Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol - Gradd BSc (Anrh)

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Ydych chi’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol? Ydych chi eisiau mynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth? Ydych chi eisiau ennill y sgiliau a’r mewnwelediadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r byd modern ac i wneud gwahaniaeth?

Mae’r BSc (Anrh) Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd yn rhaglen gyfoes, sy’n seiliedig ar ymarfer a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol craidd heddiw. Byddwch yn astudio tair thema allweddol sy’n cael eu gwau drwy gydol y radd, gan gynnwys Unigolion, Cymdeithas a Grym; Hunaniaeth a Gwahaniaeth ac Anghydraddoldeb; a Gofod, Lle a Chyfiawnder.

Ym Met Caerdydd, mae ffocws cryf ar gynaliadwyedd gyda modiwlau dysgu dilys sy’n ymateb i agendâu cynaliadwyedd gan gynnwys Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac Agenda Sero Net Llywodraeth y DU a Chymru. Mae’r radd hefyd yn cwmpasu’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; darn o ddeddfwriaeth sy’n torri tir newydd ac sy’n gweithio tuag at wneud newid cadarnhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae cyflogadwyedd yn faes allweddol arall o’r radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, a byddwn yn eich helpu i ddatblygu a gweithio tuag at eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol. Trwy gydol y radd byddwch yn cymhwyso eich dysgu yn ymarferol trwy gyfleoedd gwirfoddoli a dysgu seiliedig ar waith sy’n berthnasol i’r diwydiant ym mlwyddyn dau. Hefyd, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu menter gymdeithasol yn y drydedd flwyddyn mewn ymateb i fater neu broblem sy’n berthnasol i’r byd cymdeithasol.

Fe’ch addysgir gan staff addysgu arbenigol sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigeddau mewn ystod eang o feysydd cymdeithasegol, gan gynnwys tai, hawliau lles, cynaliadwyedd, gwleidyddiaeth, y gyfraith, rhywedd a rhywioldeb, polisi cymdeithasol a mwy.

Ar ôl i chi gwblhau’r radd, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn, eang a hynod ymarferol o gysyniadau ac arferion y gwyddorau cymdeithasol, ynghyd ag ystod o sgiliau a phrofiadau i’ch galluogi i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol, y trydydd sector, sefydliadau polisi, ymchwil a’r byd academaidd.


Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r ​radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Mae’r radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol wedi’i strwythuro o amgylch tair thema gymdeithasegol allweddol. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn datblygu eich gwybodaeth i’ch galluogi i fynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth mewn ffordd ymarferol ac effeithiol.

Mae tri modiwl yn cyd-fynd â phob thema ar Lefel 4, 5 a 6.

Thema 1 – Unigolion, Cymdeithas a Grym. Pam mae cymdeithasau yn newid? Beth sy’n achosi gwrthdaro? Beth yw rôl yr unigolyn? Yn y flwyddyn gyntaf fe’ch cyflwynir i syniadau allweddol. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio gwahanol ddulliau, gan ganolbwyntio ar ethnigrwydd a hil. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar sut mae’r gwahanol syniadau hyn yn gweithredu o fewn sefydliadau a’r gweithle.

Thema 2 – Hunaniaeth, Gwahaniaeth ac Anghydraddoldeb. Sut mae hunaniaethau’n cael eu ffurfio? Beth yw’r berthynas rhwng gwahaniaeth ac anghydraddoldeb? Beth sy’n achosi anghydraddoldebau cymdeithasol a beth allwn ni ei wneud i fynd i’r afael â nhw? Yn y flwyddyn gyntaf fe’ch cyflwynir i’r syniadau allweddol, gan gynnwys tlodi ac allgáu. Yn yr ail flwyddyn rydym yn canolbwyntio ar rywedd a rhywioldeb ac yn archwilio’r syniadau hyn ymhellach ac yn y drydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar elfannau cyflogaeth a chymdeithasol.

Thema 3 – Gofod, Lle a Chyfiawnder. Sut mae lle rydyn ni’n byw yn effeithio ar ein bywydau? Beth yw cynaliadwyedd a pham ei fod yn bwysig? A allwn ni ddiwallu anghenion pawb heb niweidio’r amgylchedd? Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn edrych ar sut mae ble rydym yn byw yn gwneud gwahaniaeth i’n bywydau. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn edrych ar dir a bwyd a sut mae’r rhain yn effeithio ar gyfleoedd bywyd. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar effaith colli eich cartref a gorfod gadael eich cymuned.


