Ers 2013, mae Dr Isabel Moore Prifysgol
Metropolitan Caerdydd a Dr Craig Ranson o Sefydliad Chwaraeon Lloegr (EIS) wedi
cydweithredu ar ymchwil i broblemau anafiadau mewn criced a rygbi undeb, yn
genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gyda chyllid oddi wrth Fwrdd Criced Cymru a
Lloegr (ECB), y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC), Undeb Rygbi Cymru (WRU), World
Rugby a Chynghrair Rygbi Undeb PRO14 Guinness, mae eu hymchwil wedi hwyluso
newidiadau mewn offer amddiffynnol a chwyldroi rheoli’r risg o anafiadau mewn chwaraeon
tîm.
Trwy ymchwil Moore a Ranson, cafodd diffygion dylunio eu nodi a
ganiataodd i anafiadau pen difrifol ddigwydd mewn criced hyd yn oed pan oedd y
chwaraewyr yn gwisgo helmedau. Ar sail y canfyddiadau ymchwil hyn, cyhoeddodd
panel o Sefydliad Safonau Prydain Safon Brydeinig newydd am Amddiffynyddion Pen
mewn Criced yng Ngorffennaf 2014. Ym Mehefin 2015, cynghorodd yr ICC i bob
aelod-genedl y dylai chwaraewyr mewn cystadlaethau a reoleiddiwyd ganddyn nhw
wisgo dim ond helmedau a oedd yn cyflawni’r safon hon. Ar ben hynny, yn 2017
cafodd y Rheolau a’r Rheoliadau Helmedau eu hadolygu, i ddatgan y dylai pob
helmed a gâi ei wisgo yn ystod criced rhyngwladol gydymffurfio â’r Safonau
Prydeinig newydd, ac y byddai methu â gwneud hynny’n arwain at gosbau. Erbyn
hyn mae pob cricedwr rhyngwladol yn gwisgo helmed i’r safon newydd - a hyd yn
hyn, nid yw’r un anaf pen angheuol yn gysylltiedig â gwisgo helmedau’r safon
newydd wedi cael ei gofnodi.
Ar ôl i Moore a Ranson dreialu eu system wyliadwriaeth anafiadau unigryw yn
llwyddiannus, gweithredan nhw’r rhaglen wyliadwriaeth anafiadau gyntaf WRU mewn rygbi undeb lefel broffesiynol. Y system hon
yw’r unig gronfa ddata sydd wedi cael ei defnyddio i olrhain chwaraewyr gwryw proffesiynol
wrth iddynt drosglwyddo i mewn ac allan o sgwadiau clwb a rhyngwladol, gan
alluogi proffilio cyflawn o risgiau anafiadau chwaraewyr. Roedd y gronfa ddata
arloesol hon yn gadael i dueddiadau mewn anafiadau gael eu nodi, gan gynnwys
codiad triphlyg mewn digwyddiadau cyfergyd ar lefel clybiau a risg 38 y cant yn
uwch o anafiadau yn dilyn anaf cyfergydiol
vs. anghyfergydiol.
Gallwch chi ddysgu mwy am ymchwil wyliadwriaeth anafiadau Moore a Ranson mewn
chwaraeon tîm yma. Gwyliwch gyfweliad Dr Izzy Moore ar y BBC am risg
anafiadau rygbi yma.