Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig - Gradd BSc (Anrh)

Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig- BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae cwrs gradd Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig yn rhaglen gymhwysol unigryw yn cynnig cyfle i ystyried materion addysgol ac anghenion addysgol ychwanegol o safbwyntiau seicolegol. Ceir ffocws cryf ar ymchwil seicolegol drwy’r holl gwrs gradd a byddwch yn datblygu'r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall sut gall seicoleg cymhwysol fod yn sail i bolisi ac arferion addysgol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Cewch eich addysgu gan staff sy’n brofiadol yn y defnydd o seicoleg mewn cyd-destunau addysgol, mewn addysg brif-ffrwd ac addysg arbennig. Bydd modiwlau yn cyfuno agweddau o seicoleg gydag addysg ac anghenion dysgu ychwanegol, gan annog dull integredig o fynd ati i drin y pynciau hyn. Bydd y cwrs BSc (Anrh) yn cynnig gwybodaeth ddamcaniaethol drylwyr, strategaethau ymarferol a sgiliau meddwl yn gritigol y gellir eu defnyddio i gyfoethogi holl gyd-destunau addysgol a chynorthwyo ystod o ddysgwyr yn cynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd cyfleoedd i ystyried sut mae theori ac ymarfer yn integreiddio drwy leoliadau mewn sefyllfaoedd perthnasol i faes addysg ar draws cyfnod tair blynedd y radd. Bydd hyn yn cynnig profiad gwerthfawr y mae gan gyflogwyr feddwl uchel ohono. Bydd hefyd gyfleoedd i chi ennill cymwysterau ychwanegol, a thrwy hynny gwella’ch cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach.

Mae’r radd hon yn borth delfrydol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa broffesiynol mewn meysydd megis addysg arbennig, addysgu mewn ysgolion cynradd, gwasanaethau cymorth addysgol, gwaith cymdeithasol addysgol a seicoleg addysgol. Mae hefyd yn cynnig ystod o sgiliau y mae cyflogwyr mewn nifer o feysydd eraill yn eu blaenoriaethu.

Cyrsiau cysylltiedig
I'r myfyrwyr hynny sydd am ennill achrediad Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS) ar gyfer gyrfa ym maes Seicoleg, mae Met Caerdydd yn cynnig cwrs MSc Seicoleg mewn Addysg.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

​​Blwyddyn Un
Y Plentyn sy'n Datblygu (20 credyd)

Beth yw ‘plentyndod' a sut mae hyn yn ymwneud â datblygiad drwy gydol oes? Pa effaith y mae iechyd meddwl a chorfforol gwael yn ei chael ar blant a'u datblygiad? Bydd y modiwlau hyn yn datblygu eich gwybodaeth am ddatblygiad plant ac yn ystyried datblygiad seicolegol a chorfforol a ffactorau sy'n dylanwadu ar hyn. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys sut mae seicoleg plentyn yn newid dros amser a sut mae'r byd cymdeithasol yn effeithio ar ddatblygiad gwybyddol. Byddwn yn ystyried cerrig milltir pwysig, er enghraifft, mewn perthynas ag ymddygiad cymdeithasol/emosiynol a iaith a lleferydd, a sut mae'r rhain yn berthnasol i ddatblygiad arferol ac anarferol.

Grymuso a Diogelu Plant a Phobl Ifanc (20 credyd)

Pam mae angen amddiffyn plant? I ba raddau y dylai plant gael llais mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt? Bydd y modiwl hwn yn archwilio deddfwriaeth a pholisi allweddol sydd ar waith i amddiffyn a diogelu plant rhag camdriniaeth. Mae'r modiwl hefyd yn ceisio archwilio'r cydbwysedd rhwng sicrhau bod plant yn cael eu diogelu yn ogystal â grymuso a gwrando ar farn plant. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys gwahanol safbwyntiau am blentyndod, diogelu yn y byd go iawn yn ogystal ag archwilio heriau grymuso plant ag anableddau ac anghenion cymhleth.

