Mae’r ffioedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac o gampws i gampws yn dibynnu ar y math o ystafell a dyrennir i chi. Fodd bynnag, mae holl gontractau Met Caerdydd yn cwmpasu cyfnod o 40 wythnos (sy’n cyd-fynd â’r flwyddyn academaidd), sy’n golygu y gall myfyrwyr aros mewn neuadd a gadael eu heiddo yn eu hystafell yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.
Rhaid i fyfyrwyr gofrestru am y cyfnod cyfan o 40 wythnos ac ni ellir eu rhyddhau o’u contract oni bai y deuir o hyd i rywun i gymryd eu lle neu eu bod yn gadael Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae myfyrwyr yn dal i fod yn atebol am rent tan ddiwedd y tymor y maent yn gadael, ar yr amod eu bod yn hysbysu’r Rheolwr Neuaddau, yn dychwelyd eu cerdyn mynediad / allweddi ac yn derbyn cadarnhad eu bod yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol erbyn diwrnod cyntaf y tymor newydd nesaf.
Rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yn unrhyw un o’r neuaddau preifat gofrestru am y cyfnod cyfan o 42 wythnos ac ni ellir eu rhyddhau o’u contract oni bai y deuir o hyd i rywun i gymryd eu lle. Os byddant yn gadael Prifysgol Metropolitan Caerdydd yna byddant yn dal yn ostyngedig i delerau eu contract. Bydd myfyrwyr mewn neuaddau preifat hefyd angen gwarantwr yn y DU cyn y gallant symud i mewn i’w hystafell.
Telir ffioedd neuadd Met Caerdydd mewn tri rhandaliad – Hydref, Gaeaf a Gwanwyn. Telir ffioedd Unite mewn naill ai dau neu dri rhandaliad. Gellir cael rhagor o fanylion am ffioedd neuaddau a dulliau talu trwy gysylltu â’r Gwasanaethau Llety.
Help i dalu am neuaddau preswyl
Mae gan y Brifysgol ystod o becynnau cymorth ariannol i helpu i wneud talu am eich neuaddau ychydig yn haws. Mae ein bwrsariaethau, ysgoloriaethau a gwobrau ‘Bywyd Astudio’ ar gael i fyfyrwyr Met Caerdydd. Cliciwch isod i weld a ydych yn gymwys:
Gwobr Bywyd Astudio
Yn ogystal, rydym yma hefyd i helpu os ydych chi byth yn cael trafferth talu am eich Neuaddau; gall hyn gynnwys trafod cynlluniau talu amgen neu ddarparu cymorth a chyngor ariannol arall. Mae croeso i chi gysylltu â’ch Tîm Neuaddau i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
Mae rhagor o fanylion am gymorth ariannol gan Wasanaethau Myfyrwyr ac ar Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau i’w gweld yma:
Beth yw’r costau? - Neuaddau preswyl Met Caerdydd
Mae contractau neuaddau preswyl Met Caerdydd yn rhedeg am gyfnod o 40 wythnos. I ddarganfod mwy am yr ystod o neuaddau preswyl a chostau cysylltiedig ar ein Campysau Plas Gwyn a Chyncoed, dilynwch y dolenni isod:
Beth yw’r costau? - Neuaddau preswyl preifat
Mae pob contract neuaddau preswyl preifat yn rhedeg am gyfnod o 42 wythnos. I ddarganfod mwy am yr ystod o neuaddau preswyl preifat a chostau cysylltiedig, dilynwch y dolenni isod:
Dyddiadau Talu Ffioedd Neuaddau Preswyl 2024/25
Lleihau costau teithio a bwyd
Fy Ngherdyn Teithio
Mae Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru ar gael i bob myfyriwr 16-21 oed! Gallwch wneud cais nawr i gael gostyngiad o hyd at 30% ar bob taith bws ledled Cymru hyd at eich pen-blwydd yn 22 oed! Ewch i wefan Fy Ngherdyn Teithio i wneud cais cyflym a hawdd. Mae angen i chi gael cyfeiriad preswylydd yng Nghymru, ond y newyddion da yw bod eich cyfeiriad neuaddau preswyl neu landlord newydd yn cyfrif!
Gwneud cais am FyNgherdynTeithio
Pecynnau Bwyd ym Met Caerdydd
Arbedwch hyd at 20% ar gost eich bwyd a diod gyda’n cynllun prydau Bwndel Bwyd!
Drwy dalu ymlaen llaw, mae’r pecyn bwyd yn eich galluogi i brynu bwyd a diod am fwy fyth o werth yn unrhyw un o’r saith lleoliad arlwyo ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Darganfyddwch fwy am ein pecynnau bwyd yma.