Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>BA (Anrh) Plismona Proffesiynol

BA (Anrh) Plismona Proffesiynol

Blwyddyn Mynediad

O 2020, daeth plismona yng Nghymru a Lloegr yn broffesiwn i raddedigion.

Bydd gradd BA (Anrh) Plismona Proffesiynol Met Caerdydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa fel swyddog yn yr heddlu. Lluniwyd y cwrs plismona hwn i ddiwallu holl ofynion craidd Cwricwlwm Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer gradd cyn-ymuno y Coleg Plismona mewn Plismona Proffesiynol.

Mae plismona modern yn wynebu sialensiau proffesiynol newydd ac mae’r cymunedau a wasanaethir gan yr heddlu yn gynyddol amrywiol a chymhleth gyda gwahanol anghenion a blaenoriaethau. Mae natur y troseddu hefyd yn esblygu. Craidd plismona proffesiynol effeithiol ydy rôl y cwnstabl.

Nod y radd cyn-ymuno hon ydy cynnig y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar rôl y cwnstabl. Mae’n ceisio datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol uchel eu lefel ar draws ystod o sefyllfaoedd a chyd-destunau cymhleth a heriol, yn ogystal â dangos arferion priodol yn gyson â phlismona rheng-flaen effeithiol ac addas.

Mae’r radd BA (Anrh) Plismona Proffesiynol hon hyn radd academaidd ar sail gwybodaeth yn seiliedig ar y Cwricwlwm Plismona Cenedlaethol wedi’i thrwyddedu gan y Coleg Plismona.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

​Blwyddyn Un / Lefel 4

  • Deall rôl yr heddlu: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth myfyrwyr am ddatblygiadau hanesyddol o fewn y gyfraith a pholisi. Yn ogystal, bydd yn hwyluso eu dealltwriaeth o rôl cwnstabl proffesiynol yr heddlu a’r egwyddorion a ddylai fod yn sylfaenol i’r rhyngweithio personol yn y rôl honno.
  • Moeseg, cydraddoldeb a chynhwysiad: Nod y modiwl hwn fydd cyflwyno ac ystyried y dulliau proffesiynol o fynd i’r afael â phlismona, arddangos tegwch, moeseg ac integriti. Hefyd, bydd yn cynorthwyo myfyrwyr wrth iddyn nhw ddatblygu portffolio yn seiliedig ar ddysgu ac asesu, sy’n cynnig tystiolaeth bod y myfyrwyr yn deall ystyriaethau moesegol ym maes plismona cyfoes.
  • Rhagarweiniad i ymchwil a chyflogadwyedd: Nod y modiwl hwn ydy cynorthwyo myfyrwyr i ddysgu a datblygu’n bersonol a phroffesiynol yn barhaus ym maes addysg uwch. Hwyluso dealltwriaeth myfyrwyr o blismona ar sail tystiolaeth ac ymchwil ar sail tystiolaeth. Hefyd, bydd yn cynnig llwyfan i fyfyrwyr ledaenu gwybodaeth drwy amrediad o gyfryngau.
  • Cyfiawnder troseddol: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth myfyrwyr o’r system cyfiawnder troseddol, tra’n hwyluso’u dealltwriaeth o lunio polisi cyfiawnder troseddol. Bydd myfyrwyr yn nodi ac ystyried y berthynas rhwng cyfraith, polisi a gweithdrefnau’r Heddlu.
  • Plismona cymunedau: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o’r angen am gyfathrebu effeithiol i feithrin perthynas. Bydd myfyrwyr yn ymestyn eu dealltwriaeth o rôl broffesiynol cwnstabl yr heddlu o safbwynt y gymuned ehangach. Bydd myfyrwyr yn nodi ac ystyried y berthynas rhwng yr heddlu a chymdeithas.
  • Troseddeg ac atal troseddu: Nod y modiwl hwn ydy datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o theori troseddegol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth hon i fynd i’r afael â senarios ‘byw’. Bydd sesiynau yn cynnig cyfle i roi dealltwriaeth o Blismona Problem-gyfeiriedig (POP) yn ei gyd-destun.