Beth fyddwch chi’n ei astudio


Modiwlau

Mae pob modiwl yn 20 credyd, ac eithrio’r Prosiect Annibynnol Seiliedig ar Tystiolaeth sy’n 40 credyd.

Blwyddyn Un (Lefel 4)

  • Cyflwyniad i Wyddorau Gymdeithasol
  • Unigolion, Sefydliadau a Chymdeithas
  • Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
  • Pobl, Lle a Grym
  • Tlodi a Chyfiawnder
  • Gwrthdaro, Newid a Gwahaniaeth

Blwyddyn Dau (Lefel 5)

  • Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Tir, Bwyd a Chyfiawnder
  • Stigma, Gwahaniaeth ac Allgáu
  • Dulliau Ymchwil Gymdeithasol
  • Hil, Ethnigrwydd a Grym
  • Rhyw, Rhywioldeb ac Anghyfartaledd

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

  • Ymchwil a Chyflogadwyedd
  • Sgiliau Entrepreneuraidd Cymhwysol
  • Gwaith, Lles a Chynhwysiant
  • Dadleoli, Mudo a Digartrefedd
  • Prosiect Unigol Seiliedig ar Dystiolaeth (40 credyd)


Dysgu ac Addysgu

Cyflwyno’r Cwrs

Rydym yn defnyddio ystod o ddulliau addysgu a dysgu, er mwyn diwallu ystod o anghenion dysgu a sicrhau eich bod yn meddu ar wybodaeth ymarferol a damcaniaethol o’r gwyddorau cymdeithasol. Byddwch yn cael cyfle i gael profiad gwaith sy’n berthnasol i yrfaoedd gwyddorau cymdeithasol, ac ar gyfer profiad maes perthnasol.

Oriau Cyswllt

Mae gan bob modiwl 20-credyd tua 200 awr o astudio, a gyflwynir dros semester. Yn nodweddiadol, bydd 36 o’r oriau hyn yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau a addysgir fel darlithoedd, seminarau, a gweithdai, a drefnir fel arfer fel 3 awr yr wythnos (fesul modiwl). Neilltuir tua 52 awr ar gyfer astudio dan gyfarwyddyd a thasgau paratoi a osodir yn wythnosol fel rhan o’r sesiynau a addysgir ac mae’r 100 awr sy’n weddill yn astudio hunangyfeiriedig, lle byddwch yn cwblhau gwaith darllen sy’n ofynnol ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau asesiadau gofynnol. Gan fod gradd Met Caerdydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn cael ei haddysgu dros ddau semester fesul blwyddyn academaidd, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd, ochr yn ochr, fesul semester.

Cefnogaeth

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr sy’n dechrau’r cwrs, ac mae’r tiwtor hwn yn eu cefnogi trwy gydol eu gradd. Bydd cyfarfodydd gyda’r tiwtor yn cael eu hamserlennu, ond mae tiwtoriaid hefyd ar gael i fyfyrwyr y tu allan i’r cyfarfodydd yma.

Mae gan y Brifysgol adran gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae ganddo’r adnoddau i ymdrin ag unrhyw faterion sy’n codi yn ystod cyfnod y myfyriwr yn y Brifysgol.

Technoleg a Chyfleusterau

Cefnogir y modiwlau gan ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Moodle, ar y we ac sydd felly ar gael yn unrhyw le ar bob dyfais sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd. Cedwir holl ddeunydd y cwrs, gan gynnwys cyflwyniadau darlithoedd a seminarau, gwybodaeth asesu a darllen neu adnoddau ychwanegol ar Moodle. Mae tiwtoriaid hefyd yn defnyddio Moodle i e-bostio myfyrwyr gyda gwybodaeth a diweddariadau.

Staff

Mae’r holl staff yn weithgar ym maes ymchwil, a byddwch yn elwa’n uniongyrchol o hyn trwy addysgu a goruchwylio eich prosiect annibynnol L6.

Mae gan staff addysgu ystod eang o arbenigedd mewn tai a digartrefedd, gwleidyddiaeth, cynaliadwyedd, hawliau lles, polisi cymdeithasol, trais ar sail rhywedd, rhywedd a rhywioldeb, daearyddiaeth, cyflogadwyedd a’r gyfraith. Mae’r holl staff wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel.

