Cyfleusterau Celf, TGCh, Dylunio a Thechnoleg – Taith Rithwir
Defnyddir ein cyfleusterau eang ar gyfer addysgu celf, cyfrifiadura a dylunio ar amrywiaeth o gyrsiau TAR a BA Addysg. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys Stiwdio Celf a Dylunio, Ystafell Odyn, Gofod Tecstilau, Stiwdio Cyfrifiadura a TGCh, gweithdai DaTh a Labordy Argraffu 3D, a chefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol allweddol.