Ysgol Reoli Caerdydd>Staff>Emma Bettinson

Dr Emma Bettinson

​​​

Pennaeth Adran, Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau

Adran: Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau 
Rhif Ffôn: +44(0)29 2041 7132
Cyfeiriad E-bost: ebettinson@cardiffmet.ac.uk

Mae Emma yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth ac yn Gyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer y rhaglenni MSc yn yr Adran Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau.  Mae'n addysgu ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn yr adran gyda diddordeb arbennig mewn Marchnata Twristiaeth a Brandio a Hysbysebu. 

Ar hyn o bryd mae fy niddordebau ymchwil ym maes rhyngwladoli Addysg Uwch, a phrofiad myfyrwyr ac academyddion yn yr hinsawdd hon a ryngwladolwyd. Mae fy nghefndir fel person graddedig mewn ieithoedd tramor modern ac mae cyfnod hir o gyflogaeth fel tiwtor i fyfyrwyr rhyngwladol yn ddi-os wedi ysgogi fy niddordeb yn y maes hwn ac wedi dylanwadu ar fy agwedd at fy ymchwil.  

Mae fy PhD yn canolbwyntio ar brofiadau myfyrwyr rhyngwladol ôl-ddoethuriaeth mewn twristiaeth a'u goruchwylwyr. Mae'n canolbwyntio ar swyddogaeth iaith a grym yn y profiad PhD a, trwy ddull astudiaethau iaith beirniadol, mae'r gwaith hefyd yn archwilio cyfraniad graddau PhD at greu gwybodaeth mewn twristiaeth.