Skip to main content

Seicoleg - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Achredir gradd BSc Seicoleg ym Met Caerdydd yn broffesiynol gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), sy’n cynnig cyfle i chi astudio cwrs seicoleg cymeradwy sy’n uchel ei barch gan gyflogwyr.

Mae achrediad BPS yn golygu y gallwch fod yn Aelod Graddedig a/neu Siartredig o’r Gymdeithas ar ôl graddio – a hynny’n cyfoethogi’ch CV, gan wella’ch rhagolygon gyrfaol a chynnig llwyfan i chi symud ymlaen i gyrsiau Seicoleg ôl-radd arbenigol.

Mae’r cwrs yn darparu rhagarweiniad i feysydd cymdeithasol, datblygiadol a biolegol Seicoleg yn ogystal ag ymchwil a dadansoddi data yn ystod blwyddyn gyntaf yr astudiaeth. Bydd blwyddyn dau a thri yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn llwybr penodol (Addysgol, Clinigol neu Fforensig) neu ddewis o amrywiaeth o fodiwlau cyffrous i weddu i’ch diddordebau.

Cewch gyfle i ymgymryd â lleoliadau gwaith ac i wirfoddoli mewn ystod eang o sefyllfaoedd i fanteisio i’r eithaf ar eich profiad ymarferol. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda darparwyr lleoliad yn y meysydd addysgol, clinigol, fforensig a seicoleg galwedigaethol er mwyn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’u gwybodaeth ar waith mewn sefyllfa ymarferol.

Yn ogystal, rydym yn cynnig cyfleoedd cyfnewid byd-eang gan gynnwys gwirfoddoli a lleoliadau gwaith.

Bydd gennych fynediad i gyfres o gyfleusterau a labordai a chewch eich cefnogi gan dîm ymroddedig o staff seicoleg a thiwtor personol trwy gydol eich amser gyda ni.


Pam astudio gyda ni?

  • Byddwch yn cael y cyfle i arbenigo mewn llwybr (Addysgiadol, Clinigol neu Fforensig)
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan grŵp o academyddion cyfeillgar a hawdd mynd atynt sy'n gofalu am eich cynnydd a'ch datblygiad
  • Bydd gennych diwtor personol a fydd yno i'ch cefnogi drwy gydol eich gradd
  • Byddwch yn gallu cwblhau cyfleoedd lleoliad gwaith sy'n edrych yn wych ar CV
  • Byddwch yn ennill sgiliau rhagorol mewn dulliau ymchwil, sy'n hanfodol i ddatblygiad gyrfa llwyddiannus
  • Byddwch yn gallu dewis o ystod o fodiwlau blwyddyn olaf i ddilyn eich diddordebau eich hun
  • Byddwch yn cael cyfleoedd ar gyfer cyfnewid byd-eang gan gynnwys gwirfoddoli a lleoliadau gwaith

​Byddwn yn eich cefnogi trwy gydol eich amser gyda ni ac yn rhoi lle i chi ddatblygu eich diddordebau mewn seicoleg, gan eich helpu i bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth. Yn ein hadran fywiog a deinamig, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael cyfle i ffynnu.​

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn ​gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

​Cynnwys y Cwrs

Gradd:
Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn cydnabod y cwrs ac yn cynnig Sail Graddedigion ar gyfer Siarteriaeth (GBC), gofyniad hanfodol ar gyfer mynediad i hyfforddiant seicolegol ôl-radd a fydd yn golygu mai’r lleiafswm y gall myfyrwyr ei gyflawni ydy gradd anrhydedd ail ddosbarth is (2:2).

Mae’r flwyddyn gyntaf (lefel 4) yn cyflwyno’r holl sgiliau allweddol a’r wybodaeth i’w datblygu dros y tair blynedd o'r rhaglen amser llawn.

Mae’r ail flwyddyn (lefel 5) yn datblygu’r wybodaeth greiddiol a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain. Ar ben hynny, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd lleoliad gwirfoddoli yma.

