Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)

Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Cwrs israddedig tair blynedd ydy'r BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (QTS), cwrs sy'n arwain at ddyfarniad gradd anrhydedd a statws athro cymwysedig. Gellir astudio'r radd hon drwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg.​​

Nod y cwrs ydy paratoi darpar athrawon ar gyfer bod yn ymarferwyr medrus, hyderus, adfyfyriol gritigol a blaengar sydd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.

Bydd graddedigion yn datblygu'r gwerthoedd a'r ymagweddau a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn ac yn barod i ddelio â galwadau'r ystafell ddosbarth.

Yn anffodus, ni allwn ystyried ceisiadau gohiriedig ar gyfer y cwrs hwn.

Mae dau lwybr astudio ar gael:
BA (Hons) Primary Education with Qualified Teacher Status​
BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig​

Cyrsiau cysylltiedig:
BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd
BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol (gyda Statws Blynyddoedd Cynnar Proffesiynol)

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Nodweddion Arbennig y Radd

  • Profiad prifysgol ac ysgol sy'n hyfforddi darpar athrawon i addysgu Cwricwlwm Cymru ar draws yr ystod oed 3-11
  • Ymarfer clinigol yn seiliedig ar ymchwil lle bydd cyfleoedd strwythuredig yn galluogi
  • Hinsawdd dysgu cefnogol a chydweithrediadol
  • Dyddiau hyfforddi mewn ysgol dan arweiniad ysgolion a nodwyd eu bod yn ddarparwyr blaengar o addysg a datblygiad proffesiynol
  • Cyfle i ymgymryd â Chymorth Achrededig Agored Cymru yn hyfforddiant Lefel 2 Ysgol y Goedwig
  • Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob darpar athro yn seiliedig ar eu profiad a’u hanghenion personol

Partneriaeth Caerdydd ar Gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu o fewn Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, darparwyr achrededig Cyngor Gweithlu Addysg o AGA yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), a Chyngor Dinas Caerdydd.

Gyda'i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer SAC drwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy'n drylwyr yn ymarferol ac yn ddeallusol heriol.

Darganfod mwy am Bartneriaeth Caerdydd.

Datblygu'r Gymraeg

Neilltuir 36 awr o addysgu datblygu'r Gymraeg yn uniongyrchol ar gyfer pob darpar athro.

Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn derbyn sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn mynd i'r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg a chaiff darpar athrawon hyfforddiant ar ddulliau o ddatblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a dealltwriaeth o gefndi-roedd ieithyddol-gymdeithasol y dysgwyr.

Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg sy'n dod i'r amlwg yn dilyn cynllun iaith cydnabyddedig: 'Cynllun Colegau Cymru'. Mae'r cwrs hwn yn delio ag anghenion darpar athrawon sy'n bwriadu addysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Mae'r cwrs yn sicrhau, ar ôl ei gwblhau, bod darpar athrawon wedi cael cyflwyniad cadarn i'r Gymraeg ac wedi datblygu lefel sylfaenol o Lafaredd. Addysgir darpar athrawon mewn grwpiau bach wedi'u ffrydio yn ôl profiad a chymhwyster blaenorol.

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae modd astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r manylion fel a ganlyn:

  • Gallwch ymgymryd ag o leiaf traean o'ch gradd drwy gyfrwng y Gymraeg (yn cyfateb i leiafswm o 40 credyd am bob blwyddyn academaidd)
  • Gellir cyflwyno pob aseiniad a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gall holl leoliadau ysgol fod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Neilltuir tiwtor personol Cymraeg ei h/iaith ar eich cyfer

Am ragor o wybodaeth am opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â Bethan Rowlands browlands2@cardiffmet.ac.uk

Cynnwys y Cwrs

Mae gradd BA (Anrh) gyda SAC yn fodiwlaidd o ran strwythur, gyda modiwlau yn amrywio o 20 i 40 o gredydau. Llunnir modiwlau sydd werth mwy nag 20 credyd fel bod sylw dyladwy yn cael ei dalu i gydberthynas ac ystod y meysydd cwricwlwm o fewn Cwricwlwm diwygiedig Cymru. Ein nod ydy gallu cynnig y modiwlau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, os ydyn nhw ar gael.

Treulir cyfanswm o 120 o ddiwrnodau mewn ysgol gydag o leiaf un lleoliad ysgol mewn Ysgol/Cynghrair Partner Arweiniol (LPS/A). Mae Ymarfer Clinigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.