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Cynhwysol (40 credyd)
Beth yw AAA ac ADY a beth mae'n ei olygu i bod â’r anghenion hyn? Beth mae'n ei olygu i fod yn gynhwysol a pha mor gynhwysol yw ein system addysg? Pa partneriaethau asiantaethau sy’n cydweithio i ddarparu addysg arbennig? Mae'r modiwl hwn yn ystyried datblygiadau hanesyddol ym meysydd cynhwysiant, anabledd ac anghenion arbennig/ychwanegol a bydd yn archwilio damcaniaethau a chysyniadau yn y meysydd hyn. Bydd cyfleoedd hefyd i archwilio beth mae arferion cynhwysol yn ei olygu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yn ymdrin â phynciau fel modelau anabledd, ymarfer addysgol cynhwysol, gwasanaethau cymorth, deddfwriaeth a pholisi a rôl ymarferwyr a rhieni wrth gefnogi dysgwyr ag anableddau dysgu ac anghenion addysgol ychwanegol. Byddwch yn barod ar gyfer lleoliad profiad gwaith mewn lleoliad ADY yn ystod y modiwl, sydd yn ei dro yn gysylltiedig â modiwl lleoliad gwaith ail flwyddyn.

Ymgysylltu â Dysgu ac Ymchwil 1 (20 credyd)

Pa sgiliau academaidd sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn seicoleg ac addysg a sut y gellir datblygu'r rhain? Sut mae seicolegwyr yn mynd ati i wneud gwaith ymchwil a chreu damcaniaethau? Beth sy'n gwneud tystiolaeth dda? Nod y modiwl hwn yw cefnogi eich cyfnod pontio i amgylchedd academaidd prifysgol drwy gefnogi datblygiad sgiliau academaidd ac ymchwil sy'n hanfodol drwy gyfol y radd a thu hwnt. Byddwch yn dysgu am wahanol ddulliau o ymchwilio mewn cyd-destunau addysgol yn ogystal â datblygu sgiliau i werthuso astudiaethau cyhoeddedig. Erbyn diwedd y modiwl hwn, byddwch wedi dechrau datblygu ac ymarfer sgiliau academaidd ac ymchwil sydd eu hangen i gefnogi dysgu addysg uwch. 

Natur Addysg (20 credyd)
Beth yw addysg? Pam rydym yn addysgu pobl y ffordd yr ydym yn ei wneud? Sut mae seicoleg wedi dylanwadu ar addysg? Gan adeiladu ar ddisgyblaethau sylfaen megis hanes, cymdeithaseg, athroniaeth a pholisi cymdeithasol, bydd y modiwl hwn yn archwilio sut mae datblygiadau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd wedi effeithio ar ein system addysg. Yn ganolog i'r modiwl hwn mae ystyriaeth o effaith theori seicolegol ac ymchwil ar ymarfer addysgol. Gan gadw i fyny â'r tirlun addysg sy'n newid yn gyson, bydd y modwil hefyd yn ystyried materion cyfoes ym maes addysg.


Blwyddyn 2

Syniadau a Dysgu (20 credyd)
Sut a pham ydyn ni’n dysgu? Beth ydy’r dulliau cyfathrebu amgen a chynyddol a sut maen nhw’n helpu'r rhai hynny â nam cyfathrebu difrifol? Beth ydy’r esboniadau gwybyddol am ddyslecsia a’r modd y mae’r rhain wedi cynorthwyo polisi ac ymarfer? Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau ynglŷn â’r modd y mae pobl yn meddwl a dysgu. Byddwn yn delio â phynciau craidd mewn seicoleg, megis cof a iaith a’r defnydd a wneir o seicoleg gwybyddol i ddeall prosesau addysgu a dysgu. Hefyd ystyrir esboniadau seicolegol am anawsterau dysgu penodol, er enghraifft, dyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia.

Ymddygiad a Chyfathrebu Cymdeithasol (20 credyd)
Sut mae’r rhyngweithio rhwng myfyrwyr ac athrawon yn effeithio ar ddeinameg y dosbarth? Pa mor bwysig ydy cyfeillgarwch mewn ysgolion ac ystafelloedd dosbarth? Beth mae seicoleg wedi ddweud wrthon ni am natur bwlio ac effeithiolrwydd strategaethau gwrth-fwlio? Mae’r modiwl hwn yn ystyried y defnydd o seicoleg gymdeithasol i ddeall ymddygiad cymdeithasol mewn lleoliadau addysgol. Bydd yn mynd i’r afael â chysyniadau allweddol, damcaniaethau ac ymchwil ym maes seicoleg gymdeithasol a’r modd y mae seicoleg gymdeithasol yn cyfrannu ac ein dealltwriaeth o’r unigolyn fel bod cymdeithasol. Bydd hefyd, gyfle i gwblhau cwrs a achredwyd yn allanol sy’n datblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol.