Yn ystod y flwyddyn olaf (lefel 6), byddwch yn cynnal eich ymchwil eich hun mewn maes o seicoleg o’ch dewis, a chwblhau ystod o fodiwlau opsiynol. Cewch gymorth drwy gydol eich astudiaethau gan diwtor personol yn ogystal â darlithoedd ymhob modiwlau.

Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro mewn fformat modiwlaidd. Ar lefel 4 mae myfyrwyr yn cwblhau modiwlau craidd 6 x 20 credyd. Ar lefel 5, mae myfyrwyr yn cwblhau modiwl dulliau ymchwil 40 credyd, modiwl craidd 3 x 20 credyd a modiwl dewisol 1 x 20 credyd. Ar lefel 6 mae pob myfyriwr yn cwblhau modiwl prosiect 40 credyd, modiwlau craidd 2 x 20 credyd a dewis modiwlau dewisol 2 x 20 credyd.

Penderfynir dosbarth y radd derfynol ar gyfartaledd marciau pob un o fodiwlau lefel 5 a 6 y rhaglen. Mae Lefel 5 yn cyfrannu 30% i ganlyniad cyffredinol y radd ac mae lefel 6 yn cyfrannu 70%.

Modiwlau Blwyddyn Un:

  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1*
  • Dulliau Ymchwil 1*
  • Cynnal a Chyfathrebu’r Ymchwil mewn Seicoleg*
  • Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg
  • Hanfodion Gwybyddiaeth
  • Seicoleg Cymdeithasol a Datblygiadol
  • Seicoleg Biolegol a Niwrowyddoniaeth

Modiwlau Blwyddyn Dau:

  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2*
  • Dulliau Ymchwil 2*
  • Datblygiad Proffesiynol mewn Seicoleg
  • Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol Beirniadol
  • Seicoleg Wybyddol a Biolegol Gymhwysol

Modiwlau opsiynol:

  • Seicoleg Iechyd a Llesiant
  • Rhagarweiniad i Seicoleg Fforensig
  • Agweddau Seicogymdeithasol ar Addysg 

Modiwlau Blwyddyn Tri:
Modiwl craidd:

  • Prosiect
  • Seicoleg Clinigol
  • Technegau Therapiwtig Seicolegol 

Modiwlau opsiynol:

  • Ymarfer Proffesiynol
  • Newid yn Arferion Iechyd
  • Seicoleg Fforensig Cymhwysol
  • Seicoleg Cymhwysol mewn Addysg
  • Materion Cyfoes

​​​*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

Dewiswyd amrediad o strategaethau a dulliau addysgu, dysgu ac asesu yn ofalus er mwyn cynnig profiadau dysgu heriol sy’n cyfoethogi’r profiad. Lluniwyd y strategaethau hyn i hwyluso datblygiad blaengar a chydlynol gwybodaeth, sgiliau a hyder myfyrwyr. Mae gradd seicoleg yn defnyddio ystod o strategaethau addysgu a dysgu (yn cynnwys dysgu gwrthdro, dadleuon, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol yn y labordy) er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-Eang ac Entrepreneuraidd, profiad, gwybodaeth, hyder a chydnerthedd. Mae’r strategaethau addysgu a dysgu wedi cael eu mapio isod.

Bydd modiwlau Lefel 4 yn darparu sylfaen gadarn Lefel 4 i fyfyrwyr symud ymlaen i fodiwlau lefel 5 a 6 lle byddan nhw’n caffael gwybodaeth a dealltwriaeth manylach, uwch a mwy cymhwysol o gwricwlwm sylfaen BPS. Erbyn diwedd y cwrs bydd gan fyfyrwyr yr hyder, y sgiliau a’r cadernid i gwblhau darn o ymchwil annibynnol ar gyfer eu prosiect lefel 6.

Bydd darlithoedd yn darparu fframwaith cysyniadol o syniadau a theori, wedi’i ategu gan weithdai, seminarau ac astudiaethau cyfeiriedig (yn cynnwys tasgau a gweithgareddau ar-lein) i alluogi myfyrwyr i gaffael gwybodaeth drylwyr o’r meysydd pwnc ac i annog dysgu annibynnol.