Blwyddyn Un:

Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) (30 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn ystyried y gwahanol ddiffiniadau a safbwyntiau damcaniaethol o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol a hefyd ystyried pa mor effeithiol ydy gwahanol ddulliau o fynd ati i ddatblygu'r sgiliau hyn o fewn Cwricwlwm newydd Cymru.

Dyfodol Llwyddiannus (I) (40 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn ystyried gwybodaeth cynnwys pwnc perthnasol a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg; iechyd a llesiant; a'r celfyddydau mynegiannol, celf, cerddoriaeth a dawns yn benodol. Bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r modd y mae plant yn datblygu a dysgu a sut i ysgogi, cymell a herio pob dysgwr yn rhan annatod o'r modiwl hwn.

Ystyried Chwarae a Dysgu Cynnar (20 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn ystyried materion critigol sy’n gysylltiedig â chwarae, a gwerth a phwysigrwydd chwarae i ddysg plant ac i’w datblygiad cyfannol. Caiff darpar athrawon y cyfle i gwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Cynorthwyo mewn Ysgol Coedwig fel cymhwyster opsiynol ychwanegol (yn amodol ar (ffi) cofrestriad ac asesiad darpar athro Agored Cymru) fel rhan o’r modiwl hwn.

Rhagarweiniad i: Datblygiad Plant ac Ymarfer Clinigol (30 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn ystyried datblygiad plentyn yn cynnwys datblygiad gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a ieithyddol. Mae'n cynnwys 15 diwrnod o ymarfer clinigol mewn ysgolion lle ceir cyfleoedd i gynorthwyo ac ymestyn datblygiad cyfannol plentyn a hynny'n seiliedig ar ganfyddiadau arsylwi.

Blwyddyn Dau:

Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) (30 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi effeithioldeb amrediad o ddulliau a ddefnyddir i ddysgu ac addysgu 'Meysydd Dysgu a Phrofiad' o fewn Cwricwlwm Cymru a gwneud hynny yn gritigol. Caiff darpar athrawon gyfle i wneud cysylltiadau perthnasol, ystyrlon o fewn ac ar draws meysydd y cwricwlwm.

Dyfodol Llwyddiannus (II) (40 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn cadarnhau ac ymestyn gwybodaeth am bwnc a chynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg. Bydd hefyd yn ystyried gwybodaeth berthnasol am bwnc a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu'r dyniaethau. Felly, bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o asesu, gwahaniaethu a diwallu anghenion disgyblion yn rhan annatod o'r modiwl hwn.

Ymchwilio i Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd (20 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn paratoi darpar athrawon ar gyfer cwblhau astudiaeth annibynnol ym mlwyddyn tri. Bydd y datblygu critigoldeb mewn darllen ac ymchwil gyda'r ffocws ar ddefnyddio ymchwil i ddylanwadu ar unrhyw ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ymarfer Clinigol 1 (30 credyd)

Mae'r modiwl hwn yn digwydd yn bennaf mewn ysgolion lle caiff darpar athrawon y cyfle i bontio'r gagendor rhwng y theori a'r ymarferol ac i ddefnyddio'u sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd darpar athrawon yn arddangos eu hegin sgiliau a'u hyder i arsylwi, addysgu ac asesu o fewn o leiaf un cyfnod oed a gwneud cynnydd sylweddol tuag at gwrdd â safonau proffesiynol ar gyfer SAC.

Blwyddyn Tri:

Dulliau Byd-Eang a Blaengar o Fynd ati i Ystyried Addysg (20 credyd)

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cipolwg ar systemau, damcaniaethau a chysyniadau addysgol yn lleol ac ar draws y byd. Bydd yn ystyried gwahanol athroniaethau a diwylliannau o fewn systemau addysgol lleol a rhyngwladol, lleoliadau ac amgylcheddau addysgu.

Ymarfer Proffesiynol a Llesiant (30 credyd)

Gyda'r ffocws ar ddatblygu llesiant ar gyfer darpar yrfa ym maes addysgu, mae'r modiwl hwn yn ystyried y galwadau proffesiynol cyfredol sydd ar ymarferwyr ysgolion cynradd heddiw ac yn ystyried sut gallai athrawon beri newid ac ymateb i'r sefyllfaoedd a'r amgylcheddau y maen nhw'n gweithredu ynddyn nhw.

Prosiect Annibynnol (40 credyd)

Bydd y Modiwl hwn yn galluogi darpar athrawon i gwblhau prosiect ymchwil annibynnol neu brosiect yn seiliedig ar ymchwiliad i wella a mireinio eu hymarfer clinigol. Bydd yr ymchwil yn digwydd ochr yn ochr ac o fewn ymarfer clinigol darpar athrawon fel y gall effeithio a dylanwadu ar ddysgu ac addysgu. Seilir ffocws yr ymchwil ar ddiwallu anghenion dysgwr/grŵp o ddysgwyr gydag anghenion ychwanegol neu â Saesneg fel iaith ychwanegol.

Ymarfer Clinigol 2 (30 credyd)

Mae'r modiwl hwn yn digwydd yn bennaf mewn ysgolion lle caiff darpar athrawon y cyfle i bontio'r gagendor rhwng y theori a'r ymarferol ac i ddefnyddio'u sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd darpar athrawon yn cael eu rhoi mewn dosbarth sy'n wahanol o ran oed i ddosbarth yn Ymarfer Clinigol 1. Erbyn y diwedd, bydd disgwyl i ddarpar athrawon allu cyflawni lefel berthnasol i ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig(SAC) neu ragori ar y lefel honno.

Dysgu ac Addysgu

​Lluniwyd addysgu yn y brifysgol a'r addysgu yn seiliedig yn yr ysgol a chyfleoedd dysgu i ategu ei gilydd er mwyn hybu cynnydd myfyrwyr i'r eithaf. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio a hyrwyddo sgiliau datblygiad critigol darpar athrawon, a chydlynu wrth integreiddio ymchwil ac ymchwiliad, ymarfer a theori. Yn y Brifysgol ac yn yr ysgolion, fel ei gilydd, bydd darpar athrawon fel arfer yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid a dulliau hunan-gyfeiriedig o ddysgu, gan ddatblygu annibyniaeth a'r gallu i adfyfyrio wrth iddyn nhw symud drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd cyson drwy gydol y cwrs i ddarpar athrawon adolygu eu cynnydd personol gyda'u tiwtoriaid ac ysgwyddo cyfrifoldeb ar gyfer cynllunio a rhoi eu dysg eu hunain ar waith.

Gallai'r dulliau addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau yn y brifysgol, ar y campws ac ar-lein, gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, a'r cyfan yn cael cy-morth rhith amgylchedd dysgu Met Caerdydd. Mewn nifer o'r modiwlau, y strategae-thau dysgu ac addysgu a ddefnyddir fydd y rhai â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o'r effaith ar ddysgu'r darpar athro a chyflawniad disgyblion e.e. meicroaddysgu, ymarfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunan-reolaeth, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrth-dro.

Dysgu ac addysgu yn seiliedig ar ysgol
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae Ymarfer Clinigol yn cael ei gynnwys o fewn modiwl ac-ademaidd ac ni fydd disgwyl i ddarpar athrawon i addysgu’n annibynnol yn ystod y cyf-nod hwn. Diben hyn ydy sicrhau model cynyddol o ddatblygiad personol a phroffesiyn-ol.

Yn ystod blwyddyn dau a thri, caiff darpar athrawon gymorth dulliau addysgu mewn tîm yn ogystal ag addysgu'n annibynnol a bydd disgwyl iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu dosbarth neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod par-haus neu sylweddol. Bydd o leiaf un lleoliad ysgol mewn Ysgol/Cynghrair Partner Arweiniol (LPS/A). Bydd Ymarfer Clinigol yn cynnwys amser cyfeiriedig ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad; addysgu annibynnol ac addysgu mewn tîm; a chynllunio, paratoi ac asesu.

Hefyd, bydd darpar athrawon yn cael pymtheg o ddyddiau hyfforddi dan ar-weiniad Ysgolion Arweiniol Partneriaeth/Cynghreiriau. Yn ystod y dyddiau hyfforddi hyn, defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys archwilio dogfennaeth ysgol, rowndiau dysgu, deialog adfyfyriol wedi'i chymell gan fideo, teithi-au cerdded addysgol; sgyrsiau gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau'r ysgol.

Er y gwneir pob ymdrech i ystyried amgylchiadau personol myfyriwr, byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn ofynnol i athrawon dan hyfforddiant deithio hyd at uchafswm o 90 munud o'u man preswylio i leoliad ysgol.

