Astudio>Ffioedd a Chyllid>Hepgor Ffioedd

Hepgor Ffioedd

​Gyda chymorth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) rydym yn cynnig cynllun hepgor ffioedd (yn amodol ar argaeledd) i gefnogi myfyrwyr israddedig rhan-amser na fyddent fel arall yn cael mynediad i addysg uwch. Bydd ffioedd cwrs myfyrwyr cymwys yn cael eu talu gan CCAUC.

I fod yn gymwys ar gyfer hepgor ffioedd rhaid i chi:

  • beidio ag astudio mwy nag 20 credyd yn y flwyddyn academaidd hon
  • fod yn byw yng Nghymru
  • fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
    • Myfyriwr neu deulu agos:
      • Credyd Cynhwysol
      • Lwfans Ceiwyr Gwaith
      • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
      • Cymhorthdal Incwm
      • Budd-dal Tai
      • Credyd Treth Gwaith
      • Credyd Treth Plant
    • Myfyriwr:
      • Lwfans neu Gredyd Gofalwr
      • Budd-dal yn ymwneud ag anabledd
      • Budd-dal Profedigaeth


Os nad yw’r meini prawf budd-daliadau uchod yn berthnasol i chi, gallai cyllid fod ar gael o hyd os ydych yn bodloni o leiaf un o’r canlynol:

  • rydych yn byw mewn ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu gyfranogiad isel mewn addysg uwch
  • rydych yn derbyn budd-daliadau cymwys fel Credyd Cynhwysol
  • rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig
  • os ydych yn ffoadur neu’n geisiwr lloches
  • mae gennych anabledd
  • rydych yn ofalwr
  • rydych yn Gadael Gofal neu’n bod brofiad o fod mewn Gofal
  • rydych chi’n nodi eich bod yn LBGTQ+
  • nid yw eich rhieni/gwarcheidwaid wedi cael eu haddysgu i lefel addysg uwch


Cyfeiriwch unrhyw gais (gyda thystiolaeth ategol – os yw’n berthnasol) i tuitionfees@cardiffmet.ac.uk​ – teitl yr e-bost fel F W APP gyda ID Myfyriwr Met Caerdydd – e.e., F W APP 20999999