Bydd myfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau ymarferol drwy gydol eu cwrs gradd, yn sefydlu a rhaglennu arbrofion, cynnal cyfweliadau a dadansoddi data. Er mwyn cwblhau y darnau empirig hyn o waith, bydd angen dealltwriaeth gadarn a gwerthfawrogiad o ymddygiad moesegol a phroffesiynol. Sail hyn ydy Cod Moeseg Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Bydd gweithdai a goruchwyliaeth unigolion fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol ar lefel 5, yn cyfoethogi sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr, yn benodol eu gallu i adlewyrchu a deall y sgiliau y maen nhw wedi’u hennill a’r sgiliau sydd eu hangen yn eu dewis o lwybr gyrfaol.

Oriau Cyswllt
Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn derbyn 4 awr o amser cyswllt ar gyfer pob modiwl bob wythnos - sy’n gyfystyr â lleiafswm o 12 awr o amser cyswllt bob wythnos. Gallai hyn gael ei gynnig mewn amrywiaeth o ddulliau drwy ddarlithoedd , seminarau, tiwtorialau neu weithgareddau rhyngweithiol ar-lein. Bydd arweinwyr modiwlau hefyd yn cynnig oriau swyddfa bob wythnos lle gall myfyrwyr alw heibio ar gyfer unrhyw ymholiad. Hefyd caiff myfyrwyr gyfle i gwrdd â’u tiwtor personol am gyfarfod unigol o leiaf unwaith y tymor.

Cymorth
Byddwn yn eich cynorthwyo drwy gydol eich amser gyda ni a chynnig cyfle i chi ddatblygu’ch diddordeb mewn seicoleg, a’ch helpu i bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth. Yn ein hadran fywiog a deinamig, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y cyfle i ffynnu.

Cewch eich addysgu gan grŵp o academyddion cyfeillgar ac agos atoch sydd â diddordeb yn eich cynnydd a’ch datblygiad. Mae gan bob aelod o staff naill ai PhD mewn Seicoleg neu Siarteriaeth broffesiynol yn eu maes arbennig.

Bydd gennych diwtor personol a fydd yno i’ch cynorthwyo drwy gydol eich gradd. Cynhelir nifer o gyfarfodydd unigol drwy gydol eich rhaglen radd a’r un fydd eich tiwtor personol drwy gydol eich cwrs gradd yn ogystal â'r oriau swyddfa sydd ar gael ar gyfer yr holl dîm addysgu. Gyda ‘Datblygiad Proffesiynol Cychwynnol’, byddwn yn gweithio i annog myfyrwyr i osod a chyflawni eu targedau academaidd a gyrfaol drwy dair blynedd y rhaglen.

Hefyd, mae gennym diwtoriaid blwyddyn ar gyfer pob grŵp blwyddyn sy’n gweithio’n agos gyda chyfarwyddwr y rhaglen a gwasanaethau myfyrwyr i sicrhau na fydd neb yn mynd ar goll.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda'r gymdeithas Seicoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a changen Cymru o Gymdeithas Seicolegol Prydain i gynnig ystod o weithgareddau dan arweiniad myfyrwyr tu hwnt i’r rhaglen radd israddedig.

Technoleg ac Adnoddau

Mae’r Adran Seicoleg yn elwa o ofod ymchwil pwrpasol lle gall myfyrwyr gynnal ymchwil tra’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Mae chwech o ystafelloedd ymchwil arbrofol yn y Ganolfan Ymchwil Cymhwysol Seicoleg (PARC), lle mae gennym dracwyr llygaid, capiau penglog EEG a systemau biopac. Hefyd, mae gennym labordy cyfrifiadurol pwrpasol yn llawn o'r feddalwedd arbrofol ddiweddaraf, ystafell arsylwi ac ystafell ymgynghori clinig. Mae PARC yn cynnwys man dysgu cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr fel rhan o gyfres o ystafelloedd adnoddau.