Egluro Amrywiaeth mewn Addysg (20 credyd)
Pam bod pobl yn wahanol ac ym mha ffordd maen nhw’n gwahaniaethu? Oes mwy o nodweddion sy’n debyg na gwahaniaethau? A ellir cynorthwyo dysgwyr amrywiol yn gyfartal? Mae’r cwestiynau hyn yn adlewyrchu rhai o faterion craidd maes seicoleg ac addysg. Gan ddefnyddio cysyniad niwro-amrywiaeth (bod gwahaniaethau yn rhan o amrywiaeth naturiol pobl), archwilir gwahaniaethau unigol. Drwy ystyried datblygiad plant a phobl ifanc yn fiolegol, gwybyddol ac amgylcheddol, a down i ddeall sut a pham gall unigolion wahaniaethu o ran personoliaeth, deallusrwydd, anhwylderau niwro-ddatblygiadol, meddwl, lleferydd, iaith a chyfathrebu, breguster a chyfnerthedd a iechyd meddwl.

Ymchwilio i Ymddygiad (20 credyd)
Pa faterion dylid eu hystyried wrth gynllunio a chyflawni ymchwil? Sut mae canfyddiadau ymchwil seicolegol yn cael eu dehongli a’u riportio? Beth ydy’r ystyriaethau moesegol wrth gynnal ymchwil seicolegol yng nghyd-destunau addysgol? Mae mwyafrif y canfyddiadau pwysicaf i’r meddwl dynol a chymhlethdodau ymddygiad pobl yn deillio o ymchwil gwyddonol. Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar fodiwlau’r flwyddyn gyntaf ‘Ymgysylltu â Dysgu ac Ymchwil’ a’i nod ydy parhau i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a chysyniadol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil gwyddonol ym maes seicoleg mewn addysg. Bydd yn cynnig y sgiliau ymarferol a chysyniadol angenrheidiol i gynnal ymholiadau seicolegol mewn cyd-destun addysgiadol i’ch paratoi'n briodol ar gyfer eich prosiect Ymchwil Annibynnol yn y flwyddyn olaf.

Cynhwysiant mewn addysg (20 credyd)
Pa mor deg ydy system addysg Prydain? Pam bod merched yn gwneud yn well na bechgyn yn yr ysgol? Sut y canfyddir dysgwyr mwy abl a thalentog a sut maen nhw’n cael eu hasesu a sut y darperir ar eu cyfer? Pa strategaethau allai fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes addysg a pha mor effeithiol ydyn nhw? Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gritigol o dystiolaeth, ymchwil ac arferion cyfredol ym maes addysg a chydraddoldeb. Caiff damcaniaethau a chysyniadau addysg a chydraddoldeb eu hystyried (e.e. tlodi, cyfiawnder cymdeithasol a gwahardd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, anghenion dysgu ychwanegol, materion rhywedd ac ethnigrwydd). Bydd enghreifftiau o bolisi ac ymarfer addysgol cyfoes yn ategu’r rhain.

Lleoliad Gwaith (20 credyd)Sut mae’r hyn yr ydych yn ei ddysgu ar y cwrs yn cysylltu â’r lleoliadau proffesiynol? Pa sgiliau ydych eisoes yn eu meddu a pha sgiliau sydd angen i chi eu datblygu ymhellach er mwyn gwella cyflogadwyedd? Mae’r modiwl hwn yn gofyn eich bod wedi cwblhau lleoliad profiad gwaith erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf a bydd yn parhau i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac annog syniadau am yrfa ar ôl graddio. Fel arfer byddai’r profiad gwaith yn digwydd mewn lleoliad sy’n cynorthwyo anghenion dysgu ychwanegol, er bod hyn yn hyblyg yn seiliedig ar eich anghenion personol chi a’ch profiad o leoliad profiad gwaith blaenorol. Hefyd, efallai cewch gyfle i wella’ch cyflogadwyedd ymhellach drwy ymestyn eich lleoliad drwy gyd-gytundeb gyda’r darparwr.


