Astudio>Ffioedd a Chyllid>Tynnu'n Ôl a Ffioedd

Tynnu'n Ôl a Ffioedd

Tynnu'n Ôl o'ch Astudiaethau

Os ydych chi'n ystyried tynnu'n ôl o'ch astudiaethau mae yna rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried. Efallai y byddwch yn gorfod talu rywfaint/i gyd o'ch ffioedd dysgu, yn dibynnu pryd gwnaethoch dynnu'n ôl. Bydd y swm hwn hefyd yn dibynnu ar sut y telir eich ffioedd dysgu.

Mae gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25 isod:

Ar gyfer Myfyrwyr Israddedig (Llawn Amser a Rhan-Amser) a Chyrsiau TAR


Amser tynnu'n ôlFfioedd Dysgu a delir yn uniongyrchol trwy Gyllid MyfyrwyrFfioedd Dysgu heb eu hariannu trwy Gyllid Myfyrwyr
Gwybodaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs Medi 2024Pythefnos cyntaf y tymor - Hyd at 6 Hydref 2024Dim tâlDim tâl

Cyfnod 1 - Hyd at 5 Ionawr 202525%40%

Cyfnod 2 - Hyd at 13 Ebrill 202550%70%

Cyfnod 3 - Unrhyw bryd o 14 Ebrill 2025100%100%


Ar gyfer Myfyrwyr Ôl-radd (Llawn Amser a Rhan-Amser) a Chyrsiau Ymchwil


Amser tynnu'n ôl
Gwybodaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs Medi 2024Pythefnos cyntaf y tymor - Hyd at 6 Hydref 2024Dim tâl

Cyfnod 1 - Hyd at 5 Ionawr 202540%

Cyfnod 2 - Hyd at 13 Ebrill 202570%

Cyfnod 3 - Unrhyw bryd o 14 Ebrill 2025100%


Os ydych chi'n dechrau'r flwyddyn academaidd ymlaen ar bwynt 'nad yw'n draddodiadol' (h.y., Ionawr neu Ebrill) neu'n gwneud 'cwrs byr', cysylltwch â'r Tîm Ffioedd Dysgu (manylion isod) i egluro'r cyfnodau.


Gwybodaeth Bellach

Gallwch gysylltu â'n Tîm Ffioedd Dysgu yn tuitionfees@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch sut y bydd tynnu'n ôl o'r Brifysgol yn effeithio ar eich taliadau ffioedd dysgu.

Gallwch gysylltu â'n Tîm Arian a Lles yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu ar 029 2041 6170 i drafod goblygiadau tynnu'n ôl o'r Brifysgol ar eich cyllid myfyrwyr.

Efallai yr hoffech chi siarad â'n Tîm Llety ar 029 2041 6188 neu ar accomm@cardiffmet.ac.uk i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â thenantiaeth.