Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Iechyd a Llesiant - Gradd BSc (Anrh)

Iechyd a Llesiant - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Lluniwyd cwrs gradd BSc (Anrh) Iechyd a Llesiant ym Met Caerdydd i baratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y maes cynyddol ddeinamig a datblygol hwn. Gyda’r ffocws ar sgiliau proffesiynol a materion chyfoes ym maes iechyd a llesiant, cynigir set eang o sgiliau i fyfyrwyr i’w paratoi am yrfa foddhaus ac amrywiol o fewn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Drwy gydol y cwrs, bydd tîm rhyngddisgyblaethol o ddarlithwyr arbenigol yn cynnig y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau proffesiynol i’w paratoi am waith fel gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd a llesiant.

Bydd y pwyslais ar gymhwyso ymyriadau yn ymarferol, sgiliau cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth yn cynorthwyo’ch datblygiad fel gweithiwr proffesiynol hyblyg a chydnerth.

Bydd eich astudiaethau ar radd Iechyd a Llesiant ym Met Caerdydd yn cychwyn gyda modiwlau sylfaenol i iechyd a llesiant ar draws cylch bywyd: anatomi, ffisioleg a phatholeg, maethiad, dylanwadau seicolegol a chymdeithasegol ar iechyd a llesiant.

O fan hyn, byddwch yn symud ymlaen i ddeall y theori ac ystyried effaith o ystod o ddulliau o fynd ati i ddelio â llythrennedd iechyd ar gyfer unigolion a phoblogaethau tra’n datblygu dealltwriaeth o bolisïau cymdeithasol a iechyd ac is-adeiledd.

Mae’r flwyddyn olaf yn darparu dysgu yn seiliedig ar waith a modiwlau lleoliad a fydd yn gwella’ch cyfleoedd i gael cyflogaeth. Ategir y rhain gan sgiliau arweinyddiaeth, rheoli ac entrepreneuraidd. Byddwch hefyd yn gwneud prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf.

Drwy gydol y radd hon mewn Iechyd a Llesiant, bydd y ffocws ar ddull holistaidd o fynd ati i ddelio â iechyd a llesiant, gan wella’ch datblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol tra’n cynnig profiad dysgu amlweddog.

Sylwch: Nid yw’r rhaglen hon yn rhedeg ar gyfer mynediad Medi 2024/2025 ac felly ni fydd yn derbyn ceisiadau.

Cynnwys y Cwrs

Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth hanfodol ym maes gwyddoniaeth sylfaenol a phynciau sylfaenol yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan symud ymlaen i ystyried yn gritigol ystod o ymyriadau i wella iechyd a llesiant ym mlwyddyn dau, cyn gweithredu ymyriadau o’r fath drwy ddysgu yn seiliedig ar waith yn ystod blwyddyn tri a datblygu gwerthfawrogiad o’r polisïau a’r is-adeiledd sydd yn angenrheidiol ar gyfer effaith gynaliadwy.

Cyflwynir sgiliau academaidd ac ymchwil ar Lefel 4. Ar Lefel 5 datblygir y rhain ymhellach a chewch gymorth i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol ar Lefel 6.

Bydd modiwlau opsiynol blwyddyn olaf yr astudiaeth (Lefel 6) yn cynnig cyfle i ennill cymhwyster a achredir yn broffesiynol mewn disgyblaeth gofal iechyd ategol i gynyddu’ch rhagolygon cyflogaeth wrth i chi baratoi i gael gwaith fel ymarferydd iechyd a llesiant.

Blwyddyn Un (Lefel 4). Mae’r holl fodiwlau yn rhai craidd

  • Rhagarweiniad i sgiliau academaidd ac ymchwil
  • Anatomi, ffisioleg a phatholeg
  • Maethiad (Maetholion Macro a Micro)
  • Seicoleg Iechyd a Llesiant
  • Penderfynyddion Iechyd
  • Ymarfer Proffesiynol Cydweithredol

Blwyddyn Dau (Lefel 5) Mae’r holl fodiwlau yn rhai craidd

  • Asesu a Gwella Iechyd y Boblogaeth a Llythrennedd Iechyd
  • Newid arferion ar gyfer Iechyd a Llesiant
  • Materion Cyfoes mewn Iechyd a Llesiant
  • Dulliau Ymchwil