Mae gennym dîm o dechnegwr sy’n cynnig cymorth yn ystod arddangosiadau, labordai a chasglu data ar gyfer prosiect. Gall myfyrwyr fanteisio ar ein rhith amgylchedd dysgu (Moodle) i gyrchu’r holl ddeunyddiau addysgu a dysgu, canllawiau a llawlyfrau ac ar gyfer cyflwyno ar-lein a marcio.

Arbenigedd Staff
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae staff yn gwneud gwaith ymchwil mewn ystod o bynciau seicoleg cymhwysol yn cynnwys: seicoleg iechyd, seicoleg fforensig, profiad o addysg uwch, arferion cymryd risg ac anhwylderau bwyta. Mae’r tîm seicoleg wedi ymrwymo i addysgu uchel ei ansawdd yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu cefnogol. Rydyn ni’n gwrando ar ein myfyrwyr ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adborth ardderchog a gawn ganddyn nhw a gan ein harholwyr allanol.

Cewch broffiliau o'r staff yma

Asesu

Mae’r rhaglen radd israddedig yn cynnig ystod o asesu a’i nod ydy cynwysoldeb. Gallai myfyrwyr gael eu hasesu drwy draethodau, arholiadau ac adroddiadau ond hefyd drwy gyflwyniadau, cynllunio posteri, dysgu drwy ddatrys problemau a phortffolios.

Dyma rai enghreifftiau o’r asesiadau dilys yr ydyn ni’n eu darparu ar gyfer ein myfyrwyr sy’n efelychu tasgau’r byd real gyda’r nod o ddatblygu sgiliau ymarferol graddedigion.

Dulliau Ymchwil:

  • Casglu data gyda chyd-fyfyrwyr
  • Cyfranogiad mewn astudiaethau
  • ‘Lab shops’ / dadansoddi ystadegol
  • Casglu data ar gyfer y traethawd hir

Datblygiad Proffesiynol yn y Gweithle:

  • Ysgrifennu adfyfyriol a datblygu CV
  • Lleoliadau ym mlwyddyn 2 a 3
  • Portffolio o dystiolaeth / adroddiad Lleoliad
  • Profiad ymarferol mewn meysydd penodol seicoleg

Sgiliau Cymhwysol:

  • Cwnsela
  • Seicoleg Addysgol
  • Seicoleg Clinigol
  • Seicoleg Fforensig
  • Seicoleg Iechyd
  • Seicoleg Galwedigaethol

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae cyfleoedd gyrfaol i raddedigion mewn gyrfaoedd sy’n gofyn am wybodaeth am bobl a’r modd y maen nhw’n cyfathrebu. Mae’r cwrs yn sylfaen delfrydol am astudiaeth bellach mewn cyrsiau seicoleg ôl-raddedig yn arwain at gymhwyster fel seicolegydd galwedigaethol, addysgol, clinigol a fforensig neu iechyd, a hefyd yn arwain at gyrsiau ôl-raddedig eraill megis TAR. Bydd graddedigion hefyd yn gallu mynd i mewn i yrfa fel rheolwr personèl, gyrfa ym maes hysbysebu, hybu iechyd a llawer o feysydd diwydiannol.

Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd mewn seicoleg ewch i: www.bps.org.uk
Mae’r rhaglen yn ystyried cyflogaeth a sgiliau yn bwysig iawn ac mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer byd proffesiynol cystadleuol. Mae llawer o yrfaoedd ar gyfer graddedigion seicoleg yn gofyn am brofiad yn y maes cyn cychwyn hyfforddiant ôl-radd. Rydyn ni’n cynorthwyo myfyrwyr i ennill cymaint o brofiad â phosibl yn ystod eu cyfnod astudio gyda ni. Mae ymgorffori lleoliadau o fewn y cwricwlwm yn cynnig cyfle a’r amser i fyfyrwyr nid yn unig i gael profiad gwaith ond hefyd i ystyried y modd y mae’r profiad wedi gwella eu sgiliau gyda chymorth goruchwylydd academaidd a goruchwylydd yn y gweithle.

