Astudio>Ffioedd a Chyllid>Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

​​​​​​Cyllid Myfyrwyr

Beth ddylwn i ei wneud os yw Cyllid Myfyrwyr yn aros am gadarnhad o bresenoldeb?

Mae’r broses hon yn cael ei chwblhau gan y Gofrestrfa Academaidd. Anfonwch e-bost at enrolment@cardiffmet.ac.uk am gymorth.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn Cyllid Myfyrwyr?

Byddwn yn derbyn cadarnhad o’ch cyllid yn uniongyrchol gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn argymell eich bod yn gwneud cais gyda digon o amser fel bod y cais yn cael ei dderbyn cyn dechrau’r tymor.

Beth ddylwn i ei wneud os yw fy Nghyllid Myfyrwyr yn hwyr?

E-bostiwch ein hadran Trysorlys tuitionfees@cardiffmet.ac.uk a rhowch wybod bod eich cyllid myfyrwyr yn hwyr ac am unrhyw ddiweddariadau a gewch gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn eich annog i gysylltu â Chyllid Myfyrwyr yn rheolaidd.

Os na ddarperir cyllid erbyn dechrau Tymor 2, efallai y bydd gofyn i chi ddechrau talu eich ffioedd yn y cyfamser. Unwaith y byddwn yn derbyn cyllid gan gyllid myfyrwyr, bydd ad-daliad yn cael ei roi o unrhyw ordaliadau a allai fod ar eich cyfrif.

A fydd yn rhaid i mi dalu fy Ffioedd Dysgu os byddaf yn tynnu’n ôl o fy nghwrs?

Os ydych yn dymuno tynnu’n ôl o’ch cwrs, bydd eich dyddiad tynnu’n ôl yn pennu faint o’ch ffi ddysgu sy’n daladwy. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiad o’r dyddiadau, ar gael yma: Ffioedd a Thynnu’n Ôl.


Noddwr

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cael fy noddi​?

Anfonwch lythyr noddwr ar bapur pennawd i enrolment@cardiffmet.ac.uk. Bydd angen i’r llythyr noddwr gadarnhau’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r noddwr
  • Cyfeiriad post
  • Cyfeiriad e-bost
  • Lefel y cyllid
  • Enw a rhif y myfyriwrr
  • Rhif archeb (os yw’n berthnasol)

Unwaith y byddwn wedi derbyn hyn, gallwn ddiweddaru eich cofnod myfyriwr a bilio’ch noddwr yn uniongyrchol. Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn astudio.


Bwrsariaeth y GIG

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn bwrsariaeth y GIG?

Anfonwch eich llythyr Gwobr Myfyrwyr GIG i enrolment@cardiffmet.ac.uk ar ôl i chi ei dderbyn. O’r fan honno, gallwn ddiweddaru eich cofnod myfyriwr a bilio tîm bwrsariaeth y GIG yn uniongyrchol.


Hunan-Ariannu

A allaf dalu mewn rhandaliadau os ydw i’n hunan-ariannu?

Gallwch - gallwch wneud taliad llawn neu sefydlu rhandaliadau (Taliadau Cerdyn Aml-dro) drwy’r porth talu: Gwneud Taliad.

Mae cynlluniau rhandaliadau ar gael ar gyfer myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol.

Yr opsiynau rhandaliadau yw:

Myfyrwyr cartref hunan-ariannu, ac ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy’n dychwelyd sy’n parhau ar gwrs (Yn dechrau ym mis Medi):

Dyddiadau Talu% y Ffioedd Dysgu
​08/09/2023
​40%
​08/01/2024
​30%
​15/04/2024​
​30%


Myfyrwyr rhyngwladol hunan-ariannu newydd a myfyrwyr rhyngwladol yn symud ymlaen i gwrs newydd (Cofrestriad mis Medi):

Dyddiadau Talu % y Ffioedd Dysgu
Ar gais50%
08/01/202410%
08/02/2024​10%
​08/03/2024​10%
​08/04/2024​10%
​​08/05/2024​​10%


​Y cynllun rhandaliadau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol hunan-ariannu newydd a myfyrwyr rhyngwladol sy’n symud ymlaen i gwrs newydd yw (Cofrestriad mis Ionawr):

Dyddiadau Talu​​ % y Ffioedd Dysgu
Ar gais
​50%
​15/04/2024
​25%
16/09/2024
​25%


Sut allaf sefydlu cynllun rhandaliadau?

Gweler y ddogfen gyfarwyddiadol atodedig i gael arweiniad ar sefydlu cynllun rhandaliadau.

Nodwch wrth lenwi’r blwch rhif myfyriwr peidiwch â chynnwys y rhagddodiad ‘st’ sydd ynghlwm wrth eich rhif myfyriwr.

Faint yw fy ffioedd?

Mae’r holl ffioedd ar gyfer 2023/24 ar gael yma: Tabl Ffioedd 2023/2024.


Gostyngiadau ac Ysgoloriaethau

Ydw i’n gymwys ar gyfer unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?

Mae gwybodaeth am Ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Cartref ar gael yma: Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.

Mae gwybodaeth am Ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Rhyngwladol ar gael yma: Gwneud Cais am Ysgoloriaethau Met Caerdydd.

A allaf gael Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr?

Mae’r holl wybodaeth am y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gael yma: Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech gadarnhau a ydych yn gymwys, cysylltwch â scholarship@cardiffmet.ac.uk​.