Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Polisi Derbyniadau Cyd-destunol

Polisi Derbyniadau Cyd-destunol

​Mae Met Caerdydd yn awyddus i annog myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd i gymryd rhan mewn addysg uwch ac i ddefnyddio derbyniadau cyd-destunol er mwyn gwneud cynigion llai.

Derbyniadau cyd-destunol yw lle mae gwybodaeth a ddarperir ar geisiadau UCAS a’r wybodaeth ychwanegol a gesglir fel rhan o’r broses dderbyn yn caniatáu inni gydnabod cyflawniadau ymgeiswyr a nodi eu potensial i lwyddo yng nghyd-destun eu cefndir a’u profiad.

Nod defnyddio’r wybodaeth hon yw ein helpu ni i greu darlun mwy cyflawn o gyflawniad a photensial ymgeiswyr. Mae’n caniatáu inni ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth am ymgeiswyr yn ogystal â chyrhaeddiad blaenorol, ac i farnu ceisiadau’n deg ar sail teilyngdod.


Gwybodaeth Gyd-destunol a Ddefnyddir

Ar gyfer cylch derbyniadau 2024, defnyddir y dangosyddion cyd-destunol canlynol:

  • Wedi treulio amser mewn gofal (canfyddir drwy wybodaeth ar y cais UCAS).
  • Bod â rhieni/gwarcheidwaid nad ydynt wedi mynychu’r brifysgol (canfyddir drwy wybodaeth ar y cais UCAS).
  • Yn byw mewn ardal sydd â chynnydd isel i Addysg Uwch (canfyddir o’r sgôr Cyfranogiad Ardaloedd Lleol (POLAR)). Mae’r sgôr yn amrywio o 1 i 5, lle 1 yw cyfranogiad isel a 5 yw cyfranogiad uchel, ac mae’r brifysgol yn ystyried bod yr ymgeiswyr hynny o POLAR 4 yng nghwintelau 1 a 2.
  • Mynegeion Amddifadedd Lluosog Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Presenoldeb mewn ysgol sydd â chyfranogiad is na’r cyfartaledd mewn Addysg Uwch neu un sydd â nifer uwch o fyfyrwyr o gymdogaethau cyfranogiad isel.
  • Wedi cwblhau rhaglen Ehangu Cyfranogiad achrededig ym Met Caerdydd.
  • Ymgeiswyr sy’n dod o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog: y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU, p’un ai fel milwr Rheolaidd neu Wrth Gefn, a’u teuluoedd a’u dibynyddion.​


Data Mesur Cydraddoldeb Lluosog UCAS (MEM)

Caiff Mesur Cydraddoldeb Lluosog UCAS (MEM) hefyd ei ddefnyddio sy’n ystyried:

  • Rhyw
  • Grŵp ethnig
  • Lle mae pobl yn byw (gan ddefnyddio’r dosbarthiad POLAR)
  • Sector ysgolion addysg uwchradd (gwladol neu breifat)
  • Cefndir incwm (fel y’i mesurir p’un a oedd y person yn derbyn prydau ysgol am ddim (FSM), budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd tra yn yr ysgol


Gwybodaeth Ychwanegol

Nid yw’r holl wybodaeth mewn perthynas â chi a’ch profiadau bywyd yn cael eu casglu ar y cais UCAS. Fodd bynnag, mae Met Caerdydd yn cydnabod y gall gwybodaeth arall ein helpu i nodi eich potensial i lwyddo os nad ydych wedi cael yr un cyfleoedd ag ymgeiswyr eraill.

Os nad ydych yn gallu bodloni’r gofynion mynediad a gyhoeddwyd ar ein gwefan a bod gennych amgylchiadau personol eraill sydd wedi cael effaith negyddol ar eich astudiaethau ôl-16 e.e., Anabledd, myfyriwr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni, yn ffoadur neu’n geisiwr lloches. Rhowch wybod i ni am yr amgylchiadau hyn drwy lenwi ein ffurflen gais derbyniadau cyd-destunol.


Sut Mae’n Gweithio?

Defnyddir y wybodaeth a roddwch fel rhan o’ch cais UCAS, felly fel arfer, nid oes rhaid ichi wneud unrhyw beth. Mae’n bwysig eich bod chi’n nodi ar eich cais os oes gennych brofiad o fod mewn gofal ac os nad yw aelodau eich teulu wedi cymryd rhan mewn Addysg Uwch.

