Ymchwil>Academïau Byd-eang>International Design Ecosystems

Ecosystemau Dylunio Rhyngwladol: Sut mae ymchwil Met Caerdydd wedi gwella cystadleurwydd BBaCh

​Cydnabyddir Canolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil (PDR) Met Caerdydd am ei hymchwil i’r ffyrdd y gall dylunio wella bywydau bob dydd pobl a sut, er enghraifft, y gall llywodraethau a llunwyr polisïau newid y ffordd y maen nhw’n datblygu polisïau er lles pawb.  

Yn y ffilm hon, cewch glywed gan yr Athro Andrew Walters a’r Athro Anna Whicher am un enghraifft o’r fath, sy’n cynnwys datblygu ecosystem ddylunio ar gyfer darparu cymorth arloesi sydd wedi cael effaith sylweddol ar bolisi ac arfer yn Ewrop ac effaith gadarnhaol ar berfformiad economaidd rhanbarthol.

Maen nhw’n egluro’r ffordd y mae eu prosiect ymchwil, gan weithio gyda sawl Partner Ewropeaidd, wedi galluogi llunwyr polisïau i wneud penderfyniadau ar y ffyrdd gorau o gefnogi BBaCh yn eu rhanbarthau. Yn arbennig, sut mae hyn wedi cyfrannu at saith offeryn polisi ar draws chwe gwlad, wedi cynyddu buddsoddiad llywodraethau mewn cymorth dylunio o tua €14 miliwn a chyrraedd 2,600 o gwmnïau ledled Ewrop i gyflawni cystadleurwydd gwell a thwf mewn gwerthiannau i BBaCh.