Sylwch: Mae hon yn radd Addysg Gychwynnol i Athrawon broffesiynol ac ni ddylai ymgeiswyr BA gyda SAC llwyddiannus drefnu gwyliau yn ystod y rhaglen. Ar gyfer pob un o’r tair lefel astudio (Blynyddoedd 1-3), mae’r rhaglen fel arfer yn dechrau yn ystod trydedd wythnos mis Medi ac yn dod i ben tua diwedd mis Mehefin.

Asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys amrediad o ddulliau asesu gan gynnwys astudiaethau achos, portffolios, traethodau traddodiadol, posteri, pecynnau gwybodaeth a blogiau sy'n gal-luogi darpar athrawon i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i broffesiwn athro. Mae dyddiadau cyflwyno pob aseiniad wedi cael eu trefnu ar wahân drwy gydol y flwyddyn er mwyn reoli gwaith darpar athrawon a, lle bo'n briodol, i ganiatáu ad-borth ffurfiannol.

Asesir yr holl ddarpar athrawon yn erbyn Safonau SAC a rhaid iddyn nhw basio pob Safon i gyflawni Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod Ymarfer Clinigol (lleoliad ysgol) bydd darpar athrawon yn derbyn adborth parhaus, ar lafar ac yn ffurfiannol ysgrif-enedig, yn ogystal ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o'r cwrs, bydd darpar athrawon yn casglu tystiolaeth sy'n arddangos eu cyrhaeddiad a'u cyflawniad a bydd hyn ar gael ar gyfer Tiwtoriaid Personol / Tiwtoriaid Prifysgol fel y gallan nhw fonitro cynnydd yn gyson.

O gofio lle mor amlwg a chanolog sydd i lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yng nghwricwlwm Cymru, bydd pob darpar athro yn cwblhau archwiliadau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol drwy gydol y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn o help i fyfyrwyr nodi eu cryfderau a meysydd i'w datblygu ac i geisio astudio i len-wi'r bylchau yn eu gwybodaeth a'u sgiliau. Bydd darpar athrawon a fyddai'n elwa o gymorth ychwanegol yn derbyn sesiynau cymorth ychwanegol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

O gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, argymhellir i'r Cyngor Gweithlu Addysg bod y darpar athro wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) a hynny yn cynnig y cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd ym maes addysg gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ar draws Cymru, y DU a thramor.

Lluniwyd y cwrs i gynnig ystod o eang o brofiadau a fydd yn rhoi wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'n graddedigion i'w paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Mae Ysgolion Partneriaeth Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi cael eu henwi fel darparwyr blaengar addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly, mae'r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac o fewn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai'r dilyniant o fod yn ddarpar athro i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Darganfod Addysgu Cymru.

Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i'n dechrau ar fy ngwaith addysgu?
Ceir y wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion:

Astudiaeth Bellach
Mae rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC yn sylfaen ragorol ar gyfer astudiaeth bellach naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser ar gyfer cymhwyster MA/PgD/PgC Gradd Meistr mewn Addysg (gyda llwybrau) ym Met Caerdydd.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Bydd gofyn i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Yna asesir yr holl geisiadau yn erbyn meini prawf mynediad y rhaglen berthnasol ac yna eu gwahodd i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon. Gwnewch gais gan ddefnyddio'r codau UCAS canlynol:​​

Astudio trwy gyfrwng y Saesneg

Primary Education with Qualified Teacher Status​: X120

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Addysg Gynradd gydag Athro Cymwysedig: X121

Dylai pob ymgeisydd:

  • Feddu'r ddawn, y gallu a'r gwytnwch i gwrdd â deilliannau gofynnol SAC erbyn diwedd eu rhaglen AGA;
  • Meddu ar y priodweddau personol a deallus i fod yn ymarferwyr rhagorol;
  • Darllen yn effeithiol ac yn gallu cyfathrebu'n glir a chywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg a /neu yn Gymraeg;
  • Heb fod wedi cyflawni troseddau a allai eu rhwystro rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed neu fel ymarferydd addysgol; a heb fod wedi cael eu gwahardd rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (mae gofyn i ddarpar athrawon drefnu am Ddatgeliad Pellach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS));
  • Arddangos yn ystod cyfweliad bod ganddyn nhw sgiliau gweithredol personol perth-nasol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n berthnasol yng nghyd-destun dysgu ac addysgu proffesiynol;
  • Arddangos eu haddasrwydd i ddatblygu'n athrawon;
  • Cwrdd â gofynion Safonau Iechyd Addysg Llywodraeth Cymru (2004)*, yn cadarnhau eu hiechyd a'u gallu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro.

