Cydweithrediad rhwng Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a Chydweithrediad Zambia Ysgol Meddygaeth Caerdydd yw'r prosiect hwn, sy'n cefnogi cymuned rhanbarth Chongwe Zambia i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig. Mae'r nodau hyn yn cynnwys lleihau marwolaethau plant, gwella iechyd mamau a chyflawni addysg gynradd gyffredinol.
Ei nod yw gwella bywydau pobl yng nghefn gwlad Zambia trwy ddatblygu gwybodaeth, technegau a mewnwelediadau newydd. Mae'r tîm yn defnyddio arloesi aflonyddgar ar sail technegau gwerthuso ethnograffig cyflym sy’n seiliedig ar brototeip ac maent yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth a gafwyd i ddatblygu datrysiadau cynnyrch meddygol radical ond sy’n briodol yn ddiwylliannol, yn wleidyddol, yn economaidd ac yn gyfreithiol.
Mae pobl Chongwe yn gyfranogwyr gweithredol yn y broses hon. Mae Cydymaith Academaidd Met Caerdydd wedi ymuno â’r tîm amlddisgyblaethol dan arweiniad Ysgol Meddygaeth Caerdydd. Y llynedd, dechreuodd gynnal dadansoddiad anghenion gyda staff o Zambia gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwirfoddolwyr, swyddogion y llywodraeth ac elusennau ac mae bellach wedi dechrau dylunio datrysiadau cynnyrch prototeip. Un o'r prif resymau y dewiswyd Chongwe oedd ei hanes trawiadol wrth gyflwyno mentrau arloesol er gwaethaf diffyg adnoddau ei phobl ac amodau byw a gweithio gwael.
Bydd y prosiect yn cyflawni cynaliadwyedd trwy sicrhau bod y datrysiadau a gynigir yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o anghenion pobl Chongwe, eu hadnoddau, gallu, diwylliant a'u gwybodaeth. Y bwriad yw datblygu datrysiadau y gellir eu cynhyrchu'n lleol gan ddefnyddio deunyddiau a phrosesau ymarferol ac sydd ar gael.
Mae'r tîm yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn cyfrannu arbenigedd dylunio ac ethnograffeg. Mae'n cynnwys Dr Gareth Loudon, yr Athro Steve Gill a Clara Watkins. Maent yn gweithio gyda'r Athro Judith Hall (OBE) o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain menter Cydweithredu Zambia Caerdydd