Hafan>Newyddion>Mam sy’n gweithio yn ennill cymhwyster addysgu proffesiynol wrth frwydro yn erbyn clefyd lwpws

Mam sy’n gweithio yn ennill cymhwyster addysgu proffesiynol wrth frwydro yn erbyn clefyd lwpws

​​Bydd myfyriwr aeddfed o Gaerdydd yn ymuno â miloedd ar draws y wlad sy’n graddio yr wythnos hon er gwaethaf ei brwydr barhaus gyda chlefyd lwpws, i barhau â’i gyrfa ym myd addysg.

 Sarah Brind
Sarah Brind

Roedd y daith tuag at astudio’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg – cwrs Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Sarah Brind, 46 o Radur, yn syndod yn dilyn ei diagnosis lwpws 20 mlynedd yn ôl, pan oedd hi’n gweithio fel rheolwr meithrinfa ar y pryd.

Dywedodd Carol: “Rwyf wedi gweithio ym maes gofal plant ers dros ugain mlynedd mewn amrywiaeth o rolau, fel rheolwr meithrinfa, mewn ysgolion, a hefyd ar y rhaglen Dechrau’n Deg. Bydd unrhyw un sy’n gweithio yn y proffesiwn yn deall pa mor gorfforol anodd yw’r swydd, felly pan gefais fy niagnosis roedd rhaid i mi ailystyried beth fyddwn i’n ei wneud yn y tymor hir. Ar y pryd, roeddwn i’n fam sengl gyda mab ifanc ac roeddwn i’n awyddus i aros yn y diwydiant mewn rhyw ffordd.” 

Fel llawer o fyfyrwyr sy'n dewis dychwelyd i astudio yn ddiweddarach mewn bywyd, dim ond ar y cwrs 10 wythnos Paratoi i Addysgu ym Met Caerdydd y cofrestrodd Sarah i ddechrau. Fodd bynnag, gwelodd arweinydd ei chwrs ei chymhelliant a'i hannog i symud ymlaen i gymhwyster proffesiynol PCET sy'n caniatáu i fyfyrwyr addysgu mewn addysg ôl-16, gan gynnwys colegau addysg bellach ac addysg oedolion. 

Mae Sarah, sydd â dau o blant, bellach yn gweithio fel Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA), ac yn fwy diweddar mae wedi cael swydd newydd gyda Grŵp Hyfforddi Educ8. Yn y rôl hon, mae Sarah yn gyfrifol am fonitro bod aseswyr wedi adolygu gwaith myfyrwyr yn deg. Mae hi hefyd yn athrawes gyflenwi yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr – swydd a gafodd tra'n astudio yn y Brifysgol. 

Ychwanegodd Sarah: “Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd yn gweithio ym maes gofal plant. Ar ôl cael diagnosis, roedd fy swydd fel Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol yn berffaith gan ei bod wedi fy ngalluogi i aros yn y diwydiant, ond y tu ôl i’r llenni a heb y galw corfforol. Drwy barhau i weithio’n rhan-amser yn y coleg hefyd, rwy’n cael cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr a gallaf drosglwyddo’r wybodaeth rwyf wedi’i dysgu dros y blynyddoedd i’r genhedlaeth nesaf.”

Bydd Sarah yn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda Thystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET). Mae'r cwrs wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd â chymhwyster Lefel 3 yn eu pwnc arbenigol ac sy'n dymuno datblygu eu profiad yn eu maes pwnc drwy addysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol neu'r sector dysgu gydol oes a sgiliau. Mae myfyrwyr yn aml yn mynd ymlaen i addysgu mewn colegau AB, prifysgolion, academïau hyfforddi, yn ogystal ag addysg mewn carchardai a darparwyr addysg amgen.

Dywedodd Sarah ei bod wedi mwynhau ei hamser yn y brifysgol, ond mae bod yn fam sy'n gweithio ochr yn ochr ag astudio yn golygu bod angen i chi fod yn barod i jyglo a gwneud rhywfaint o aberth: "Byddwn yn bendant yn argymell astudio yn y brifysgol i unrhyw un arall sy'n meddwl am yr hyn yr hoffent ei wneud nesaf. Rydw i wedi fy synnu fy hun, ond rydw i nawr yn edrych ymlaen at gael rhywfaint o amser i mi fy hun a’r teulu eto.”

Ychwanegodd Sarah: "Er fy mod wedi penderfynu peidio â dechrau ar unrhyw gyrsiau 'mawr' ar hyn o bryd, byddaf yn defnyddio'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu o'r cwrs hwn i helpu rhai ffrindiau i agor eglwys o'r enw 'Every Nation', yng Nghaerdydd, gan redeg y Weinidogaeth Plant a chlybiau ar ôl ysgol."

Dywedodd Leanne Davies, Uwch-ddarlithydd y cwrs TAR/PCE PCET a Pharatoi i Addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Roedd Sarah yn fyfyriwr a oedd yn ansicr o'i gallu ar ddechrau ei thaith ond cofleidiodd y cwrs yn llawn ac mae wedi’i gwblhau gyda'r fath hyder - prin fy mod yn ei hadnabod ac rwy'n falch iawn. Roedd y cwrs Paratoi i Addysgu 10 wythnos yn berffaith ar gyfer magu hyder Sarah, mynd yn ôl i fyd addysg a rhoi’r pecyn addysgu sylfaenol iddi ar gyfer addysgu a hyfforddi mewn addysg ôl-16. 

"Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr sy'n cymryd rhan ar y cwrs PCET yn gweithio'n llawn amser, yn ymdopi ag ymrwymiadau teuluol a gwaith yn ogystal â'u hastudiaethau. Beth bynnag yw eu rheswm dros ddychwelyd i addysg, fel eu tiwtoriaid, yr ydym yma i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i’w galluogi i lwyddo.  Byddai unrhyw un sy'n ystyried addysgu, newid cyfeiriad gyrfa neu ddatblygu sgiliau addysgu presennol yn elwa o PCE neu TAR PCET ym Met Caerdydd."​