Yn ogystal â'r gofynion uchod, dylai fod gan ymgeiswyr broffil academaidd cadarn, gan gynnwys:

Pump TGAU g​an gynnwys:

  • TGAU Gradd C/Gradd 4 neu uwch mewn Saesneg Iaith NEU Cymraeg Iaith (iaith gyntaf).
  • TGAU Mathemateg Gradd C/Gradd 4. Ar gyfer ymgeisiwyr o Gymru, byddwn yn derbyn TGAU Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd
  • TGAU Gwyddoniaeth (neu safon gyfwerth) ar Radd C/Gradd 4

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg feddu ar TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Mamiaith).​

Dylai fod gan ymgeiswyr hefyd un o’r canlynol (neu gyfwerth):

  • 115 pwynt i’w cynnwys BCC; Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Uwch Sgiliau a ystyrir yn drydydd pwnc
  • RQF BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol /Diploma Estynedig Technegol DMM
  • Teilyngdod ar Lefel T gyda C yn y Gydran Graidd
  • 115 o bwyntiau o 'Irish Leavers Certificate' ar lefel 'Highers' i gynnwys 3 x H2 gradd. Dim ond gydag isafswm gradd H4 caiff pynciau lefel 'Higher' eu hystyried
  • 115 o bwyntiau o ddau 'Scottish Advanced Highers' i gynnwys graddau CDD
  • 115 o bwyntiau o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch
  • Ystyrir Diploma NCFE CACHE os yw'n gyfwerth ag o leiaf 2 lefel A. Bydd y cynnig yn ddibynnol ar y wir Ddiploma CACHE a astudiwyd

Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.

Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad ydy'ch cymhwyster wedi'i restru, naill ai cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau neu fynd i UCAS Course Search i gael y gofynion mynediad.​ Gellir cael gwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE drwy glicio yma.

Os ydych yn fyfyriwr hŷn ac yn meddu ar gymwysterau neu brofiad amgen yr hoffech i ni eu hystyried, cysylltwch ag aelod o'r staff.

Yn anffodus, ni allwn ystyried ceisiadau gohiriedig ar gyfer y cwrs hwn.

Gofynion Mynediad Ychwanegol

Cyfwerth â TGAU:

Mae Met Caerdydd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer y gofynion TGAU o gwrs achrededig trwy sefydliad ag enw da. O Brifysgol Aberystwyth, rydyn ni hefyd yn derbyn y modiwl cyfwerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r modiwl cyfwerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).​​

Cliciwch yma i weld gofynion Met Caerdydd, neu i ddarllen y ddogfen hon yn Gymraeg, cliciwch yma.

Profiad Gwaith:

Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn ysgol brif ffrwd ar draws yr ystod oed cynradd ond rydyn ni'n deall na fydd hyn efallai yn bosibl oherwydd y sefyllfa gyfredol sydd ohoni. Gofynnwn i ymgeiswyr gyflwyno unrhyw dystiolaeth sydd ganddyn nhw drwy eu cais UCAS a'u datganiad personol.

Datganiad Personol:

Datganiad personol cryf yn nodi potensial yr ymgeisydd i ymgymryd â Rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC. Dylai'r datganiad ddangos ehangder gwybodaeth a phrofiad bersonol a gafwyd ym maes addysg gynradd hyd yn hyn a photensial hyn i wneud yr ymgeisydd yn athro cynradd/athrawes gynradd effeithiol. Yn y datganiad personol, dylid hefyd gyfeirio at brofiadau personol/diddordebau allgyrsiol a allai gyfrannu at gyfoethogi at ddysg plant. Mae Saesneg/Cymraeg ysgrifenedig uchel ei safon yn hanfodol.

Geirda Academaidd:

Dylai'r geirda ddod o leoliad addysg mwyaf diweddar yr ymgeisydd, gan y rhai sydd orau i gynnig sylwadau ar alluoedd academaidd a galwedigaethol yr ymgeisydd. Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny y mae eu geirda dros bum mlynedd oed, mae angen geirda gan weithiwr proffesiynol byd addysg mwy diweddar megis prifathro ysgol. Mae'n bwysig bod y canolwr hwn yn gallu cynnig barn wrthrychol a deallus ar sail gwybodaeth arwyddocaol am yr ymgeisydd yng nghyd-destun addysgol. Cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau os bydd gennych unrhyw ymholiadau am eich geirda.

