Disgownt i Gyn-fyfyrwyr
Trosolwg o'r Dyfarniad |
---|
Gostyngiad o hyd at 20% mewn ffioedd dysgu. |
Pwy all wneud cais? |
---|
Graddedigion Met Caerdydd.
Mwy o wybodaeth. |
Bwrsariaeth Gofalwyr
Trosolwg o'r Dyfarniad |
---|
Dyfarniad arian parod gwerth hyd at £1,000 |
Pwy all wneud cais? |
---|
Ymgeiswyr ôl-raddedig Cartref sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed, ymdopi heb eu cymorth.
Mwy o wybodaeth
|
Ysgoloriaethau Perfformiad a Chwaraeon Elitaidd
Trosolwg o'r Dyfarniad |
---|
Pecyn cymorth wedi'i deilwra gwerth hyd at £5,000 |
Pwy all wneud cais? |
---|
Ymgeiswyr ôl-raddedig Cartref / UE / Rhyngwladol sy'n rhagori yn y gamp o'u dewis (gan gynnwys perfformiad a/neu hyfforddi). Mwy o wybodaeth.
|
Dyfarniad Noddfa
Trosolwg o'r Dyfarniad |
---|
Darparu tocyn bws Met Rider, taleb arlwyo, a dileu ffioedd dysgu’n llawn |
Pwy all wneud cais? |
---|
Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU. Gweler
yma am fanylion |
|
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am Ysgoloriaethau Ymchwil cliciwch
yma.
Os ydych chi'n dilyn cwrs a ariennir gan y GIG, gallwch ddod o hyd i fanylion Bwrsariaeth y GIG
yma.
Os ydych chi'n Fyfyriwr Rhyngwladol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Rhyngwladol
yma.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gallech ffeindio mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
yma.
Mae gennym dîm penodol yn ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr, a all gynnig cyngor ac arweiniad ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyllid a chymorth ariannol, a chyngor ar gyllidebu a rheoli arian. Gweler y tudalennau
Gwasanaeth Cynghori Cyllid a Lles Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.
Opsiynau Bwrsariaeth Allanol Eraill
Y tu allan i Met Caerdydd, gall fod opsiynau cyllido ar gael i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Rydym wedi rhestru rhai o'r opsiynau y daethom o hyd iddynt sydd ar gael
yma.
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar
scholarship@cardiffmet.ac.uk
Sylwer, defnyddir unrhyw wybodaeth a roddwch i ni o ran y bwrsariaethau ac ysgoloriaethau uchod ar gyfer asesu cymhwysedd dyfarniadau, dyraniad dyfarniadau a phroses dderbyn y Brifysgol. Mae eich asesiad cymhwysedd dyfarniadau yn gyffredinol dim ond yn cael ei weld gan staff cymorth bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Er, mewn rhai sefyllfaoedd, gall staff eraill y brifysgol weld eich cais/asesiad dyfarniad a gwybodaeth berthnasol, os oes rhaid ar gyfer y pwrpas o asesu, gweithredu gwobr, neu er mwyn darparu cymorth pellach. Er enghraifft, gellir rhanni gwybodaeth mewn achos ble mae’r wobr yn cael ei chydweinyddu gydag Ysgol academaidd neu adran, neu gyda Cofrestru, Cyllid, neu Gwasanaethau Masnachol er mwyn gweithredu eich gwobr, neu gyda chydweithwyr mewn Gwasanaethau Myfyrwyr ynglŷn â darparu cymorth.
Dyfernir y grant/cymorth ariannol hwn yn unol â gofynion ein Polisi Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.