Mae'r radd BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd wedi'i chymeradwyo gan gorff proffesiynol y diwydiant, Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain [BASES] ac mae'n canolbwyntio ar sail wyddonol perfformiad mewn chwaraeon a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff. Er mwyn cyflawni gofynion BASES, byddwch yn dilyn llwybr penodol drwy gydol y tair lefel sy'n canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth o ddisgyblaethau chwaraeon ac ymarfer craidd
ffisioleg,
biomecaneg a
seicoleg yn ogystal ag archwilio agweddau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda lefel uchel o berthnasedd a phrofiad galwedigaethol.
Fel rhan o astudio ar y radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gallwch hefyd ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn thema astudio ychwanegol yn seiliedig ar naill ai
cryfder a chyflyru,
maeth chwaraeon neu
atgyfeirio ymarfer corff a chyfarwyddyd ffitrwydd gyda'r cyfle i ennill cymwysterau galwedigaethol ychwanegol.
Drwy gydol y radd hon mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff byddwch yn cael profiadau ymarferol o weithgareddau mewn labordy yn ogystal â chael cyfleoedd i arsylwi a chymryd rhan mewn ymarfer cymhwysol. Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau cyd-destunol ymarferol mewn gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff, profi ffitrwydd, hyfforddi, rhagnodi ymarfer corff a lleoliadau perfformiad.
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer wedi'i seilio ar ddwy golofn. Yn gyntaf, sicrhau bod myfyrwyr yn wybodus yn nisgyblaethau gwyddonol sylfaenol ffisioleg, biomecaneg a seicoleg ac yn ail, sut y gellir cymhwyso'r wybodaeth a sgiliau yn y disgyblaethau hyn i'r cyd-destun chwaraeon ac ymarfer.
Cyflwynir pob disgyblaeth ym mlwyddyn 1 ac fe adeiladir ar hyn ym mlwyddyn 2 gyda modiwlau gorfodol sy'n sicrhau ehangder o wybodaeth a dealltwriaeth ynghyd â gwerthfawrogiad o sut y gall y disgyblaethau gyfuno i fynd i'r afael â chwaraeon a phroblemau sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff. Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn eich galluogi i ganolbwyntio ar un neu ddwy o'r disgyblaethau hyn gan sicrhau eich bod yn datblygu gwybodaeth a chymhwysiad uwch mewn maes sy'n cyd-fynd â'ch dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.
Hefyd, mae'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer yn archwilio'r continwwm sy'n ymestyn o'r chwaraeon cystadleuol hyd at ymarfer corff a gweithgaredd corfforol. Bydd hyn yn eich helpu i gael gwerthfawrogiad o'r gwahanol ysgogwyr ar gyfer chwaraeon ac ymarfer yn ogystal â'r gwahanol ofynion ac ymatebion hyfforddi a'r gwahanol rolau y mae chwaraeon ac ymarfer yn eu chwarae mewn gwahanol boblogaethau. Mae blynyddoedd 1 a 2 yn cyflwyno'r cyd-destunau gwahanol hyn o safbwynt disgyblaeth gydag opsiwn blwyddyn olaf i ganolbwyntio ar chwaraeon neu ymarfer fel prif thema.
Yn ychwanegol at y prif fodiwlau disgyblu byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau i hwyluso'ch trosglwyddiad i astudio ar lefel prifysgol, datblygu eich sgiliau ymchwil critigol a gwyddoniaeth, ymchwilio i ddisgyblaethau eraill sy'n gysylltiedig â chwaraeon a gwyddor ymarfer (e.e. maeth chwaraeon, cryfder a chyflyru ac atgyfeirio ymarferion) yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill cymwysterau cydnabyddedig sy'n berthnasol i'r diwydiant galwedigaethol.
Byddwch yn gallu ymgymryd â phrosiect mawr yn eich dewis faes astudio, ochr yn ochr â'r cynnwys pwnc-benodol o'ch dewis. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol sy'n cael ei yrru a fydd yn caniatáu i chi gymryd rheolaeth o'ch dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i swydd fel unigolyn graddedig neu i barhau i astudio ymhellach. Mae mentora yn rhan sylweddol o'r flwyddyn olaf o astudio i ganiatáu cefnogaeth unigol i ddatblygu eich sgiliau fel academydd ac ymarferydd yn y meysydd sy'n cyd-fynd â chwaraeon a gwyddor ymarfer.
Blwyddyn un
- Ymchwil ac Ysgolheictod*
- Datblygiad Proffesiynol
- Biomecaneg Symudiad Dynol
- Hanfodion Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer
- Hanfodion Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
- Pynciau sy'n Gysylltiedig â Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer
Blwyddyn dau
Modiwlau Craidd:
- Dylnunio a Phractis Ymchwil*
- Materion mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer*
- Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer
- Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
Opsiynau:
- Maetheg*
- Hanfodion Cryfder a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer (SES)
Blwyddyn tri
Modiwlau Craidd:
- Prosiect Terfynol*
- Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff Rhyngddisgyblaethol
Modiwlau Opsiynol:
- Biomecaneg Chwaraeon
- Biomecaneg Iechyd ac Adfer
- Ffisioleg Perfformiad Chwaraeon
- Ffisioleg Ymarfer Corff mewn Iechyd
- Seicoleg Chwaraeon
- Seicoleg Ymarfer Corff
- Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Cryfder a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff (SES)
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg Dysgu ac Addysgu
Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu o fewn y rhaglen chwaraeon a gwyddor ymarfer corff gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau, sesiynau ymarferol yn y labordy, siaradwyr gwadd ac ymweliadau â'r diwydiant. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.
Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.
Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer corff a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.
Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.
Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn cael profiadau dysgu o'ch cyfnod sefydlu hyd nes i chi raddio sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.
Mae nodweddion penodol o'ch profiad dysgu ar y rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn cynnwys y canlynol:
- Ymchwilwyr o fri rhyngwladol sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
- Adnoddau ac offer labordy gwyddor ymarfer corff o safon byd er mwyn gwella profiad dysgu myfyrwyr.
- Mae pob agwedd o Ddysgu ac Addysgu'n defnyddio'r llenyddiaeth ymchwil a'r safonau proffesiynol diweddaraf (e.e. BASES, CIMSPA, REPS). Mae'r rhaglen yn cael ei chydnabod fel gradd gymhwysol ym maes chwaraeon a gwyddor ymarfer corff ac wedi ei ardystio gan y corff proffesiynol BASES, Cymdeithas Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Prydain.
Asesu
Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer maes eich astudiaeth. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol ac hefyd i ddatblygu eich sgiliau hanfodol perthnasol i'r gweithle. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:
- gwaith cwrs ysgrifenedig
- cyflwyniadau poster
- cyflwyniadau llafar
- portffolios
- arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
- sgiliau ymarferol
- gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu'n seiliedig ar y gymuned.
Mae natur y rhaglen chwaraeon a gwyddor ymarfer corff yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr arddangos rhinweddau damcaniaethol (ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a meddwl yn gritigol) a cymhwysol (sgiliau ymarferol, datblygu ymyrraeth ac atgyfeirio), ac felly mae asesiadau o fewn modiwlau chwaraeon a gwyddor ymarfer corff yn cynnwys asesiadau damcaniaethol a asesiadau ymarferol mewn lleoliadau cymhwysol.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn ceisio datblygu eich cyflogadwyedd o dri safbwynt. Yn gyntaf, fel myfyriwr graddedig gyda safon uchel o sgiliau graddedig a ddatblygwyd trwy athroniaeth 'EDGE Met Caerdydd' sy'n eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd trwy ddysgu ar sail problemau, astudiaethau achos o fyd go iawn y diwydiant a phrofiadau gwaith ymarferol ar y campws a, lle bo hynny'n briodol, oddi ar y campws hefyd. Drwy eich holl gyfnod ym Met Caerdydd byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau graddedig trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Yn ail, i'ch datblygu chi fel gwyddonydd, fe'ch anogir i feddwl ac ysgrifennu'n gritigol; ffurfio a chyflwyno dadl resymegol; casglu, coladu, dadansoddi a dehongli data; a dylunio, gweithredu a gwerthuso ymyrraeth neu raglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Yn olaf, byddwch yn datblygu'r arbenigedd pwnc angenrheidiol i ddod yn ymarferydd chwaraeon a gwyddor ymarfer corff effeithiol yn eich dewis faes.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe gewch chi gyfle i ymgymryd â chymhwyster technegol mewn hyfforddi ffitrwydd ac archwilio ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, atgyfeirio ymarfer corff, diogelu a chyamddefnyddio cyffuriau. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar ac oddi ar y campws. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i'r diwydiant chwaraeon ac ymarfer.
Mae graddedigion diweddar o'r rhaglen chwaraeon a gwyddor ymarfer corff bellach yn gweithio gyda timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol ar chwaraeon. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd ym myd practis preifat, amgylchedd clinigol neu yn y lluoedd arfog, gwasanaethau argyfnwg a'r diwydiant ffitrwydd. Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ymhellach ar lefel Meistr ym maes chwaraeon a gwyddor corff neu ddisgyblaethau cysylltiol fel maeth chwaraeon, dadansoddi perfformiad chwaraeon, ffisiotherapi neu gryfder a chyflyru. Mae eraill wedi symud ymlaen ymhellach i astudio ar lefel doethuriaeth tuag at wneud gyrfaoedd fel ymchwilwyr neu academyddion.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
-
Pwyntiau tariff: 120-128
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch. Graddau BB i gynnwys Gwyddoniaeth.
-
Pynciau perthnasol: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol / Astudiaethau Chwaraeon, Mathemateg neu Fioleg Cymdeithasol yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM-DDM mewn Gwyddoniaeth neu Addysg Gorfforol.
-
Lefel T: Teilyngdod mewn pwnc Gwyddoniaeth.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6 a 1 x H5. H6 mewn Gwyddoniaeth.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2 i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau CC i gynnwys gradd C mewn Gwyddoniaeth. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni