Hafan>Ymchwil>showcaseFIFA

Arddangos FIFA

​​​​​​​​​​​​​​

Yn yr astudiaeth hon, mae ymchwilwyr o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i effaith arwynebau chwarae mewn pêl-droed. Yn benodol, a yw datblygiad blinder yn wahanol rhwng arwynebau glaswellt ac artiffisial?

Mae amrywiadau tymhorol a hinsoddol yn cael effaith amlwg ar gyflwr caeau chwaraeon. Ystyriwyd dyfodiad caeau artiffisial gan lawer fel dewis arall deniadol yn lle arwynebau naturiol, sydd yn eu hanfod yn amrywio o ran eu hansawdd ac sy’n anodd eu cynnal. Mae mabwysiadu caeau '3G' mewn pêl-droed yn fwyfwy cyffredin, er erys pryderon bod y caeau artiffisial yn effeithio ar gyfradd anafiadau, tactegau, technegau a dwyster y gamp. Mewn ymateb i'r pryderon hyn, mae FIFA, corff llywodraethu rhyngwladol y gamp, wedi comisiynu tîm ymchwil o Ysgol Chwaraeon Caerdydd i ymchwilio i weld a yw datblygiad blinder ym mhêl-droed dynion yn wahanol rhwng y caeau glaswellt ac artiffisial. I FIFA a'r gwneuthurwyr glaswellt, mae blinder yn broblem hanfodol oherwydd ei gysylltiadau â risg anafiadau a'r angen i gynnal nodweddion y gamp ar bob lefel y chwarae.  

Comisiynwyd y tîm ymchwil, dan arweiniad Dr Michael Hughes, yn gyntaf i gwblhau astudiaeth ragarweiniol gyda chwaraewyr o Chelsea FC ar eu maes hyfforddi. Dangoswyd gan y gwaith hwn fod efelychiad pêl-droed rheoledig 20 munud wedi arwain at ymatebion ffisiolegol tebyg yn yr 16 chwaraewr a brofwyd, gan awgrymu nad oedd datblygiad blinder yn wahanol rhwng y ddau fath o gae.​

Mae blinder mewn gemau pêl-droed yn datblygu trwy gydol 90 munud y gêm, felly er mwyn mynd i’r afael â’r broblem blinder y tu hwnt i 20 munud y gwaith blaenorol, roedd angen cyfnod hirach o weithgarwch pêl-droed. Felly, fel rhan o ymchwiliad aml-sefydliad mwy o faint i effaith arwynebau chwarae mewn gwahanol ranbarthau, cwblhawyd cyfres o gemau pêl-droed ffug rheoledig 90 munud gan yr ymchwilwyr ar gaeau hyfforddi Valencia FC (Sbaen) a thîm cenedlaethol Norwy (Oslo). Dangoswyd gan yr astudiaeth bwysig hon fod effaith arwynebau chwarae yn ddibwys ar ddatblygiad blinder. Yn wir, roedd effaith hinsawdd yn llawer mwy dylanwadol nag effaith yr arwyneb chwarae.

Mae’r astudiaethau hyn wedi’u defnyddio i lywio coethderau yn y dyfodol wrth ddylunio caeau artiffisial ac fel sylfeini ar gyfer ymchwil ddilynol. Mae ymchwil gyfredol yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yn cynnwys ymchwiliad i effaith amrywioldeb caeau glaswellt a phrosiect mwy, a ariennir hefyd gan FIFA, sy'n cyfuno asesiadau biomecanyddol a seicolegol o ymatebion y chwaraewyr i redeg a throi ar wahanol fathau o arwynebau.  

Arweiniwyd yr ymchwil hon gan Dr Michael Hughes, uwch ddarlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, ar y cyd â'r Athro David Kerwin (YChC) a'r Athro Len Nokes (Prifysgol Caerdydd). Mae'r tîm ymchwil i gyd yn aelodau o Ffisioleg ac Iechyd yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd ac roedd yn cynnwys Dr Jon Oliver a Dr Paul Smith, Mike Stembridge, Robert Meyers a Keeron Stone