Os cewch eich nodi fel rhywun sy’n bodloni’r meini prawf penodedig a chynigir lle ichi ar ôl cyfweliad, byddwch yn derbyn cynnig amodol wedi’i addasu. Bydd hwn fel arfer yn un radd (neu’r pwyntiau cyfatebol) o dan y gofynion mynediad safonol cyhoeddedig. Bydd angen bodloni amodau penodol y cwrs o hyd, e.e. os yw’r cwrs yn gofyn am leiafswm gradd mewn pwnc penodol. Fel arall, bydd gwybodaeth yn cael ei hystyried unwaith y bydd y canlyniadau yn cael eu derbyn, gan arwain at gadarnhau eich lle gyda llai na’r hyn a hysbysebwyd yn y gofynion mynediad a gyhoeddwyd.

Hefyd, gellir cynnig rhaglen astudio arall, neu flwyddyn sylfaen, os na ellir cynnig lle ar ddewis gwreiddiol yr ymgeisydd.

Dim ond data a ddarparwyd ar adeg y cais y gall y Brifysgol ei ddefnyddio. Os na ddarperir unrhyw ddata, ni weithredir y polisi derbyn cyd-destunol.


Adolygu a Monitro

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ehangu mynediad a darparu cyfleoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Fodd bynnag, nid yw derbyn myfyrwyr nad oes ganddynt y potensial llawn i lwyddo o fudd i’r Brifysgol na’r ymgeisydd. Felly, byddwn yn monitro myfyrwyr a gawsant eu derbyn ar y sail hon ac yn monitro effaith gweithredu’r polisi. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod ein bod yn dibynnu ar ddata sydd ar gael yn rhwydd i wneud penderfyniadau derbyn cyd-destunol a byddwn yn gwerthuso dibynadwyedd y data hwn yn rheolaidd.


Cefnogaeth i Ymgeiswyr

Bydd gan ymgeiswyr a dderbynnir ar sail penderfyniad cadarnhau cyd-destunol fynediad at yr un gwasanaethau cymorth â phob myfyriwr arall. Gall ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni’r GIG y mae eu cyfeiriad parhaol yn un o’r 10% o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru, fel y’u diffinnir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC), gael cymorth astudio ychwanegol. Cyfeiriwch at Fwrsariaeth Cymorth Astudio’r GIG.


Cwestiynau Cyffredin

Sut mae eich hysbysu am yr amgylchiadau sydd wedi’u rhestru yn y Polisi Derbyniadau Cyd-destunol?

Bydd eich ffurflen gais UCAS yn rhoi manylion i ni am y eich amgylchiadau. Fodd bynnag, os oes gennych wybodaeth bersonol ychwanegol, gan gynnwys amgylchiadau arbennig, rydym yn eich annog i lenwi’r ffurflen gais ganlynol.

Sut mae darganfod a ydw i’n byw mewn ardal cyfranogiad isel?

Gwiriwch y Gwiriwr Meini Prawf canlynol, sy’n gofyn i chi roi eich cod post.

Ni wnes i gwblhau’r holl feysydd yn y ffurflen UCAS. Sut ydw i’n gadael i chi wybod?

Os na wnaethoch chi lenwi’r wybodaeth berthnasol a nodir uchod fel rhan o’ch cais UCAS, bydd gennych gyfle arall i ddarparu’r wybodaeth hon trwy ein ffurflen gais.

Mae fy amgylchiadau wedi newid ers i mi gwblhau’r cais UCAS. Beth alla i wneud nawr?

Os yw eich amgylchiadau wedi newid ers i chi wneud cais, gallwch ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol trwy ein ffurflen gais.

Oes angen i mi ddarparu rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych wybodaeth bersonol arall neu amgylchiadau arbennig sydd wedi effeithio ar eich cyflawniad o’ch cymwysterau, llenwch y ffurflen gais ganlynol i’n hysbysu o unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Pam fy mod i wedi cael cynnig gwahanol i’m cyd-ddisgybl?

Mae pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal, gan ystyried yr holl wybodaeth a ddarperir felly gall cynigion fod yn wahanol yn dibynnu ar amgylchiadau personol. Os hoffech drafod eich cynnig, cysylltwch â ni ar askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

A yw’r holl gyrsiau wedi’u cynnwys fel rhan o’r Polisi Derbyniadau Cyd-destunol?

Ydyn, mae pob cwrs wedi’i gynnwys fel rhan o’r Polisi Derbyniadau Cyd-destunol.

Ydw i’n gymwys i gael cynnig cyd-destunol os ydw i’n fyfyriwr rhyngwladol ac wedi gwneud cais drwy UCAS?

Mae’r Polisi Derbyniadau Cyd-destunol ond yn berthnasol i ymgeiswyr sydd â statws ffioedd Cartref.