Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy
glicio yma.
Gradd:
Mae Rheoli Twristiaeth Ryngwladol BA (Anrh) yn cynnwys nifer o fodiwlau rheoli a thwristiaeth-benodol craidd, gyda chasgliad o opsiynau i alluogi myfyrwyr i deilwra'r cyrsiau i gyd-fynd â'u diddordebau a'u huchelgeisiau gyrfa penodol eu hunain.
Yn ystod pob blwyddyn astudio, bydd myfyrwyr yn cwblhau gwerth 120 credyd o fodiwlau o'r rhestri isod:
Blwyddyn Un:
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr:
- Y Diwydiant Twristiaeth (20 credyd)
- Twristiaeth ar gyfer Planed Fach (20 credyd)
- Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (10 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (20 credyd)*
- Rheoli Pobl a Sefydliadau (20 credyd)*
- Cynllunio Datblygiad Personol (10 credyd)
- Profiad Atyniad ymwelwyr (20 redyd)
Blwyddyn Dau:
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr:
- Datblygu Cyrchfan Gystadleuol (20 credyd)
- Datblygu Busnes a Chyllid (10 credyd)
- Rheoli Adnoddau Dynol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
- Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)*
- Dulliau Ymchwil (10 credyd)*
- Profiad Gwaith (10 credyd)
- Twristiaeth Arbenigol (20 credyd)
Modiwlau dewisol (10 credyd):
- Modiwl Ardystio
- Astudiaeth Maes Ewropeaidd
- Cynllunio Ariannol ar gyfer Busnes
- Cymdeithaseg Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
- Rheoli Digwyddiadau ac Argyfyngau Mawr
- Diogelwch a Thrwyddedu Digwyddiadau**
- Digwyddiadau Cymdeithasol a Chynllunio Partïon**
Blwyddyn Tri:
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob rhaglen:
- Moeseg Twristiaeth (20 credyd)
- Rheoli Strategol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
- Traethawd Hir (40 credyd) NEU Brosiect Menter (40 credyd) NEU Astudiaeth Annibynnol (20 credyd)
- Diwylliant, Pŵer a Hunaniaeth (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Brandio a Hysbysebu (10 credyd)
- Cyllid Corfforaethol (10 credyd)
- Profiad Cwsmeriaid Digidol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (10 credyd)
- Cyflogadwyedd a Datblygu Gyrfa (10 credyd)
- Adnoddau Cyflogeion (10 credyd)
- Profiad Gwaith Diwydiannol (20 credyd)
- Astudiaeth Maes Ryngwladol (10 credyd)
- Cysylltiadau Cyhoeddus a Nawdd (10 credyd)
- Astudiaethau Gwin (10 credyd)
- Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20 credyd)
- Gwyliau a Digwyddiadau Diwylliannol (20 credyd)
- Cynadleddau, Arddangosfeydd a Digwyddiadau Corfforaethol (20 credyd)
Mae gwybodaeth cwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â mynediad 2022.
Bydd y rhaglen hon yn cael ei hadolygu'n ddewisol ym mis Mawrth 2022. O'r herwydd, gall cynnwys y cwrs a ddangosir isod newid i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau ar ôl eu cadarnhau.
Efallai y bydd modiwlau blwyddyn olaf / dewisol yn cael eu heffeithio oherwydd bod y llwybrau'n dod i ben eleni. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr os bydd newidiadau.
Dysgu ac Addysgu
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y ddwy raglen, a byddant yn cael eu hategu gan diwtorialau a seminarau i ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd a'i atgyfnerthu. Mae timau modiwlau penodol yn defnyddio siaradwyr gwadd a darlithwyr gwadd ar bob un o'r tair lefel hefyd. Yn ogystal â'r ddarpariaeth ar yr amserlen, disgwylir i fyfyrwyr dreulio amser ychwanegol yn darllen, paratoi ar gyfer dosbarthiadau, cymryd rhan mewn prosiectau grŵp neu rithwir, ymchwilio a chwblhau asesiadau. Gellir cael gafael ar bob un o'ch modiwlau dewisol drwy Moodle. Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad at wasanaethau Llyfrgell, Met Search, ac adnoddau gan ABTA a'r Sefydliad Lletygarwch hefyd.
Mae gan bob myfyriwr ar y BA (Anrh) Rheoli Twristiaeth Ryngwladol ei diwtor personol ei hun sy'n aros yr un fath drwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cyfarfod â'ch tiwtor personol yn ystod yr wythnos sefydlu ac ar sawl pwynt cyswllt dynodedig yn ystod y flwyddyn. Nod y Cynllun Tiwtor Personol yw hyrwyddo llwyddiant a chyflawniad, gan helpu pob myfyriwr i wireddu ei botensial drwy ddatblygu Priodoleddau Graddedigion (fel yr amlinellir yn Fframwaith Priodoleddau Graddedigion y Brifysgol) ar y cyd â'u hastudiaethau academaidd a'u gweithgareddau allgyrsiol. Bydd cefnogi partneriaethau effeithiol, ystyrlon a grymusol rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid yn ganolog i lwyddiant y dull hwn.
Mae arbenigedd addysgu ac ymchwil y staff academaidd ar y rhaglenni hyn yn cwmpasu amrywiaeth o themâu a meysydd gwahanol sy'n ymwneud â thwristiaeth a digwyddiadau.
Dr Emmet McLoughlin yn addysgu ar nifer o fodiwlau ar draws y ddwy raglen, lle mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys dulliau cynaliadwyedd sy'n seiliedig ar ddata, dangosyddion cynaliadwyedd a chynllunio cynaliadwy ar gyfer twristiaeth a digwyddiadau.