O gychwyn cyntaf y cwrs gradd anogir myfyrwyr i feddwl am yrfa, gwaith a sgiliau. Mae’r ail flwyddyn yn cynnig cyfleoedd pellach i gael profiad o wirfoddoli yn y modiwl dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn yn annog myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth seicolegol i sefyllfaoedd real go wir. Yn y flwyddyn olaf, mae modiwl opsiynol yn integreiddio datblygiad sgiliau a seicoleg cymhwysol i helpu graddedigion i baratoi ar gyfer eu camau nesaf.​​

  • Byddwch yn gallu cwblhau cyfleoedd lleoliadau gwaith sydd yn edrych yn wych ar CV
  • Byddwch yn caffael sgiliau mewn dulliau ymchwil, hanfodol i ddatblygu gyrfa lwyddiannus
  • Byddwch yn gallu dewis amrywiaeth o fodiwlau yn ystod y flwyddyn olaf i ddilyn eich diddordebau eich hun
  • Byddwch yn cael cyfleoedd ar gyfer cyfnewid byd-eang gan gynnwys gwirfoddoli a lleoliadau gwaith.

Bydd graddedigion Seicoleg yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy yn ystod eu cwrs gradd, yn cynnwys sgiliau cyfrifiadurol, cymhwysedd rhifedd a chymhwysedd. ystadegol; meddwl yn gritigol, ymchwil llyfrgell; ymchwil empirig (gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol); gweithio mwn tîm; sgiliau annibynnol; sgiliau cyfathrebu (ysgrifenedig, llafar a chyflwyniadau poster).

Yr opsiynau a gynigiwn yn ystod y flwyddyn olaf ydy mewn seicoleg Fforensig, Clinigol, Iechyd, Addysgol, Galwedigaethol, Cwnsela a Chwaraeon a gall myfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau hyfforddi ôl-raddedig mewn seicoleg Fforensig, Iechyd neu Chwaraeon, a gynigir gan Seicolegwyr Siartredig yn yr ysgol.

Gall graddedigion gradd Israddedig Seicoleg hefyd fynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector cyhoeddus, gyda swyddi addysgu, swyddi yn y gwasanaethau cymdeithasol, adran iechyd, y weinyddiaeth amddiffyn, iechyd a diogelwch, a’r swyddfa ystadegau gwladol.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 96-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Lefel A i gynnwys Graddau BC, neu graddau CCC ar Lefel A ynghyd â Thystysgrif Her Uwch Sgiliau gradd C – Bagloriaeth Cymru.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM.
  • Lefel T: Pasio (C+) – Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dau Radd 5 mewn pynciau Lefel Uwch.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost a askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Amie- Louise Prior:
E-bost: aprior@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 5994​

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
C800 - Gradd 3 blynedd
C80F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Achredwyd gan: Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Lleoliad yr Astudiaeth: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd​

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.​

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i Gwrdd â’r Tîm: Mirain Rhys

Dewch i gwrdd â Dr Mirain Rhys, Darlithydd ar y radd Seicoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

TROSOLWG O’R DDARPARIAETH GYMRAEG
Astudio Chwaraeon ac Iechyd drwy Gyfrwng y Gymraeg

Dewch i ddarganfod mwy am y cyfleoedd unigryw i astudio Chwaraeon ac Iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Blog
Fy mhrofiad yn cymryd rhan yng nghynhadledd Poster Seicoleg

Mae myfyrwyr y drydedd flwyddyn yn cymryd rhan mewn cynhadledd poster i rannu a thrafod eu posteri ymchwil, gyda staff academaidd a’n cyfoedion.
Darllen mwy

Blog
Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Seicoleg ym Met Caerdydd - manteisio ar bob cyfle!

Mae myfyriwr graddedig BSc (Anrh) Seicoleg Megan yn sôn am ei phrofiad yn astudio’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy

Blog
Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Seicoleg a manteisio ar brofiad gwaith

Mae Elin, un o raddedigion, yn blogio am ei thaith gyda Seicoleg ym Met Caerdydd ac y manteision sydd o astudio’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy