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Gayle Davis:
E-bost: gdavis@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5786

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
B910 - Gradd 3 blynedd
B91F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen Gwyddorau Iechyd)
B9BF​​ - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen Gwyddorau Cymdeithasol​)

Lleoliad yr Astudiaeth: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.

Wedi'i hachredu gan
Accreditation
Accreditation
Accreditation
Untitled Document
PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Proffil Graddedig

Mae Harriet yn Uwch Gynghorydd Amgylcheddol, Iechyd a Diogelwch yn Budweiser Brewing Group UK&I ABinBev. Mae'n sôn am amrywiaeth y rôl a sut mae'r sgiliau a ddysgwyd ym Met Caerdydd yn cael eu cymhwyso yn ei rôl o ddydd i ddydd.

Proffil Myfyriwr

“Yn ystod fy lleoliad yn British Airways, fe wnes i weithio gyda’r Adran Gydymffurfio. Rwyf wedi arsylwi a dysgu llawer o bethau oddi wrthynt. Mae’r tîm yn gyfrifol am sicrhau bod British Airways yn cadw at y rheoliadau, y safonau a’r rheolau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys mesurau diogelwch y diwydiant hedfan, iechyd a diogelwch yn ogystal â’r agwedd amgylcheddol y tu ôl iddo. Mae’r lleoliad wedi bod o fudd mawr i mi, gallaf o’r diwedd gymhwyso damcaniaethau rwyf wedi’u dysgu mewn darlithoedd mewn lleoliadau byd go iawn.”

Nadia Matin
BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd

Proffil Graddedig

Clywch gan Amy Anderson, un o raddedigion Iechyd yr Amgylchedd, a sut y cyflawnodd ei gyrfa ddelfrydol ar ôl astudio gyda ni. Mae Amy yn Ymgynghorydd Diogelwch Bwyd yn a2z Food Safety ac yn siarad â ni am sut mae hi'n cynnal arolygiad.

Taith Maes Dramor: Uganda

Ymwelodd myfyrwyr Iechyd yr Amgylchedd ag Uganda, gan fynychu cynhadledd Iechyd yr Amgylchedd, ymweld â’r cyhydedd a chael ychydig o gyfarfyddiadau agos â’r bywyd gwyllt lleol!

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Henry Dawson

Dewch i gwrdd â Henry Dawson, Uwch Ddarlithydd ar y radd Iechyd yr Amgylchedd ym Met Caerdydd, sy'n rhannu ei brofiad a'i angerdd am y pwnc.