Hafan>Newyddion>Met Caerdydd ar restr fer gwobrau addysg o fri

Met Caerdydd ar restr fer gwobrau addysg o fri

​Newyddion | 7 Medi 20​23

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer pedair Gwobr Times Higher Education (THE), sydd yn cydnabod gwaith nodedig ar draws arloesi yn y diwydiant bwyd, STEM, ymchwil, a chydraddoldeb ac amrywiaeth.



Dyma pedwar enwebiad Met Caerdydd:

  • Cyfraniad Eithriadol at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL)
  • Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn – Prosiect Helix, Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE (FIC)
  • Athro Mwyaf Arloesol y Flwyddyn – Dr Esyin Chew, Ysgol Dechnolegau Caerdydd
  • Goruchwyliwr Ymchwil Eithriadol y Flwyddyn – Dr Jenny Mercer, Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Met Caerdydd sy’n hawlio nifer mwyaf o enwebiadau ymhlith prifysgolion y DU a Chymru.

Mae Gwobrau Times Higher Education yn dathlu llwyddiannau prifysgolion ledled y DU, ac yn anrhydeddu ymchwil sy’n arwain y byd ac unigolion rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth ym myd addysg uwch.

Wrth siarad am yr enwebiadau, dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: “Mae ein lle ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau THE yn gydnabyddiaeth wych o’r gwaith eithriadol sy’n digwydd ar draws y Brifysgol. Rydym yn edrych ymlaen at y seremoni ym mis Rhagfyr ac yn gobeithio y bydd gwaith caled ein cydweithwyr yn cael ei anrhydeddu â buddugoliaeth.”

Yn 2021, cafodd Met Caerdydd ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn 2021 y DU ac Iwerddon, gwobr bwysicaf y THE, sy’n cydnabod twf, arallgyfeirio a gwelliant eithriadol y Brifysgol fel sefydliad blaengar sy’n cael ei yrru gan werthoedd, gyda phrofiad myfyrwyr a diwylliant staff rhagorol ac sy’n cynhyrchu ymchwil ac arloesi effeithiol​.​