Blwyddyn Dau / Lefel 5

  • Plismona ar sail Tystiolaeth: Nod y modiwl ydy datblygu dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd plismona ar sail tystiolaeth ac ymchwil ar sail tystiolaeth. Bydd myfyrwyr yn nodi posibilrwydd plismona problem-gyfeiriedig, tra’n datblygu dealltwriaeth o ddulliau ymchwil a dadansoddi data.
  • Dull ymatebol o Blismona: Nod y modiwl hwn ydy datblygu dealltwriaeth o rôl dull ymatebol o blismona a rôl deddfwriaeth/y grymoedd a ddefnyddiwyd wrth blismona yn y dull hwn. Bydd myfyrwyr yn ystyried y sialensiau penodol roedd heddweision ymatebol yn eu hwynebu ac wrth ymateb i’r hyn y maen nhw'n dod ar ei draws (gangiau stryd/torf, cyd-wasanaethau, arfau a dinasyddion).
  • Agored i Niwed a risg: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth myfyrwyr o gymhlethdod a chyflwyniad breguster yng nghyd-destun plismona. Bydd sesiynau yn hwyluso dealltwriaeth myfyrwyr o natur amrywiol, profiad ac achosion erledigaeth.
  • Plismona’r heolydd: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth myfyrwyr o ddatblygiadau hanesyddol o fewn y gyfraith/polisi. Bydd sesiynau yn hwyluso dealltwriaeth rôl ymarfer proffesiynol o ran plismona’r heolydd. Bydd myfyrwyr y parhau i nodi ac ystyried y berthynas rhwng cyfraith, polisi a gweithdrefnau’r heddlu.
  • Gwybodaeth a chudd-wybodaeth: Nod y modiwl hwn ydy datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r prosesau casglu a defnyddio gwybodaeth at ddibenion ymchwilio i droseddau. Bydd sesiynau yn hwyluso dealltwriaeth myfyrwyr o rwydweithiau aml-asiantaethol yng nghyd-destun gwybodaeth a chudd-wybodaeth, yn genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ledaenu gwybodaeth drwy amrediad o gyfryngau, i ystod o ran-ddeiliaid.
  • Cynnal ymchwiliadau: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o’r broses cyfweld. Bydd sesiynau yn hwyluso dealltwriaeth myfyrwyr o rôl broffesiynol cwnstabl yr heddlu wrth ddefnyddio ystod o ddulliau cyfweld. Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymhwyso dealltwriaeth ddamcaniaethol o ddulliau i sefyllfa fyw.

Blwyddyn Tri / Lefel 6

  • Traethawd Hir ar Blismona ar sail Tystiolaeth: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gallu myfyrwyr i wneud ymchwil annibynnol dar sail tystiolaeth mewn maes o ddiddordeb penodol iddyn nhw. Bydd myfyrwyr yn annibynnol yn dethol, rhesymoli a gweithredu prosiect ysgrifenedig estynedig. Bydd y modiwl hefyd yn datblygu gallu myfyrwyr i gyflwyno’r prosiect yn gydlynol a chyflawn mewn arddull academaidd.
  • Diogelu’r Cyhoedd: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth myfyrwyr am ddiogelu’r cyhoedd o fewn y gyfraith/polisi. Bydd myfyrwyr yn ystyried ymarfer moesegol mewn rôl plismona a nodi’r berthynas rhwng cyfraith, polisi a gweithdrefnau’r heddlu o fewn cymuned amrywiol.
  • Gwneud penderfyniadau a disgresiwn: Nod y modiwl hwn ydy nodi effaith rhagfarn ar y broses o wneud penderfyniadau. Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio Model Penderfynu Cenedlaethol (NDM) mewn sefyllfa chwarae rôl. Tra’n datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o sut y gellir defnyddio disgresiwn i wneud penderfyniadau ynglŷn â phlismona.
  • Gwrthderfysgaeth: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gwybodaeth myfyrwyr o ddatblygiadau cyfoes ym maes gwrthderfysgaeth. Bydd sesiynau yn hwyluso dealltwriaeth o strwythurau sefydliadol a rhyng-gysylltiadau sy’n bodoli ym maes plismona gwrthderfysgaeth. Bydd myfyrwyr yn nodi ac ystyried y berthynas rhwng cyfraith, polisi a gweithdrefnau’r heddlu yn genedlaethol a rhyngwladol.
  • Plismona Digidol: Nod y modiwl hwn ydy datblygu gallu myfyrwyr i ledaenu syniadau cyfoes ym maes plismona digidol. Cynnig cyfle i fyfyrwyr arddangos syniadau ac ymchwil annibynnol yng nghyd-destun plismona cyfoes. Bydd sesiynau yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r goblygiadau moesol yng nghyd-destun plismona digidol a throseddau a hwylusir yn ddigidol.

