Beth yw CYIGLl
Y Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CYIGLl) yw canolfan ymchwil ddiweddaraf Metropolitan Caerdydd. Â’i lleoliad yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ac Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol y Brifysgol, mae'n gwneud defnydd o staff, diddordebau ymchwil ac arbenigedd o bob rhan o'r Ysgol a'r Brifysgol gyfan. Mae gennym bersbectif rhyngddisgyblaethol a dilynwn arferion gwaith cydweithredol sy'n canolbwyntio ar gydgynhyrchu. Gyda chysylltiadau cryf â chanolfannau a sefydliadau ymchwil eraill mewn prifysgolion o bob rhan o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, ei nod yw dod yn brif Ganolfan ar gyfer ymchwil iechyd, gweithgarwch a lles yng Nghymru.
Gweledigaeth CYIGLl
Gan ddilyn dull cyfoes o ddatrys problemau, rydyn ni’n cydweithio gyda chymunedau a phoblogaethau arbennig i wella iechyd a lles yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cwmpas CYIGLl
Yn unol â'r agenda iechyd a lles gyfredol a phellgyrhaeddol yn ein cymdeithas, nod CYIGLl yw mynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf cymdeithas. Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (2015) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn hollbwysig i'n ffocws, ac mae ein meysydd diddordeb penodol yn cynnwys:
Atal, trin a rheoli clefydau anhrosglwyddadwy (NCDs)
Anweithgarwch corfforol
Iechyd meddwl ac ansawdd bywyd
Iechyd corfforol a'i addysg ar hyd y rhychwant oes
Gorbwysedd/gordewdra
Anghydraddoldebau iechyd.
Dull CYIGLl:
TEr mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, nod y CYIGLl yw:
Datblygu datrysiadau arloesol
ADilyn dulliau cwrs bywyd cynaliadwy a chynhwysol
Cymryd safbwynt ecolegol-gymdeithasol
Defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar systemau er mwyn gwella iechyd/iechyd a lles
Dilyn dulliau cynhwysol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol gyda chyd-gynhyrchu yn greiddiol iddynt.
CAWR's Director
The Director of CAWR is Professor Diane Crone. Diane has extensive experience of applied, pragmatic research in the area of health and wellbeing, and specifically physical activity and art interventions for mental health improvement.
She joined the university in 2019 and brings with her a wealth of experience leading research and evaluation across the UK and internationally. She is passionate about ensuring research and its outcomes are both collaborative and directly influence policy and practice in our communities.
At the launch of CAWR she stated: "Our ambition is to be the ‘go to’ Centre for the development of health, activity and wellbeing research in Wales.”