Skip to main content

Cynradd - TAR

Blwyddyn Mynediad

Os oes gennych chi radd ac angerdd dros ddysgu a diddordeb mewn gyrfa fel athro cynradd, dyma'r cwrs i chi! Cwrs blwyddyn sy'n arwain at statws athro cymwysedig yw'r radd TAR Addysg Cynradd.  Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus ac arloesol sy'n gallu myfyrio'n feirniadol ac sy'n ymrwymedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.

Mae’r TAR Cynradd hefyd ar gael i’w astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Noder: Mae cyrsiau AGA yng Nghymru wedi cwblhau proses achredu Cyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cyrsiau AGA TAR Cynradd a TAR Uwchradd fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.


Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Nodweddion Unigryw y Radd Hon

  • 60 credyd ar lefel Meistr y gellir eu rhoi tuag at MA mewn Addysg
  • Profiadau yn y brifysgol a'r ysgol sy’n paratoi athrawon dan hyfforddiant i addysgu'r Cwricwlwm i Gymru ar draws yr ystod oedran 3 i 11.
  • Caiff myfyrwyr eu paratoi ar gyfer cymhwyster TAR a gydnabyddir yn eang ledled Prydain a gweddill y byd.
  • Arfer clinigol sy'n seiliedig ar ymchwil, lle mae cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio damcaniaeth i herio arfer, ac arfer i herio damcaniaeth.
  • Diwylliant dysgu cefnogol a chydweithredol
  • Diwrnodau hyfforddiant dan arweiniad ysgolion sydd wedi’u nodi fel prif ddarparwyr addysg a datblygiad proffesiynol
  • ‘Diwrnod dychwelyd’ i’r brifysgol a/neu ysgolion partner arweiniol bob wythnos i gyfnerthu a chydlynu dysgu
  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu ar draws cyfnodau gyda’n rhaglen TAR Uwchradd
  • Cyfleoedd cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolion i feithrin cryfderau a datblygu sgiliau arwain a dysgu proffesiynol, arloesol a chydweithredol.
  • Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg yr holl athrawon dan hyfforddiant yn seiliedig ar eu profiadau a’u hanghenion unigol.

​Partneriaeth Caerdydd ar Gyfer Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle cyffrous i addysgu ym Mhartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, sef yr unig ddarparwr hyfforddiant TAR yn y de-ddwyrain i gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’i hysgolion cysylltiedig, gan weithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Chyngor Dinas Caerdydd. Gyda’i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig, gydag addysg broffesiynol o ansawdd sy'n hynod ymarferol ac yn ddeallusol heriol.

Gallwch ddysgu mwy am Bartneriaeth Caerdydd yma.


​Cynnwys y Cwrs

​Bydd cyfanswm o 120 diwrnod yn cael eu cyflawni yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn TAR Cynradd gydag o leiaf un lleoliad ysgol mewn ysgol/cynghrair partner arweiniol (LPS/A).

Bydd 15 o’r diwrnodau’n digwydd mewn ysgolion/cynghreiriau partner arweiniol (LPS/A) lle bydd modd i athrawon dan hyfforddiant ganolbwyntio ar agweddau allweddol o addysgeg a ddarperir gan ddarparwyr arweiniol ym maes addysg a datblygiad proffesiynol yn y sector cynradd. Bydd profiadau dysgu yn y gwaith a’r Brifysgol yn cael eu hintegreiddio’n agos, a bydd strwythur y rhaglen (diwrnod yr wythnos yn y brifysgol/LPS/A a phedwar diwrnod yr wythnos mewn arfer clinigol) yn hwyluso hyn.

Mae rhaglen TAR Cynradd yn cynnwys tri modiwl:

Arfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 1 (30 credyd ar lefel 6)

Mae’r modiwl hwn yn yr ysgol yn bennaf, ac fe’i cynhelir yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn academaidd. Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu mewn tîm ac yn annibynnol am oddeutu 45% o’r amser. Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd i arsylwi, ymchwilio ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu. Mae’r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg.

Arfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 2 (30 credyd ar lefel 6)

Mae’r modiwl hwn yn yr ysgol yn bennaf, ac fe’i cynhelir yn ystod ail hanner y flwyddyn academaidd. Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu yn annibynnol yn bennaf am oddeutu 65% o’r amser. Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd pellach i arsylwi, ymchwilio ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu. Ar gyfer y mwyafrif o athrawon dan hyfforddiant, bydd cyfle i gyflawni 15 diwrnod ar ddiwedd y modiwl, ble bydd modd iddynt ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi i feithrin eu cryfderau/meysydd i’w datblygu, sydd fel arfer yn gysylltiedig ag arloesi ac arwain.  Bydd y ffocws yn cael ei drafod gyda’u Mentoriaid a’u Tiwtoriaid Prifysgol, bydd wedi’i deilwra i’w hanghenion, a bydd yn eu cefnogi i gyflawni y tu hwnt i’r Safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC), ynghyd â chyfrannu at eu Proffil Dechrau Gyrfa. Mae’r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg.

Safbwyntiau mewn Dysgu ac Addysgu (60 credyd ar lefel 7)

Mae’r modiwl blwyddyn o hyd hwn yn cynnwys 8 prif agwedd:

  • Astudiaethau Craidd
  • Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg
  • Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
  • Astudiaethau Pwnc
  • Datblygiad iaith Gymraeg
  • Lles, gan gynnwys Datblygiad Personol a Chynllunio Ymarfer Clinigol
  • Cefnogaeth Ymchwil ac Ymholiad;

Bydd y modiwl mawr hwn yn ystyried yn benodol ystod o ddamcaniaethau, ymchwil ac adnoddau deallusol eraill, ynghyd â phrofiad uniongyrchol yr athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth am ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn cynnwys agweddau fel datblygiad dynol; y cwricwlwm a’r system addysg; anghenion dysgu ychwanegol; defnyddio data ac asesu; rheoli a threfnu ystafelloedd dosbarth; ynghyd â datblygu gwybodaeth bynciol bersonol yr athrawon dan hyfforddiant. Mae o leiaf hanner y modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â Saesneg.

Datblygiad iaith Gymraeg

Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysgu uniongyrchol i ddatblygu eu Cymraeg.

Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn mynd i’r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg, a bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu cyfarwyddo ar ddulliau sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a’u dealltwriaeth o gefndiroedd ieithyddol-gymdeithasol dysgwyr.

Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr newydd yn dilyn cynllun iaith cydnabyddedig: Cynllun Colegau Cymru. Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael ag anghenion athrawon dan hyfforddiant sy’n bwriadu addysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Mae’r cwrs yn sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant, ar ôl ei gwblhau, wedi cael cyflwyniad cadarn i’r Gymraeg ac yn datblygu o leiaf lefel sylfaenol o Lafaredd. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu haddysgu mewn grwpiau wedi’u ffrydio ar sail profiad a chymhwyster blaenorol.

Ymrwymiad amser gofynnol

Rhaglen lawn amser yw hon, ac yn ystod elfen lleoliad y cwrs mae gofyn bod athrawon dan hyfforddiant yn yr ysgol ar gyfer y diwrnod ysgol arferol, ynghyd ag amser ychwanegol cyn ac ar ôl ysgol ar gyfer paratoi a chyfarfodydd.  Mae gofyn ymrwymiad proffesiynol tebyg gan athrawon dan hyfforddiant pan fyddan nhw’n cyflawni’r elfen o’r cwrs sydd yn y brifysgol.


Dysgu ac Addysgu

Mae cyfleoedd addysgu a dysgu yn y brifysgol ac yn yr ysgol wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r naill a'r llall er mwyn sicrhau'r cynnydd gorau posib i’r myfyrwyr. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn hwyluso sgiliau datblygu beirniadol athrawon dan hyfforddiant, ac yn ymwneud ag integreiddio ymchwil ac ymholiad, arfer a damcaniaeth. Yn y Brifysgol ac yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant fel arfer yn profi dulliau dysgu dan arweiniad y tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan ddatblygu annibyniaeth ac ystyriaeth gynyddol wrth iddyn nhw wneud cynnydd drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd rheolaidd drwy gydol y cwrs i athrawon dan hyfforddiant adolygu eu cynnydd personol gyda’u tiwtoriaid a chymryd cyfrifoldeb dros gynllunio a chyflawni eu dysgu eu hunain.

Yn y brifysgol, gallai’r dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, oll wedi’u cefnogi gan ddefnydd o rith-amgylchedd dysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mewn llawer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a fydd yn cael eu defnyddio yw'r rhai sydd â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o effaith ar ddysgu athrawon dan hyfforddiant a chyrhaeddiad disgyblion e.e. micro-addysgu, arfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrthdro. Lle bo’n bosib, bydd gweithdai’n cael eu darparu mewn ystod o barthau traws-gyfnodol, trawsgwricwlaidd ac un pwnc, gan gynnig digon o gyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddysgu gan brofiadau amrywiol ei gilydd.

Wrth ddysgu yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn dysgu am ymagweddau addysgu tîm ac yn addysgu'n annibynnol, a bydd gofyn iddynt gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu annibynnol yn y dosbarth, neu ddosbarthiadau, dros gyfnod parhaus a sylweddol. Bydd Arfer Clinigol yn cynnwys amser cyfeiriedig ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad; addysgu annibynnol a thîm; a chynllunio, paratoi ac asesu. Yn ogystal, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael 15 diwrnod o hyfforddiant dan arweiniad Ysgolion/Cynghreiriau Partner Arweiniol. Yn ystod y diwrnodau hyn, bydd amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu yn cael eu defnyddio, gan gynnwys archwilio dogfennaeth ysgol, rowndiau dysgu, deialog fyfyriol wedi’i chymell gan fideo, teithiau cerdded a dysgu, sgyrsiau dysgu gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau.

Sylwch: Mae hwn yn gwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon proffesiynol ac ni ddylai ymgeiswyr TAR llwyddiannus drefnu gwyliau yn ystod y rhaglen. Mae’r rhaglen fel arfer yn dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf.


Asesu

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau aseiniad ysgrifenedig ar lefel 7 sydd wedi’u gwasgaru dros y flwyddyn. Mae’r ddau aseiniad yn meithrin gallu’r athrawon dan hyfforddiant i fyfyrio’n feirniadol a gwerthuso addysgeg ac arfer, gan wella eu gallu i fodloni elfennau o Safonau’r Statws Athro Cymwysedig. Yn ogystal, mae’r aseiniadau wedi’u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil athrawon dan hyfforddiant, gan roi cyfle iddynt gysylltu damcaniaeth ag arfer mewn ffordd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, gwelliant ysgol, a’u harfer proffesiynol eu hunain. Bydd y Mentoriaid yn yr ysgol a’r Tiwtoriaid Prifysgol yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i gwblhau’r aseiniadau hyn. Bydd cydweithio gydag athrawon eraill dan hyfforddiant yn nodwedd hanfodol ar un o’r aseiniadau.

Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael ei asesu yn erbyn y Safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig, ac mae’n rhaid iddynt lwyddo ym mhob Safon i gael Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod yr arfer clinigol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael adborth ffurfiannol ysgrifenedig a llafar parhaus, ynghyd ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o’r cwrs, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu tystiolaeth sy’n dangos eu cyrhaeddiad a’u cyflawniad, a bydd yn cael ei roi i’r Tiwtoriaid Personol fel bod modd iddynt fonitro cynnydd yn rheolaidd.