Bydd meysydd pwnc arbenigol allweddol yn unol â gofynion Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona a (PEQF) a gofynion y Coleg Plismona yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfathrebu, moeseg ac integriti, plismona ar sail tystiolaeth, arweinyddiaeth a rheoli
  • Sicrhau diogelwch y cyhoedd
  • Cynorthwyo dioddefwyr
  • Cynnal ymchwiliadau
  • Manteisio i’r eithaf ar wybodaeth a chudd-wybodaeth
  • Atal a gostwng troseddu
  • Amddiffyn pobl agored i niwed

Dysgu ac Addysgu

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau mynd ati i addysgu, dulliau a luniwyd i ymdrin ag amrediad o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd a rhith amgylcheddau dysgu. Caiff myfyrwyr broblemau plismona cymhleth ffug i’w dadansoddi a syntheseiddio ymateb priodol ar eu cyfer. Lluniwyd yr ymarferion ffug hyn i ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau.

Ymhob un o’r modiwlau 20 credyd ceir ar gyfartaledd 200 awr o oriau astudio. Fel arfer, mae 48 o’r oriau hyn yn rhai a addysgir megis darlithoedd, seminarau a gweithdai fel arfer wedi’u hamserlennu fel 4 awr yr wythnos. Aseinir tua 52 awr ar gyfer astudiaeth gyfeiriedig a thasgau paratoi a osodir yn wythnosol fel rhan o’r sesiynau a addysgir a’r 100 awr sy’n weddill yn astudiaeth hunan-gyfeiriedig pan fydd myfyrwyr yn ymgymryd â’r darllen gofynnol ar gyfer y modiwl a chwblhau’r asesiad gofynnol.

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr adeg cychwyn y cwrs a bydd y cyfryw diwtor yn eu cynorthwyo drwy gydol eu cwrs gradd. Amserlennir cyfarfodydd tiwtorial y bydd myfyrwyr yn eu mynychu ond mae tiwtoriaid hefyd yn gweithredu polisi drws agored sy’n caniatáu i fyfyrwyr eu cyrchu tu allan i gyfarfodydd a amserlenwyd. Mae’r brifysgol wedi hen sefydlu darpariaeth cymorth myfyrwyr ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a’r gallu hefyd i ddelio ag unrhyw broblem sy’n codi yn ystod astudiaethau myfyrwyr.

Cynorthwyir y modiwlau gan Rith Amgylchedd Dysgu y Brifysgol, sef Moodle, sy’n seiliedig ar y we ac felly’n hygyrch ymhobman drwy’r rhyngrwyd. Mae holl ddeunydd cwrs yn cael ei gadw yma, gan gynnwys darlithoedd, a gwybodaeth asesu a deunydd darllen ac adnoddau ychwanegol. Mae tiwtoriaid yn defnyddio Moodle i anfon gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf ar e-bost at fyfyrwyr.

Cynigir y modiwlau mewn blociau o bedair wythnos a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymglymu’n ddwfn gyda phob pwnc. Mae myfyrwyr yn astudio un modiwl ar y tro ac felly’n ffocysu ar un asesiad yn unig. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i archwilio pynciau yn fwy trylwyr gan ddatblygu critigolrwydd rhesymegol priodol i astudiaeth mewn Prifysgol. Gyda phwyslais arbennig ar ymchwiliad cydweithrediadol, sy’n caniatáu mwy o integreiddio a syntheseiddio’r dysgu.

Cynigir modiwlau ar draws pob campws nid yn unig er mwyn integreiddio staff arbenigol ond hefyd mannau arbenigol.

Staff

Mae staff y rhaglen yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn meddu ar brofiad cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd eu gwahanol arbenigedd. Maen nhw wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu cefnogol, uchel ei ansawdd. Caiff dulliau addysgegol cyfoes o fynd ati eu hymgorffori yng nghyflenwad pob modiwl. Bydd arbenigwyr plismona ac academyddion o ddisgyblaethau yn rhychwantu pob Ysgol o fewn y brifysgol (y gyfraith, technoleg digidol, addysg, polisi cymdeithasol a gwaith ieuenctid a chymunedol) yn cynnig lliaws o safbwyntiau cyfoes, gan ymglymu myfyrwyr mewn cymunedau ymchwilio.


Cyfleusterau

Cyfleusterau Addysgir cwrs Plismona Proffesiynol ar gampws Cyncoed a champws Llandaf, lle caiff myfyrwyr y defnydd o amrediad o gyfleusterau ac adnoddau.

