Astudiaethau Achos Ymchwil
Intropara
Robotiaid Diheintio'r Genhedlaeth Nesaf
Mae ymchwil Dr Esyin Chew, Cymrawd Santander yr Academïau Byd-eang, yn astudio’r defnydd o roboteg i frwydro yn erbyn clefydau hynod heintus mewn amgylcheddau gofal iechyd, lletygarwch ac addysg.
Darllenwch yma
Ecosystemau Dylunio Rhyngwladol Sut mae Ymchwil Met Caerdydd wedi gwella cystadleurwydd BBach
Cydnabyddir Canolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil (PDR) Met Caerdydd am ei hymchwil i’r ffyrdd y gall dylunio wella bywydau bob dydd pobl a sut, er enghraifft, y gall llywodraethau a llunwyr polisïau newid y ffordd y maen nhw’n datblygu polisïau er lles pawb.
Darllenwch yma
Democratiaeth wedi'i chynllunio'n dda: Defnyddio Dylunio i Ailfeddwl Sefydliadau Democrataidd a Llwyodrathu
Prosiect Arwyr CV19: Olrhain Lles Gweithwyr Rheng Flaen a Gweithwyr Allweddol yn y DU ac Iwerddon yn ystod ac yn sgil COVID-19
Wrth i Academïau Byd-eang Met Caerdydd barhau i dyfu, rydym yn dod â staff newydd mewn i gefnogi uchelgeisiau ymchwil cryf y Brifysgol. Yn ddiweddar, recriwtiodd yr Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol, dan arweiniad yr Athro Diane Crone, Dr Rachel Sumner fel Uwch Gymrawd Ymchwil.
Darllenwch yma..
Gwella Iechyd dry Weithgarwch Corfforol: Ennyn diddordeb menywod ifanc "anodd eu cyrraedd" yn y Cymoedd
Mae Ellyse Hopkins yn cwblhau PhD â chyllid KESS 2 mewn cydweithrediad ag Academi Gymnasteg y Cymoedd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ennyn diddordeb menywod ifanc o gefndiroedd difreintiedig mewn gweithgarwch corfforol.
Darllenwch yma..
Gynnwys cyn-filwyr anafedig mewn ymarfer corff, gan ganolbwyntio ar yr elfennau ffisiolegol a seicolegol
Llwyddodd Dr Robert Walker i amddiffyn ei PhD ar 19 Ebrill 2021. Roedd ymchwil Rob yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chyn-filwyr milwrol a anafwyd i fewn i ymarfer corff, cwblhawyd ei PhD mewn cydweithrediad â Help for Heroes.
Darllenwch yma..
Astudiaeth o Brofiadau'r Cyhoedd yn D.U. yn ystod pandemig COVID-19
Ym mis Mawrth 2020, roedd pandemig y coronafeirws COVID-19 yn cynyddu yn y DU ac fe wnaeth ymchwilwyr seicoleg o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd ddylunio’n gyflym arolwg ar-lein i gael gwybod am brofiadau pobl sy’n byw yn y DU yn ystod y pandemig. Y prosiect hwn oedd un o’r cyntaf o’i fath yn y DU. Fe fu’r prosiect yn archwilio’r hyn oedd yn digwydd yn wirioneddol ymhlith y cyhoedd yn y DU ar ddechrau’r cyfyngiadau symud – â’r nod i ddeall beth oedd aelodau o’r cyhoedd yn meddwl, yn teimlo ac yn ei wneud yn ystod diwrnodau cynnar yr argyfwng a sut roedden nhw’n ymateb i gyfathrebiadau oddi wrth y llywodraeth a’r gwasanaethau iechyd.
Darllenwch ragor
Atal a rheoli anafiadau i’r pen mewn criced a rygbiead
Ers 2013, mae Dr Isabel Moore Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Dr Craig Ranson o Sefydliad Chwaraeon Lloegr (EIS) wedi cydweithredu ar ymchwil i broblemau anafiadau mewn criced a rygbi undeb, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gyda chyllid oddi wrth Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC), Undeb Rygbi Cymru (WRU), World Rugby a Chynghrair Rygbi Undeb PRO14 Guinness, mae eu hymchwil wedi hwyluso newidiadau mewn offer amddiffynnol a chwyldroi rheoli’r risg o anafiadau mewn chwaraeon tîm.
Darllenwch ragor..
Sgrinio traed ar gyfer cleifion â diabetes ym Mauritius
Mae gan Mauritius un o’r lefelau uchaf o ddiabetes yn y byd, gyda 29 y cant o’r holl farwolaethau yn gysylltiedig â Diabetes Melitws Math 1 (2017 World Health Rankings). Mae hyn yn arwain at bron i 500 o drychiadau troed y flwyddyn.
Sefydlodd Dr Jane Lewis raglen systematig gyntaf Mauritius o Sgrinio Briwiau Traed Diabetig yn 2014. Mae’r rhaglen yn helpu i nodi clefyd traed diabetig yn gynnar cyn briwio, ffactor hanfodol am mai briwiau diabetig yw cam cyntaf cyfres o ddigwyddiadau sy’n arwain yn aml at drychiadau mawr a/neu farwolaeth gynnar. Rhwng 2016-2018, cafodd 176,341 o bobl ym Mauritius eu sgrinio drwy’r rhaglen a ddechreuwyd gan Lewis, a nododd gam hollbwysig wrth ddelio â mater iechyd cenedlaethol o bwys.
Gallwch chi ddarllen mwy am ymchwil Dr Jane Lewis yma.
Met Caerdydd a PDR yn cael eu cydnabod gyda gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch iawn o gael ei chydnabod yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn seremoni ym Mhalas Stant Iago yn Llundain. Dyfernir y wobr bob dwy flynedd gan y Frenhines i gydnabod sefydliad academaidd neu alwedigaethol, ac mae'n rhan o system anrhydeddau cenedlaethol y DU. Dyfarnwyd yr anrhydedd hon i'r Brifysgol o ganlyniad i'r gwaith gwych a wnaed gan dechnolegwyr dylunio yn PDR.
Chwarae Wyneb a Blinder mewn Pêl-droed
Yn yr astudiaeth hon, mae ymchwilwyr o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i effaith arwynebau chwarae mewn pêl-droed. Yn benodol, a yw datblygiad blinder yn wahanol rhwng arwynebau glaswellt ac artiffisial?
Read more...
Arloesi Aflonyddgar: Datblygu Cynnyrch Meddygol ar gyfer Zambia Gwledig
Cydweithrediad rhwng Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a Chydweithrediad Zambia Ysgol Meddygaeth Caerdydd yw'r prosiect hwn, sy'n cefnogi cymuned rhanbarth Chongwe Zambia i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig. Mae'r nodau hyn yn cynnwys lleihau marwolaethau plant, gwella iechyd mamau a chyflawni addysg gynradd gyffredinol.
Read more...
Page Content