O ystyried pa mor ganolog yw llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yng nghwricwlwm Cymru, bydd pob athro dan hyfforddiant yn cwblhau archwiliadau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar ddechrau a diwedd y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn er mwyn helpu i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu, ac i gyflawni astudiaeth er mwyn llenwi’r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau. Bydd myfyrwyr dan hyfforddiant a allai elwa ar gymorth pellach yn cael sesiynau cymorth ychwanegol.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC), ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ar lefel gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, Prydain a thramor.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddarparu ystod eang o brofiadau a fydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i’n graddedigion i’w paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith. Mae Ysgolion Partner Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi’u nodi fel darparwyr addysg a datblygiad proffesiynol arweiniol yng Nghymru, ac felly mae’r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac yn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai’r datblygiad gyrfaol o athro dan hyfforddiant i Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen Darganfod Addysgu.

Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i’n dechrau addysgu?
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion..

Datblygiad Proffesiynol:

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig mantais tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy roi 60 credyd ar lefel Meistr. Gellir cario’r credydau hyn ymlaen i gymhwyster Meistr llawn drwy astudiaeth lawn amser neu ran amser.​


Gofynion Mynediad 

Meini prawf hanfodol:

Bydd gofyn i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS, drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Yna bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen berthnasol, a bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar sail y wybodaeth hon.

Dylai pob ymgeisydd feddu ar y canlynol:

  • proffil academaidd cadarn;
  • y ddawn, y gallu a’r gwytnwch i fodloni canlyniadau gofynnol Statws Athro Cymwysedig erbyn diwedd eu rhaglen AGA;
  • y cymwysterau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr ardderchog;
  • sgiliau darllen effeithiol a sgiliau cyfathrebu clir a chywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg a/neu Saesneg.
  • cefndir troseddol clir, heb hanes a allai eu hatal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc sy’n agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg, ac ni ddylent fod wedi’u hatal neu eu heithrio’n flaenorol rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (mae gofyn i athrawon dan hyfforddiant drefnu Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS));
  • sgiliau gweithredol personol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol y mae modd eu cymhwyso i gyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol, i’w ddangos ar y cam cyfweld;
  • y gallu i ddangos eu haddasrwydd i ddod yn athrawon ardderchog;
  • y gallu i fodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (2004)*, Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau eu hiechyd a’u gallu corfforol i gyflawni cyfrifoldebau athro.

Gofynion TGAU:

Gradd TGAU C/gradd 4 neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd (neu gyfwerth safonol) a Gwyddoniaeth.

Bydd hefyd angen i fyfyrwyr sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg fod â gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) TGAU.

Nodir, bydd ymgeisiwyr angen gradd C/gradd 4 neu uwch mewn Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd (neu gyfwerth) a Gwyddoniaeth er mwyn eu cysidro ar gyfer cyfweliad.​


Cyfwerthoedd TGAU:

Mae Met Caerdydd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer y gofynion TGAU o gwrs achrededig trwy sefydliad ag enw da. O Brifysgol Aberystwyth, rydyn ni hefyd yn derbyn y modiwl cyfwerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r modiwl cyfwerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).​​​

Cliciwch yma i weld canllawiau Met Caerdydd ar gyfwerthoedd gradd C


Gofynion Gradd Gychwynnol:

Gradd anrhydedd mewn maes perthnasol i addysg gynradd, gyda dosbarthiad 2:2 o leiaf; neu unrhyw radd anrhydedd â dosbarthiad 2:2 o leiaf lle cafwyd gradd C neu uwch mewn Safon Uwch (neu gyfwerth) mewn maes pwnc cwricwlwm cynradd. Ystyrir mynediad at raglenni Addysg Uwch fel cyfwerth â Safon Uwch mewn pwnc perthnasol lle cyflawnwyd 15 Teilyngdod ar Lefel 3. Ystyrir Diplomâu CACHE Lefel 3 ar radd C hefyd, ynghyd â Diplomâu Pearson BTEC (QCF)/OCR/NQF Lefel 3 mewn Gofal Plant ar Broffil Teilyngdod.