Cofnodion Troseddol/Gwiriadau'r Gwasanaeth Gwahardd a Datgelu:

Mae mynediad hefyd yn amodol ar wiriad troseddol boddhaol. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr heb Saesneg fel mamiaith gynnig tystiolaeth o ruglder i isafswm sgôr IELTS cyffredinol o 7.5 heb unrhyw is-sgôr yn is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth). Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am gymwysterau Saesneg, ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan hon.

Myfyrwyr Hŷn

Ystyrir unrhywun sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol neu i goleg ar ôl gadael yr ysgol yn fyfyriwr hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Gwybodaeth ar Gyfer Mynychu Cyfweliad

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfweliadau ar-lein drwy MS Teams. Hysbysir chi am ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Byddwch wedyn yn derbyn gwahoddiad MS Teams gydag amser penodol eich cyfweliad, oddi wrth tîm y rhaglen. Bydd cyfweliadau yn para tua 30 munud.

Mae gofyn i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol a hysbysu'r Adran Dderbyniadau cyn gynted â phosibl a fydden nhw'n dymuno cynnal eu cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, e-bost: ​askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu trydarwch @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau penodol am gwrs, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Rhaglen, Jordan Allers:
Ebost: jallers@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau penodol am gwrs Cymraeg, cysylltwch â Bethan Rowlands:
Ebost: browlands2@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​​​​​​Côd UCAS:
Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig: X121
Primary Education with Qualified Teacher Status: X120​

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs:
Cwrs tair blynedd llawn amser

Accreditation
Accreditation
Digwyddiadau Cynradd
Athrawon Cyfrwng Cymraeg Yfory

Ydych chi’n chwilio am yrfa fel athro uwchradd neu cynradd? Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dewch draw i’n noson recriwtio i ddysgu mwy am yrfa fel athro. Cyfle i chi glywed gan athrawon a darlithwyr am y proffesiwn addysg. Bydd panel cwestiwn ac ateb, a chyfle i holi myfyrwyr, athrawon, a thiwtoriaid Met Caerdydd.

19 Mawrth 2024, 6yh-7.30yh: Mwy o wybodaeth
Archebwch eich lle

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Fy angerdd cynyddol am addysgu diolch i fy mhrofiadau Addysg Gynradd anhygoel gyda SAC ym Met Caerdydd

Mae Ella yn blogio am ei hastudiaethau ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol fel athrawes gynradd.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Bethan Williams

Dewch i gwrdd â Bethan Willimas, Darlithydd Addysg Gynradd gyda SAC ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Mwy am y Cwrs
Student Blog
Astudio Addysg Gynradd gyda SAC drwy gyfrwng y Gymraeg: Fy mhrofiad mor belled ar y cwrs

Mae Taome yn dweud wrthym am ei phrofiadau addysgu Cynradd hyd yn hyn – o ddarlithoedd a seminarau, astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i brofiadau ysgol.
Darllen blog

Student Blog
Astudio Addysg Gynradd gyda SAC yn ddwyieithog: Fy mhrofiad mor belled ar y cwrs

Mae Mathew, myfyriwr ar y cwrs Addysg Gynradd gyda SAC yn blogio am pam y penderfynodd astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg a’i brofiad o fod yn llysgennad myfyrwyr i’r brifysgol. Darllen mwy

Astudio Addysg Gynradd gyda SAC ym Met Caerdydd. Mae astudio ein BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda gradd SAC yn sicrhau eich bod yn barod yn yr ystafell ddosbarth.

Astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg

Dewch i ddarganfod mwy am y cyfleoedd unigryw i astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) trwy'r Gymraeg ym Met Caerdydd.

Astudio Trwy’r Gymraeg
Blog
Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Met Caerdydd drwy gyfrwng y Gymraeg

Rydym yn darparu llawer o gyfleoedd amrywiol ac unigryw i astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynir y darlithoedd gan ein staff brwdfrydig sy’n brofiadol iawn yn eu meysydd arbenigol.
Darllen mwy

Cyfleusterau
Tŷ Froebel

Darganfyddwch ein cyfleusterau Tŷ Froebel newydd ar Gampws Cyncoed, lle mae ein hathrawon dan hyfforddiant, myfyrwyr blynyddoedd cynnar ac addysg gynradd yn dysgu am egwyddorion Froebel ac yn cael profiad ymarferol o chwarae bloc, clai, papur, gwaith coed, gwnïo a garddio.