Cyfleusterau

Bydd gradd Met Caerdydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn cael ei haddysgu ar draws campws Llandaf a Chyncoed, lle bydd myfyrwyr yn elwa ar ystod o gyfleusterau.

Mae Llandaf yn gampws prysur a bywiog. Gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad diweddar, mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr.

Mae Cyncoed yn gampws prysur sy’n cynnig llety ar y safle, cyfleusterau chwaraeon rhagorol a Chanolfan Gampws bwrpasol, gan gynnwys siop, bariau coffi a ffreutur ar y safle.


Asesu

Mae asesiadau’n ddiddorol ac yn amrywiol ac wedi’u mapio’n agos i ganllawiau Meincnodau Cymdeithaseg ASA 2019 a Meincnodau ASA 2019 mewn Polisi Cymdeithasol.

Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i chi ddangos y cymwyseddau byd go iawn y byddai’n ofynnol iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.

Cwblheir yr asesiadau naill ai ar sail unigol neu grŵp. Mae gan fodiwlau asesiadau integredig: traethodau beirniadol, arddangosfeydd, portffolios a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, i ddangos eich gallu i gyd-fynd â chymwyseddau’r byd go iawn.

Rhoddir dyddiadau cyflwyno asesiadau i chi ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’ch helpu i gynllunio a rheoli eich amser yn effeithiol. Byddwch yn derbyn adborth unigol ar eich gwaith i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Fel myfyriwr graddedig Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd, mae ystod eang o opsiynau gyrfa ar gael i chi. Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o faterion cymdeithasol a sgiliau ymarferol mewn ymchwil, polisi ac ymarfer. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n barod ar gyfer gyrfaoedd lle bydd angen i chi nodi a mynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth.

Byddwch mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa mewn llywodraeth leol neu genedlaethol, gan ddefnyddio eich dealltwriaeth o faterion cymdeithasol, polisïau, a newid cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, addysg neu’r system cyfiawnder troseddol.

Efallai y byddwch yn dewis gweithio i fudiad trydydd sector sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol, tlodi neu gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd eich sgiliau ymchwilio a dadansoddi problemau cymdeithasol cymhleth, a’ch gallu i ddatblygu atebion effeithiol, yn cael eu defnyddio’n dda yma.

Bydd eich hyfforddiant mewn dulliau ymchwil gyda modiwlau pwrpasol ar bob lefel, yn eich gwneud yn addas iawn ar gyfer gyrfa ymchwil – mewn sefydliad ymchwil neu felin drafod, neu mewn prifysgol (gan gynnwys rhaglenni hyfforddi doethurol cystadleuol 1+3 a llybrau carlam y diwydiant a llywodraeth genedlaethol). Cynlluniwyd y rhaglen i sicrhau eich bod yn ymgeisydd cystadleuol ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a ariennir.

Bydd eich gwybodaeth am bolisi cymdeithasol a’ch sgiliau ymarferol mewn dadansoddi polisi yn ddefnyddiol mewn sawl maes, gan gynnwys y llywodraeth, y trydydd sector ac ymgynghoriaeth. Gallech fod yn rhan o waith ymchwil, dadansoddi a datblygu polisïau i fynd i’r afael â materion cymdeithasol dybryd.

Mae astudiaeth ôl-raddedig bellach ar gael ym Met Caerdydd gan gynnwys MRes Polisi Cymdeithasol.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau i fynd i’r afael â’r materion y maent yn eu hwynebu a gwella eu canlyniadau cymdeithasol. Mae gwaith cymdeithasol, rolau swyddogion datblygu cymunedol, addysgu, a’r sector tai i gyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd drwy astudio’r BSc (Anrh) Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch yn cynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A i gynnwys graddau CCC. Nid oes angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel trydydd pwnc.
  • BTEC Cenedlaethol / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Nid oes angen pynciau penodol.
  • Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (IB): Nid oes angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Nid oes angen pynciau penodol. Dim ond pynciau lefel uwch sy’n cael eu hystyried gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Gradd DD. Nid oes angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, anfonwch e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu trydarwch ni ar @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â​ Helen Taylor, Arweinydd y Rhaglen:
E-bost: htaylor@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​Codau UCAS:
L300 - Gradd 3 blynedd
L30F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Man Astudio:
Campws Llandaf
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Chwe blynedd yn rhan-amser.​