Mae Cyncoed yn gampws prysur sy’n cynnig llety ar y safle, cyfleusterau chwaraeon rhagorol a Chanolfan Campws pwrpasol yn cynnwys siop, barau coffi a ffreutur. Hefyd mae gennym labordy seicoleg, stiwdio ddrama a digon o fannau agored tu allan.

Yng Nghyncoed, ​bydd myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth ar waith yn ein Tŷ Trosedd pwrpasol, gan gymryd rhan mewn sefyllfaoedd ffug fel chwiliadau tŷ, bwcio i mewn i'r ddalfa, a chyfweliadau â dioddefwyr a rhai a ddrwgdybir.​

Mae Llandaf yn gampws prysur a bywiog. Gyda buddsoddiad o filiynau o bunnoedd, cyfleusterau dysgu heb eu hail, i’n myfyrwyr. Ar gampws Llandaf, bydd myfyrwyr yn gallu dysgu yn ein 'Llys Ffug' (Moot Court) pan fydd y cyfleuster hwn yn agor hyn 2020.

Drwy gydol y radd blismona hon, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn senarios perthnasol i blismona a ffug ymarferion a luniwyd i ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Mae’r holl gyfleusterau hyn yn cynnig cyfleoedd rhagorol ar gyfer addysg drochi.


Asesu

Mae’r asesiadau yn amrywiol a diddorol ac wedi’u cynllunio i ddiwallu gofynion y Coleg Plismona. Llunnir asesiadau i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn a ddysgwyd ac maen nhw'n darparu cyfleoedd realistig i arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth.

Bydd yr asesiadau yn cael eu cwblhau gyda'r unigolyn ei hun neu drwy grŵp. Mae asesiadau yn rhan annatod o fodiwlau: traethodau critigol, arddangosfeydd, portffolio a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn ffocysu ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr o ran traethawd hir ar Blismona sy’n seiliedig ar Dystiolaeth y mae myfyrwyr yn ei wneud ym mlwyddyn olaf eu hastudiaeth.

Caiff myfyrwyr ddyddiadau cyflwyno’r asesiadau ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd ar ei hyd i’w cynorthwyo i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth unigol ar eu gwaith, adborth sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd cwrs BA (Anrh) Met Caerdydd ar Blismona Proffesiynol yn eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa fel swyddog yn yr heddlu.

Mae gradd Plismona Proffesiynol yn un o’r llwybrau cydnabyddedig i fod yn gwnstabl yn yr heddlu. Er na fydd cwblhau’r radd yn llwyddiannus yn gwarantu mynediad i’r heddlu, os byddwch wedyn yn cael eich derbyn (yn ystod y pum mlynedd ar ôl graddio) byddwch yn elwa o raglen hyfforddiant mewn swydd fydd yn fyrrach. Bydd rhaid i raddedigion gwrdd â gofynion ffitrwydd penodol, gofynion meddygol a gofynion eraill eich dewis o heddlu. Bydd rhaid i’r rhai sy’n llwyddo i gael eu derbyn i’r gwasanaeth heddlu fod ar gyfnod prawf o ddwy flynedd fel y nodir yn Rheoliadau’r Heddlu.

Gall graddedigion hefyd ddilyn gyrfaoedd mewn sefydliadau eraill, er enghraifft: GCHQ, Yr Asiantaeth Droseddu Cenedlaethol, y gwasanaeth prawf, heddlu’r lluoedd arfog, diwydiant diogelwch y sector preifat.

Ym Met Caerdydd, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein hanes a’n llwyddiant o ran cyflogaeth a darparu cyfleoedd pellach ar gyfer ein myfyrwyr.

Ar ôl cwblhau’r radd, gall myfyrwyr ddewis gwneud cais i Met Caerdydd i astudio ar ein cyrsiau ôl-radd MA, MPhil a PhD.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â Kelly Hill:

Ebost: klhill@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Trwyddedwyd gan: Y Coleg Plismona

Codau UCAS:
L900 - Gradd 3 blynedd
L90F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.​

TŶ TROSEDD

Mae ein cyfleusterau Tŷ Trosedd pwrpasol yn cynnwys ystafell dalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ac ystafell gyfweld dioddefwyr a rhai a ddrwgdybir, sy'n rhoi cyfleoedd dysgu efelychiadol hanfodol i chi i roi'r wybodaeth a'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu ar waith.