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

  • Prosiect Ymchwil - Modiwl craidd
  • Ymarfer Proffesiynol Prosiect - Modiwl craidd
  • Dysgu yn seiliedig ar Waith - Modiwl craidd
  • Ymyriadau ar gyfer Newid - Modiwl opsiynol
  • Tylino Holistaidd * - Modiwl opsiynol
  • Adweitheg Clinigol* - Modiwl opsiynol

*Cymwysterau a achredwyd yn broffesiynol

Dysgu ac Addysgu

Bydd darlithoedd arweiniol gyda chymorth seminarau a gwaith grŵp yn cynnig dull seiliedig ar broblem o fynd ati i ddysgu. Bydd ffocws cynyddol ar roi’r theori ar waith wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen gan orffen gyda phrosiect ymchwil a phrofiadau’r byd real yn ystod y flwyddyn olaf.

Cynigir y cwrs gan dîm rhyngddisgyblaethol o ddarlithwyr arbenigol a fydd yn eich helpu i gaffael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau proffesiynol i’ch paratoi i weithio fel ymarferydd iechyd a llesiant.

Ategir yr holl ddysgu a’r addysgu gan Moodle, rhith amgylchedd dysgu’r brifysgol. Yn ogystal, mae cymorth adnoddau dysgu ar y campws a'r llyfrgell electronig a chymorth sgiliau astudio ar gael ar gyfer yr holl fyfyrwyr.

Ein nod ydy cynorthwyo’ch taith academaidd a phroffesiynol gyda dull hyblyg ac uchel ei ansawdd o fynd ati i addysgu a dysgu. Mae gan staff bolisi drws agored yn ystod oriau arferol swyddfa a neilltuir tiwtor personol ar eich cyfer yn ystod y cyfnod ymrestru. Bydd eich tiwtor personol yn cwrdd â chi wyneb yn wyneb yn gyson a bydd yn eich cynorthwyo drwy gydol eich astudiaethau.

Asesu

Lluniwyd yr ystod o asesiadau ar y cwrs i’ch cynorthwyo i ddatblygu set sgiliau academaidd a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth fel ymarferydd iechyd a llesiant. Defnyddir portffolios, adroddiadau adfyfyriol, cyflwyniadau, arholiadau, dysgu yn seiliedig ar waith, astudiaethau achos a phrosiect ymchwil ar ffurf erthygl cylchgrawn i asesu a chynorthwyo eich cynnydd drwy’r cwrs.

Mae cymorth academaidd ar gael drwy adnoddau’r llyfrgell ynghyd â seminarau a thiwtorialau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiadau hyn. Darperir briffiau aseiniadau, canllawiau a dyddiadau cyflwyno ymhell ymlaen llaw i'ch helpu i reoli’ch amser yn effeithiol. Mae gweithdai, tasgau ar-lein ac asesiadau cymheiriaid yn cwblhau’r pecyn cymorth.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Nod y cwrs ydy’ch helpu i ddatblygu’r wybodaeth y ddealltwriaeth a’r sgiliau proffesiynol perthnasol a fydd yn caniatáu i chi weithio i gynorthwyo strategaethau iechyd a llesiant, yn seiliedig ar dystiolaeth dyfredol, egin dechnolegau ac arferion ar gyfer ystod eang o unigolion ar draws eu cylch bywyd.

Trwy gydol y cwrs byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich proffesiynoldeb ac i wneud y gorau o'r ystod o gyfleoedd a phrofiadau sydd ar gael. Bydd dull dysgu seiliedig ar broblemau, cymhwyso ymyriadau’n ymarferol trwy brofiadau byd go iawn, ynghyd â chymwyseddau EDGE Met Caerdydd (Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd) yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth, gwaith llawrydd a/neu astudiaeth bellach (Meistr a lefel doethuriaeth).