Blwyddyn Tri

Dyfodol Addysg (20 credyd)
Sut mae economeg a gwleidyddiaeth yn effeithio ar y system addysg? Sut bydd datblygiadau technolegol yn llunio dyfodol addysg? Sut mae system addysg y DU yn cymharu â systemau gwledydd eraill a beth ydy effaith y gymhariaeth hon? Bydd y modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gadarn i chi o faterion cyfoes o fewn y sector addysg. Ystyrir materion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a thechnolegol ym maes addysg yr Unfed Ganrif ar Hugain, ac archwilir darpar dueddiadau mewn polisi ac ymarfer addysgol.

Materion a Dadleuon ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, Anabledd a Chynhwysiad (20 credyd)
Beth ydy’r tueddiadau mewn gwaith aml-asiantaethol wrth ymateb yn effeithiol i anghenion? A ddylai pob dysgwr gael mynediad i’r un faint o gymorth? Sut mae unigolion anghenion dysgu yn cael eu cynorthwyo mewn gwledydd eraill? Nod y modiwl hwn ydy cynnig cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu dull critigol o ddelio â materion a dadleuon cyfredol ym maes ADY/AAA, yn cynnwys polisi, y gyfraith ac ymgyfreithiad, cynllunio cwricwlwm ac addysgeg, canfod anghenion, dilyniant, pontio a safbwyntiau rhyngwladol. Bydd hefyd yn ystyried rhai o’r sialensiau sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol wrth geisio sicrhau cynhwysiad. Bydd y modiwl yn gofyn i chi fynd ar leoliad gwaith fel y gellir ystyried materion a dadleuon o fewn y modiwl mewn sefyllfa broffesiynol.

Deall Ymddygiad Dysgwyr (20 credyd)
Sut mae’r ymennydd yn dysgu pethau newydd? A all mesur gweithgaredd yr ymennydd ddatgelu unrhyw beth am wahaniaethau mewn gallu? Ydy genynnau’n rhagfynegi’r gallu i ddysgu? Bydd y modiwl hwn yn ystyried sylfeini dysgu ac ymddygiad, weithiau cyfeirir at hyn fel niwro-wyddoniaeth addysgol. Byddwn yn edrych ar integreiddiad bioleg ac ymddygiad, gan gynnwys y modd gall ymddygiad unigolyn effeithio ar ei swyddogaeth fiolegol a’r modd y mae gwybyddiaeth yn deillio o weithgaredd yr ymennydd Bydd hefyd yn ystyried tarddiad biolegol anableddau deallusol a datblygiadol er enghraifft anabledd dysgu, awtistiaeth ac ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd).

Themâu sy’n dod i’r amlwg mewn Seicoleg ac Addysg (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn ystyried amrywiaeth o ddulliau cyfredol o fynd ati i drafod maes addysg, seicoleg ac anghenion dysgu ychwanegol, maes sy’n datblygu’n barhaus. Byddwch yn archwilio syniadau newydd a syniadau sy’n dod i’r amlwg ym maes defnyddio seicoleg mewn addysg, megis seicoleg bositif a niwro-addysg, a bydd yn diweddaru seicoleg gymhwysol drwy ymchwilio i faterion addysgol sydd yn y newyddion ar y pryd. Mae’r modiwl hwn yn cynnig blas delfrydol i fyfyrwyr sydd, efallai, yn ystyried astudiaeth ôl-radd ar raglen cwrs MSc Seicoleg mewn Addysg o fewn yr Ysgol.

Prosiect Ymchwil Annibynnol (40 credyd)
Cyfle ydy hyn i chi ymgymryd â darn gwreiddiol o waith ymchwil, dan oruchwyliaeth aelod o'r staff. Byddwch yn gyfrifol am lunio cwestiwn ymchwil yn ymwneud â seicoleg mewn addysg, cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth a chynllunio a gweithredu astudiaeth sy’n datrys y cwestiwn ymchwil. Yna caiff eich canfyddiadau eu dadansoddi, eu cofnodi a’u trafod. Bydd hyn yn eich galluogi i arddangos annibyniaeth yn eich dull o fynd ati i ymchwilio a gwella’ch profiad o gynllunio prosiect.