Mae’n bosib y byddwn yn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd wedi cael gradd Anrhydedd is na 2:2, os cafwyd cymwysterau uwch a/neu brofiad perthnasol sylweddol, e.e. Meistr, PhD​.


Profiad Gwaith:

Yn ddelfrydol, gofynnir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o o leiaf 10 diwrnod o brofiad gwaith mewn ysgol brif ffrwd ar draws yr ystod oedran cynradd o fewn y 12 mis cyn gwneud cais. Mae angen o leiaf 5 diwrnod o brofiad cyn eich cyfweliad a rhaid i chi ddangos tystiolaeth o hyn yn natganiad personol y cais UCAS.


Datganiad Personol:

Datganiad personol cryf yn dangos potensial yr ymgeisydd i gyflawni’r Rhaglen TAR Cynradd. Dylai’r datganiad ddangos ystod y wybodaeth a phrofiad personol a gafwyd mewn addysg gynradd hyd yma, a sut mae hyn wedi paratoi’r ymgeisydd i fod yn athro cynradd effeithiol. Dylid cyfeirio hefyd at brofiadau personol/diddordebau allgyrsiol a allai gyfrannu at gyfoethogi dysgu plant. Mae safon uchel o Gymraeg/Saesneg ysgrifenedig yn hanfodol.


Geirda Academaidd:

Mae’n rhaid i’r prif ganolwr fod yn academydd sydd yn y sefyllfa orau i allu gwneud sylw ar allu academaidd a galwedigaethol yr ymgeisydd. Nid oes angen canolwr academaidd ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyflawni eu gradd ers mwy na 5 mlynedd, ond byddai hyn yn ddelfrydol os oes modd. Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny y mae eu geirda Sefydliad Addysg Uwch yn hŷn nag 8 mlwydd oed, mae angen geirda gan weithiwr proffesiynol addysgol mwy diweddar, fel pennaeth. Mae’n bwysig bod modd i’r canolwr hwn wneud beirniadaeth wrthrychol a gwybodus yn seiliedig ar ddealltwriaeth sylweddol o’r ymgeisydd mewn cyd-destun addysgol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’ch geirda, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau.


Gwiriad Cofnodion Troseddol/y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:

Mae mynediad hefyd yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yma. 


Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen lleiafswm sgôr gyffredinol IELTS o 7.5, heb ddim un is-sgôr is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth) er mwyn cael eu derbyn i’r rhaglen. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r  tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.


Sut i Wneud Cais

​Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS.  

Cynghorwn nad yw ymgeiswyr yn defnyddio mwy nag un dewis ar gyfer y llwybrau a restrir isod. Dim ond un llwybr gallwn ni ei gynnig, yn ddibynnol ar ddewis yr ymgeisydd ac asesiad yn y cyfweliad.

Yn anffodus, oherwydd niferoedd cyfyngedig, mae'n bosibl na fydd ymgeiswyr sy'n dewis y brifysgol fel eu dewis yswiriant yn sicr o gael lle.

Codau Ymgeisio UCAS:

TAR Cynradd (3-11): X178 (Cyfrwng Cymraeg)
TAR Cynradd (3-11): X171


Gwybodaeth am y Cyfweliad

Cynhelir cyfweliadau ar-lein drwy MS Teams ar hyn o bryd. Byddwch chi’n cael eich hysbysu am ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Yna, byddwch chi’n cael gwahoddiad drwy MS Teams, gydag amser penodol eich cyfweliad, gan dîm y rhaglen. Bydd cyfweliadau’n para oddeutu 30 munud.

Gofynnir i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol, a rhoi gwybod i’r Tîm Derbyniadau cyn gynted â phosib, os ydynt yn dymuno cael cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cwestiynau Cyffredin

Cymwysterau

Does gen i ddim TGAU gradd C/gradd 4 neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg Iaith, – alla i wneud cais am y cwrs TAR?
Bydd ymgeisiwyr angen gradd C / gradd 4 neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg Iaith, Mathemateg neu Mathemateg Rhifedd (neu gyfwerth) a Gwyddoniaeth er mwyn eu cysidro ar gyfer cyfweliad. 