Bydd angen y cefndir hwn ar gyfer cyflogaeth o fewn sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn cynnwys rolau megis Cydlynwyr Llesiant y GIG. Addysg, Cydlynwyr Llesiant Cymunedol, datblygu darpariaeth iechyd a llesiant ar gyfer sefydliadau’r sector preifat, datblygiadau tai â chymorth, gweithio o fewn elusennau iechyd meddwl a llesiant neu ar gyfer bod yn ymgynghorydd llawrydd.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Gradd:
5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg* gradd C neu uwch (graddfa 4 neu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr) ynghyd â 96-112 o bwyntiau drwy o leiaf 2 Lefel A (neu gyfwerth).

Cynigion nodweddiadol fyddai:

  • 96-112 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A i gynnwys o leiaf graddau CC; - ystyrir Tystysgrif Her Uwch Sgiliau – Bagloriaeth Cymru fel trydydd pwnc
  • RQF BTEC Diploma Genedlaethol Estynedig / Diploma Technoleg Estynedig Caergrawnt MMM - DMM
  • 96-112 o bwyntiau o Dystysgrif Ymadael ('Leaving Certificate') ar 'Highers' i gynnwys graddau 3X H2 Dim ond gyda lleiafswm gradd o H4 'Highers' y caiff pynciau lefel uwch eu hystyried.
  • 96-112 o bwyntiau o 2 o leiaf o 'Advanced Highers' yr Alban i gynnwys graddau DD
  • 96-112 o bwyntiau o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll arholiad diwygiedig Mathemateg TGAU, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.

Am wybodaeth benodol am ofynion mynediad neu os na restrwyd eich cymhwyster uchod, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at Chwiliad UCAS am gyrsiau. Ceir gwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, yn cynnwys cymwysterau o’r UE, drwy glicio yma.

Mae ymgeiswyr heb feddu ar leiafswm gymwysterau mynediad arferol yn cael cyfweliad ac yn cael eu hystyried yn unigol ar sail eu dysgu blaenorol neu eu cefndir gwaith. Ar gyfer ymgeiswyr sydd ond yn cymryd 2 bwnc Lefel A neu gyfwerth, caiff hyn ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd ac efallai y cynigiwn gynnig wedi’i raddio yn hytrach na defnyddio Tariff UCAS.

Os nad ydych yn cwrs â’r gofynion mynediad uchod, mae’r cwrs Sylfaen yn arwain at ‘BSc Gwyddorau Iechyd’ neu’r cwrs Sylfaen yn arwain at BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol ar gael am un flwyddyn amser llawn a bydd yn cynnig cymhwyster perthnasol i chi a fydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i’r cwrs gradd hwn ar ôl cwblhau’r cwrs sylfaen yn llwyddiannus.

Mae mynediad i’r rhaglen hon hefyd yn amodol ar wiriad boddhaol y Swyddfa Datgelu a Gwahardd. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefnau Dethol:
Dewisir fel arfer ar sail derbyn ffurflen gais gyflawn UCAS a, lle bo’n berthnasol, ar gyfweliad.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com.Dylid gwneud cais am gyrsiau rhan amser yn uniongyrchol i’r Brifysgol yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3

Os oes diddordeb gyda chi mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd am gwrs sy’n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3 cewch ragor o wybodaeth am hyn a sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â’r Adran Dderbyniadau os oes gennych unrhyw ymholiad am Gydnabod Dysgu Blaenorol.

Myfyrwyr aeddfed

Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Cysylltu â Ni

Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

FAr gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â:
Email: jduffy@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 205612

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS: B700

Lleoliad yr astudiaeth: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs: 3 blynedd lawn amser neu 4 blynedd llawn amser yn cynnwys y flwyddyn Sylfaen. Hefyd ar gael yn rhan amser a gall fod yn para hyd at wyth mlynedd. Mae myfyrwyr rhan amser yn ymuno â myfyrwyr llawn amser ar gyfer pob modiwl. Felly, cwblheir mwyafrif y modiwlau rhwng 9.00am a 6.00pm yn ystod yr wythnos.

TROSOLWG CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Yn y fideo cyflwyniad byr hwn, mae Cyfarwyddwr y Rhaglen, Julie Duffy, yn dweud mwy wrthym am y radd mewn Iechyd a Lles.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Julie Duffy

Dewch i gwrdd â Julie Duffy, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd Iechyd a Lles ym Met Caerdydd, sy'n rhannu ei phrofiad a'i hangerdd am y pwnc.