Poblogaeth Risg a Gofal Iechyd
Mae’r thema Poblogaeth, Risg a Gofal Iechyd yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd arbenigol, ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd. Mae’r Canolfannau sy’n rhan o’r Ysgol yn gwneud cyfraniad allweddol at nifer o’r grwpiau ymchwil isod.
Mae’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE wedi datblygu arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol yn y diwydiant bwyd a diod, ac mae’n darparu gwaith ymchwil diogelwch bwyd mewn nifer o feysydd gan gynnwys diogelwch bwyd mewn lleoliadau domestig a gofal iechyd. Mae’r Ganolfan Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (CHSE) yn uned ymchwil ac ymgynghori sy’n rhan hanfodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Grŵp Iechyd Galwedigaethol, Iechyd Amgylcheddol ac Iechyd y Cyhoedd. Mae’r gwaith yn cynnwys ymchwil bioaerosol i effeithiau ar iechyd pobl a chlefydau sy’n gysylltiedig â thlodi.
Un datblygiad cyffrous yw sefydlu’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Llesiant. Bydd nifer o grwpiau yn ymgysylltu â’r Ganolfan hon, gan gynnwys COAL, Seicoleg a Newid Ymddygiad, ac Iechyd a Llesiant y Cyhoedd. Mae gwaith y grwpiau hyn yn cynnwys manteision yr awyr agored a gwirfoddoli i lesiant meddwl, Adweitheg Draenio Lymffatig (RLD) a therapïau cyflenwol, a darparu a gwerthuso ymyraethau iechyd cymhleth i wella iechyd a llesiant.
Yn ogystal, mae enghreifftiau o weithgarwch ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd yn cynnwys awdioleg a datblygu lleferydd dwyieithog ym maes Lleferydd, Clywed a Chyfathrebu. Mae’r Grŵp Microbioleg a Heintiau yn canolbwyntio ar ymchwilio i bathogenau dynol o darddiad bacteriol, ffwngaidd a firaol.
Grwpiau Ymchwil ac Arloesi
Cysylltiadau Allweddol
Dr Rhiannon Phillips - Seicoleg Gymhwysol a Newid Ymddygiad
Dr Elizabeth Redmond - Diogelwch Bwyd
Dr Sarah Maddocks - Microbioleg a Heintiau
Prof George Karani - Iechyd Galwedigaethol, Iechyd Amgylcheddol ac Iechyd y Cyhoedd
Dr Britt Hallingberg - Iechyd a Llesiant y Cyhoedd
Dr Robert Mayr - Lleferydd, Clywed a Chyfathrebu