Ym
mis Mawrth 2020, roedd pandemig y coronafeirws COVID-19 yn cynyddu yn y DU ac
fe wnaeth ymchwilwyr seicoleg o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd a
Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd ddylunio’n gyflym arolwg ar-lein
i gael gwybod am brofiadau pobl sy’n byw yn y DU yn ystod y pandemig. Y
prosiect hwn oedd un o’r cyntaf o’i fath yn y DU. Fe fu’r prosiect yn
archwilio’r hyn oedd yn digwydd yn wirioneddol ymhlith y cyhoedd yn y DU ar
ddechrau’r cyfyngiadau symud – â’r nod i ddeall beth oedd aelodau o’r cyhoedd
yn meddwl, yn teimlo ac yn ei wneud yn ystod diwrnodau cynnar yr argyfwng a sut
roedden nhw’n ymateb i gyfathrebiadau oddi wrth y llywodraeth a’r gwasanaethau
iechyd. Fe wnaeth yr arolwg ar-lein archwilio ystod o bynciau, gan ymchwilio
i’r newidiadau oedd yn digwydd i fywydau pobl oherwydd y pandemig a’r pryderon
a’r rhwystredigaethau roedd pobl yn eu profi. Fe wnaeth yr arolwg geisio
sefydlu hefyd sut roedd y cyhoedd yn teimlo am awdurdodau’r llywodraeth ac
ymateb y gwasanaeth iechyd i’r sefydliadau oedd yn newid yn gyflym, ac a oedden nhw’n teimlo bod mynediant ganddynt i
wybodaeth gywir a chyfredol.
Fe gaeodd yr arolwg ar-lein cyntaf ar Ebrill 12, 2020 â
11,417 o gyfranogwyr, ffigur canmoladwy iawn, rhwng Mawrth 13eg ac
Ebrill 14eg. Nawr mae arweinydd y prosiect, Dr. Rhiannon Phillips, Darlithydd
mewn Seicoleg Iechyd a Lles ym Met Caerdydd, a’i thîm yn gweithio i ddadansoddi
canlyniadau’r arolwg, lansio tudalen gwe y prosiect, a gwneud cais i gael
cyllid ar gyfer unrhyw ymchwil dilynol. | Dr Rhiannon Phillips (PI) |
Mae toreth o
ffactorau seicolegol a demograffig-gymdeithasol yn dylanwadu ar sut y bydd
pandemig yn effeithio ar bobl a sut bydd y bobl yn ymateb i’r pandemig. Bydd
angen deall y rhain wrth ddylunio a gweithredu mentrau iechyd cyhoeddus
cenedlaethol a byd-eang i isafu’r niwed ar draws y boblogaeth. Mae deall
effaith pandemig COVID-19 ar iechyd corfforol a lles seicolegol yn flaenoriaeth
fawr i waith llunio polisïau a chynllunio ar gyfer y pandemig gan Lywodraeth y
DU. Bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn rhoi arweiniad i Lywodraeth y DU ar
batrymau ymddygiad iechyd y cyhoedd ac yn cyfrannu argymhellion i ddylanwadu’n
gadarnhaol o ran cadw at y cyngor ar ymddygiad ac atal cam-wybodaeth.
Gall canfyddiadau
pobl a’u hymateb i fygythiadau feirysol pandemig fod yn rhwystrau neu’n
hwyluswyr i ymgysylltiad â, ac i gadw at, bolisïau cyfyngu, oedi a lliniaru.
Mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig â mentrau byd-eang oddi wrth WHO (Sefydliad
Iechyd y Byd) i gael dysgu oddi wrth ymatebion y cyhoedd i bandemig COVID-19 er
mwyn cael paratoi yn well ar gyfer yr epidemig nesaf a fydd yn digwydd yn
ddiarwybod. Bu’r tîm ymchwil yn ystyried sut i addasu prosiect sy’n
canolbwyntio ar y DU i waith cymharu rhyngwladol wedi’i yrru gan bartneriaid
rhyngwladol a fydd yn gallu addasu cwestiynau’r arolwg i sicrhau perthnasedd
diwylliannol. Ymhlith camau nesaf y prosiect bydd cynnal cyfweliadau gyda
chyfranogwyr allweddol ac ail-adrodd yr arolwg ar-lein yn haf 2020 ac eto yn
2021, i gael gweld sut mae agweddau wedi esblygu dros amser.
Darllenwch fwy am
y prosiect hwn yma:
https://www.cardiffmet.ac.uk/news/Pages/UK-attitudes-to-coronavirus-pandemic.aspx.
Gallwch ddilyn y
newyddion diweddaraf am y prosiect yma: https://copestudy.yolasite.com/.