Mae’r rhaglen sylfaen hon mewn Gwyddorau Cymdeithasol wedi’i anelu at y rhai sy’n dymuno ymrestru ar raglen wyddonol Uwch Ddiploma Cenedlaethol (HND) neu raglen radd Anrhydedd (Anrh) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Lluniwyd y rhaglen Sylfaen ar gyfer y rhai heb gyflawni’r nifer ofynnol o bwyntiau lefel A (A2 neu gyfwerth) neu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio pynciau Lefel A (neu eu cyfwerth) mewn meysydd sydd ddim yn darparu’r cefndir angenrheidiol yn nisgyblaethau’r llwybrau arfaethedig (HND neu radd).
Nod arall y cwrs ydy ehangu mynediad a chyfranogiad ar gyfer myfyrwyr sy’n ‘dychwelyd i ddysgu’ sydd yn dymuno mynd i mewn i addysg uwch.
Cynnwys y Cwrs
Dysgu ac Addysgu
Defnyddir amrywiaeth o strategaethau addysgu i adlewyrchu gofynion y pwnc arbennig, yr amrywiaeth yn arddulliau dysgu'r myfyrwyr, y profiad proffesiynol sy'n bodoli o fewn y grŵp a lefel a math o astudiaeth sydd ei angen yn ystod y rhaglen.
Ymhlith y dulliau addysgu mae darlithoedd, gwaith grŵp bach sesiynau ymarferol, y defnydd o’r Rhith Amgylchedd Dysgu (VLE), gweithdai, tiwtorialau a dysgu annibynnol.
Mae hon yn rhaglen llawn amser a disgwylir i fyfyrwyr ymglymu drwy fynychu sesiynau addysgu/dysgu yn rheolaidd a chwblhau tasgau a aseinwyd mewn pryd. Ar gyfartaledd, mae 10 awr o gynnwys a addysgir bob wythnos. Yn ychwanegol, disgwylir i fyfyrwyr wneud 10 – 15 awr o hunan-astudiaeth /dysgu annibynnol bob wythnos gan y bydd hyn yn help i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ogystal â’u galluogi i gwblhau eu haseiniadau.
Ategir dysgu myfyrwyr gan y system tiwtoriaid personol a fydd yn cynnig cymorth academaidd a bugeiliol i’r myfyrwyr.
Mae’r tîm addysgu cyfan yn addysgu’n weithredol ar wahanol lwybrau’r rhaglen ac yn gallu cynnig cymorth a chyngor i fyfyrwyr o ran y cyfleoedd astudio sydd ar gael ar gyfer is-raddedigion.
Asesu
Asesir pob modiwl a astudir er mwyn arddangos a darparu tystiolaeth am gyflawniad academaidd y myfyrwyr. Nod yr asesiadau ydy sicrhau bod myfyrwyr wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth israddedig.
Ymhlith y strategaethau addysgu mae:
Arholiadau - Gall y rhain gynnwys traethodau academaidd, cwestiynau aml-ddewis a chwestiynau atebion byr.
Gwaith cwrs - Gallai hyn gynnwys traethodau academaidd, adroddiadau ymchwil, profion dosbarth, cyflwyniadau, posteri, astudiaethau achos, aseiniadau adfyfyriol a phortffolios
Amlinellir
Asesiadau penodol ar gyfer pob modiwl yn llawlyfr y modiwl a’u hategu ymhellach yn ystod sesiynau addysgu/dysgu.
Ar ddechrau’r flwyddyn caiff y myfyrwyr eu hamserlen asesu. Bydd hon yn rhoi manylion am natur a fformat yr asesu ynghyd â dyddiadau cyflwyno gwaith. Ceir gwybodaeth fwy manwl am bob asesiad, yn cynnwys y meini prawf marcio ar dudalen y modiwl perthnasol ar Moodle.
Cyflwynir ac eglurir asesiadau ar y cychwyn yn ystod y ddarlith berthnasol. Bydd arweinydd y modiwl yn cynnig cymorth gyda'r asesu ynghyd â chymorth ychwanegol yn y tiwtorialau grŵp.
Darperir adborth ar y gwaith cwrs yn electronig a chynigir adborth pellach yn ystod sesiynau a addysgir ac mewn cyfarfodydd gyda’r tiwtor personol.
Cyflogadwyedd, Gyrfaoedd a Symud Ymlaen i Astudiaeth Bellach
Nod y flwyddyn Sylfaen ydy, o’i chwblhau’n llwyddiannus, galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i wahanol raglenni Gradd/HND o fewn y Gwyddorau Cymdeithasol. Fel y cyfryw, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau ar gyfer astudiaeth israddedig lwyddiannus a fydd, yn y pen draw, yn arwain at yrfa yn eu dewis faes.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr, fel arfer, 5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Mamiaith), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr) ynghyd ag un o’r canlynol:
- 48 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch ar Lefel 4 ond mewn meysydd pwnc sy’n methu â chwrdd â gofynion mynediad y rhaglen radd israddedig o’u dewis.
- 48 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth mewn meysydd pwnc perthnasol i’w rhaglen radd israddedig o’u dewis, ond ar safon sy’n methu â chyrraedd gofynion mynediad i Addysg Uwch Lefel 4.
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru yn sefyll arholiad diwygiedig Mathemateg TGAU, byddwn yn derbyn naill ai TGAU
Mathemateg neu
Mathemateg – Rhifedd.
Caiff darpar fyfyrwyr sydd heb gwrdd â’r meini prawf uchod eu hystyried yn unigol ac efallai cael eu gwahodd i gyfweliad.
Os ydych yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os na restrwyd eich cymhwyster, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at
Chwiliad UCAS am Gyrsiau. Am ragor o wybodaeth ar gyfer ein gofynion mynediad, yn cynnwys cymwysterau o’r UE, cliciwch
yma.
Gweithdrefnau Dethol:
Detholir fel arfer ar sail cais cyflawn UCAS a lle bo’n berthnasol ar gyfweliad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r
tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Sut i Wneud Cais: Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau
Sut i Wneud Cais.
Myfyrwyr aeddfed
Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach
yma.
Cysylltu â Ni
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs,
yn berthnasol i’r flwyddyn sylfaen yn unig, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Sarah Taylor:
E-bost: sjtaylor@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 5711