Mae ymchwil Dr Jeanette Reis yn canolbwyntio ar reoli morol cynaliadwy, yn fwyaf diweddar gyda phwyslais ar dwristiaeth bywyd gwyllt morol. Mae Dr Reis wedi cyhoeddi nifer o bapurau academaidd, llyfrau ac adroddiadau ymgynghori dros yr ugain mlynedd diwethaf yn ymwneud â phrosiectau ledled y DU, Ewrop a Chanada.
Mae Dr Vicky Richards yn addysgu ar nifer o fodiwlau ym maes twristiaeth, dulliau ymchwil ac ymchwil myfyrwyr. Mae diddordebau ymchwil penodol yn canolbwyntio ar ac yn ac ategu'r addysgu mewn meysydd gan gynnwys 'disgwyliadau twristiaid', mwy o bwyslais ar brofiad ymwelwyr, materion yn ymwneud ag ymgorfforiad, rhywedd, twristiaeth i bawb a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae
Helene Grousset-Rees yn addysgu amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â thwristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau, gan gynnwys atyniadau ymwelwyr, arferion busnes cynaliadwy, astudiaethau maes, marchnata digidol a rheoli marchnata, i gyd yn canolbwyntio'n helaeth ar brofiad y cwsmer.
Mae
Dr Emma Bettinson yn addysgu yn holl raglenni israddedig ac ôl-raddedig yr adran ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn Marchnata Twristiaeth a Brandio a Hysbysebu.
Mae Dr Sheena Carlisle yn uwch ddarlithydd mewn rheoli twristiaeth ac mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys datblygu cyrchfannau, rheoli argyfwng, moeseg twristiaeth a sgiliau ar gyfer cynaliadwyedd mewn twristiaeth.
Mae
Dr Claire Haven-Tang yn addysgu ar fodiwlau gan gynnwys Twristiaeth Arbenigol, gyda diddordebau ymchwil penodol mewn datblygu cyrchfannau, Naws am Le, BBaChau twristiaeth a thwristiaeth busnes a digwyddiadau.
Asesu
Mae strategaeth asesu'r Ysgol Reoli ar gyfer pob modiwl yn y radd BA (Anrh) Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn amrywio er mwyn sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei ddefnyddio i gyflawni deilliannau dysgu. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, astudiaethau achos, podlediadau, ffilmiau, cyflwyniadau poster, ac arholiadau.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae twristiaeth yn sector hanfodol o economi'r DU, ac fel diwydiant mae wedi profi yn y gorffennol ei fod yn arloesol ac yn wydn yn wyneb clefydau a thrychinebau naturiol, ac mae galw mawr am reolwyr arbenigol ym meysydd arloesi, creadigrwydd, sgiliau digidol, cynaliadwyedd a rheoli risg. Mae’r diwydiant twristiaeth yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa a bydd graddedigion mewn sefyllfa dda i sicrhau swyddi rheoli yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant twristiaeth, yn y DU a thramor. Ceir cyfleoedd ym meysydd marchnata a chynllunio cyrchfannau, gweithrediadau teithio a theithiau, rheoli digwyddiadau, rheoli chwaraeon a marchnata sefydliadau twristiaeth cenedlaethol a lleol, rheoli atyniadau ymwelwyr, darpariaeth lletygarwch, a datblygu busnesau bach (gan arwain o bosibl at hunangyflogaeth). Yn y naill raglen a'r llall, mae ffocws cryf ar sgiliau trosglwyddadwy a chyda ffocws y cwrs ar reoli, mae cyfleoedd i raddedigion mewn meysydd busnes ehangach hefyd (Adnoddau Dynol, Marchnata ac ati).
Mae opsiynau astudio pellach yn cynnwys nifer o gyrsiau ardystio megis Dyfarniad Deiliaid Trwydded Bersonol BIIAB a Diogelwch Bwyd Lefel 2. Hefyd, mae myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau M.Sc. mewn Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth neu M.Sc. mewn Rheoli Digwyddiadau, gyda chyfleoedd i symud ymlaen i raglenni doethurol, megis MPhil, PhD, DMan a Prof Doc, i gyd yma ym Met Caerdydd.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Gradd:
Pum pas TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd ar radd C / gradd 4 neu'n uwch, ynghyd â 96-112 pwynt o 2 Lefel A o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 96-112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf yn cynnwys graddau CC; ystyrir Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt MMM - DMM
- 96-112 pwynt o ddau gymhwyster Scottish Advanced Highers o leiaf yn cynnwys graddau DD
- 96-112 pwynt o'r Irish Leaving Certificate ar lefel Higher i gynnwys 3 x gradd H2. H4 yw'r gradd isaf a ystyrir yn achos pynciau ar y lefel uwch
- 96-112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Rhaglen Sylfaen sy'n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1.
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb brwd yn y sectorau twristiaeth. Bydd croeso i ymgeiswyr sy'n dangos profiad neu ymgysylltiad perthnasol â'r sector drwy eu datganiad personol.
Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod, neu os nad yw eich cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS i weld gofynion mynediad. Mae rhagor o fanylion am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE, ar gael drwy glicio
yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r
tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Gweithdrefn Ddethol:
Detholir ar sail cais a datganiad personol fel arfer.
Sut i Wneud Cais: Dylid gwneud ceisiadau llawn amser ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn
www.ucas.com. Dylid cyflwyno ceisiadau rhan-amser i'r Brifysgol yn
www.cardiffmet.ac.uk/selfservice. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, mae rhagor o wybodaeth am hyn a gwybodaeth am sut i wneud cais ar y
Rdudalen Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL). Cysylltwch â
Derbyniadau ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych am Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael
yma.
Cysylltu â Ni