Dysgu ac Addysgu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau o fynd ati i addysgu a dysgu, dulliau sy’n addas ar gyfer ystod eang o anghenion a dewis ddulliau dysgu. Bydd hyn yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol, deunyddiau ar-lein, rhith amgylchedd dysgu ac ymweliadau gan siaradwyr gwadd. Mae’r holl fyfyrwyr yn dod at ei gilydd ar gyfer darlithoedd, neu fel arall, cewch eich addysgu mewn grwpiau o tua ugain o fyfyrwyr.

Neilltuir tiwtor personol ar gyfer pob myfyriwr, y tiwtor a fydd yn cynorthwyo gyda materion academaidd a bugeiliol ac efallai bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gael eu mentora gan fyfyrwyr o’r ail neu’r drydedd blwyddyn. Mae tîm darlithio’r cwrs yn ymfalchïo eu bod yn gefnogol i’r myfyrwyr ac yn bobl hawdd i fynd atyn nhw gyda pholisi drws agored. Mae gan y darlithwyr brofiad ym mhob maes perthnasol i’r rhaglen hon ac maen nhw'n ymchwilwyr gweithredol ym maes seicoleg ac anghenion dysgu arbennig/ychwanegol.


Asesu

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal arferion asesu blaengar sy’n matsio’r canlyniadau dysgu a nodwyd ar gyfer eich modiwlau a’ch gradd. Mae hyn yn golygu, lle bo’n bosibl, bod cysylltiad rhwng asesu a gwella nid yn unig eich gwybodaeth am y pwnc ond hefyd eich sgiliau hanfodol wrth i chi ddatblygu’ch cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

Defnyddir amrediad eang o ddulliau asesu, yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau ysgrifenedig, prosiectau hanfodol, cyflwyniadau, portffolios ac ymarferion dan gyfyngiad amser. Hefyd cynhelir gwaith grŵp ac asesu a chymorth gan gymheiriaid.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae’r radd hon yn arwain at ystod amrywiol o opsiynau gyrfaol yn cynnwys gweithio yn y sector preifat neu gyhoeddus, maes ymchwil cymdeithasol ac addysgol, hyfforddiant athrawon, gwasanaethau cymorth addysgol, datblygiad addysgol o fewn y gymuned, academia, gwaith sy’n gysylltiedig ag addysg o fewn sefydliadau elusennol, y sector iechyd, ac amrediad llawn gyrfaoedd ym maes seicoleg.

Yn ystod y rhaglen, cewch gyfle i gael profiad gwaith o fewn amrediad o leoliadau addysgol gan gynnwys ysgolion anghenion arbennig. Bydd hyn o help i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth bellach. Mae potensial i chi astudio ar gwrs ôl-radd, er enghraifft gradd Meistr neu ymchwil PhD. Ym Mhrifysgol Met Caerdydd, gallwch astudio cwrs MA Addysg.

Symud ymlaen i Achrediad BPS:
I'r myfyrwyr hynny sydd am hyfforddi fel seicolegwyr ac ennill achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), mae Met Caerdydd yn cynnig cwrs gradd MSc Seicoleg mewn Addysg. Mae’r radd Meistr hon yn datblygu’ch dealltwriaeth o’r pynciau hyn ac yn rhoi’r achrediad BPS sydd ei angen arnoch chi ar gyfer darpar yrfa mewn Seicoleg.

Dilyniant i Hyfforddiant Athrawon TAR:
Rydym yn falch o warantu cyfweliad ar gyfer y Cwrs TAR Cynradd. ym Met Caerdydd ar gyfer holl raddedigion y rhaglen hon (ar yr amod bod y cwrs ar agor gydag UCAS). Mae angen dosbarthiad gradd Anrhydedd o 2:2 neu'n uwch ar hyn o bryd, a rhaid cwrdd â'r gofynion mynediad statudol ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru (gan gynnwys gradd C / gradd 4 neu gyfwerth mewn TGAU ar gyfer Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg neu Mathamateg - Rhifedd a Gwyddoniaeth).


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​​

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
  • Gofynion eraill:Gwiriad DBS.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.​ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol y cwrs, cysylltwch â: ​Pierre Gaite, Cyfarwyddwr y Rhaglen
E-bost: pgaite@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
XSEN - Gradd 3 blynedd
XSEF - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.​