Hafan>Newyddion>Gwersi Cymraeg am ddim ym Met Caerdydd yn anelu i roi hwb i’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg

Gwersi Cymraeg am ddim ym Met Caerdydd yn anelu i roi hwb i’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg

​​Newyddion | 9 Awst 2023

​​​Fel rhan o fenter newydd a gyhoeddwyd heddiw, fe fydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi’r cyfle i bob myfyriwr addysg gael gwersi Cymraeg am ddim i fynd i’r afael â’r prinder athrawon cyfrwng Cymraeg.

O fis Hydref 2023, bydd yr holl fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau addysg yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn cael cynnig cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen ‘Cymraeg i Addysgwyr’, sef rhaglen i ddechreuwyr pur, i wella eu sgiliau Cymraeg, neu fireinio’u sgiliau at ddibenion gweithio yn y sector addysg.

Bydd myfyrwyr y Brifysgol yn cael cynnig dosbarthiadau iaith wythnosol trwy gydol eu hastudiaethau, boed hynny’n rhaglen israddedig tair blynedd neu’n gymhwyster ôl-raddedig blwyddyn/dwy flynedd o hyd. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Statws Athro Cymwysedig fel TAR a BA Addysg Gynradd, sydd eisoes yn derbyn hyfforddiant Cymraeg dwys, yn cael cynnig cymorth ychwanegol i ymarfer eu Cymraeg gyda’r nod o gynyddu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth. Yn y cyfamser, bydd siaradwyr Cymraeg yn cael eu cefnogi gyda chyrsiau paratoadol cyn-sesiynol a gweithdai rhuglder rheolaidd yn ystod y flwyddyn academaidd.

Darperir yr addysgu gan diwtoriaid Cymraeg o Uned Gymraeg Met Caerdydd ar sail cyntaf i’r felin, fydd yn gweithio’n agos â staff addysgu’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol.

Mae’r rhaglen Cymraeg i Addysgwyr ymhlith nifer o fentrau a lansiwyd yn ddiweddar ledled Cymru i fynd i’r afael â’r prinder athrawon cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Daniel Tiplady, Pennaeth yr Uned Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Fel darparwr mwyaf hyfforddiant athrawon Cymru, mae Met Caerdydd yn hynod frwdfrydig i fynd i’r afael â’r prinder athrawon Cymraeg eu hiaith mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y wlad. Nod y cynllun Cymraeg i Addysgwyr yw lleihau’r rhwystrau i ddysgu Cymraeg drwy gyflwyno gwersi ar y campws gyda thiwtoriaid Met Caerdydd a rhoi hwb i hyder y rhai sydd eisoes yn gallu siarad Cymraeg.

“Rydym yn obeithiol y bydd ein myfyrwyr addysg yn manteisio ar y cyfle hwn i ddatblygu eu hunain yn broffesiynol wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfa yn y dyfodol mewn diwydiant sy’n rhoi boddhad gwirioneddol.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i gyflawni ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, felly rwyf am ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gael mynediad i gyrsiau Cymraeg am ddim.

“Rwy’n falch o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ar y fenter yma, sy’n gam arall tuag at roi cyfle i bawb yng Nghymru siarad Cymraeg.”

​