A yw fy nghymwysterau’n dderbyniol?

Pennir cyfwerthedd cymwysterau dramor gan UK NARIC.
Os ydych chi’n fyfyriwr Rhyngwladol, dylech gysylltu â UK NARIC. Os ydych chi’n ymgeisydd Cartref/Undeb Ewropeaidd, cysylltwch â’n Tîm Derbyniadau a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach ar eich cymwysterau.


Ymgeisio

Ydych chi’n cynnal Diwrnodau Agored?
Rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth am TAR drwy’r flwyddyn. Ewch i’n tudalen Diwrnodau Agored a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Hefyd, er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb, rydyn ni’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r TAR ar y wefan, ac mae bob amser croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio neu e-bostio.

Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio?
Y dyddiad cau cychwynnol ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 31, 2024​. Bydd rhaglenni’n cau pan fydd y cwrs yn llawn. Mae cystadleuaeth uchel iawn ar gyfer llefydd ar y cwrs TAR Cynradd ac Uwchradd, felly argymhellwn eich bod yn ymgeisio’n gynnar yn y flwyddyn academaidd er mwyn osgoi cael eich siomi.

Ddylwn i wneud cais yn uniongyrchol i Met Caerdydd?
Na – mae’n rhaid gwneud pob cais ar gyfer TAR Cynradd ac Uwchradd drwy UCAS. Mae gwybodaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ymgeisio ac am wneud cais ar gael drwy: www.ucas.com.

A fydd rhaid i fi gwblhau Gwiriad Cofnodion Troseddol?
Mae mynediad yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael drwy www.cardiffmet.ac.uk/dbs.;

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n ymgeisydd cyfrwng Cymraeg?
Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg nodi’r dewis hwn yn glir ar eu ceisiadau. Byddwch yn cael eich rhoi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y weithdrefn gyfweld, bydd eich gallu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei asesu.


Cyfweliadau

Sut bydda i’n cael gwybodaeth am y cyfweliad?
Mae modd gweld dyddiad eich cyfweliad drwy UCAS Hwb. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei hanfon drwy e-bost gan Met Caerdydd.

Pa mor aml cynhelir cyfweliadau? Oes dyddiadau penodol?
Does dim dyddiadau penodol. Serch hynny, byddwch chi’n cael digon o rybudd cyn eich cyfweliad.


Cyllid

Faint mae’r cwrs TAR yn ei gostio?
Ewch i’n tudalen Ffioedd a Chyllid i gael rhagor o fanylion.

Fydda i’n cael bwrsariaeth?
Mae’n bosib y bydd cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael ar gyfer myfyrwyr TAR Cynradd yn ddibynnol ar ddosbarthiad eich gradd israddedig. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion.

Oes cyllid arall ar gael?
Mae myfyrwyr TAR sy’n byw yng Nghymru sy’n dewis aros ac astudio yng Nghymru hefyd yn gymwys i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Ffioedd Dysgu. I gael rhagor o wybodaeth am y grant ac i gael mynediad at y ffurflen PN1 berthnasol ewch i: www.studentfinancewales.co.uk

Gwybodaeth am y Cwrs

Pryd bydda i’n clywed am leoliadau yn yr ysgol? Ble byddan nhw? Alla i drefnu lleoliad fy hunan?

Cynhelir y gydran lleoliad ysgol yn ein hystod ardderchog o ysgolion Partneriaeth Caerdydd, ac mae’n rhan ganolog o’r rhaglen. Bydd o leiaf un lleoliad ysgol mewn Ysgol/Cynghrair Partner Arweiniol (LPS/A). Er y gwneir pob ymdrech i ystyried amgylchiadau personol myfyriwr, byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn ofynnol i athrawon dan hyfforddiant deithio hyd at uchafswm o 90 munud o'u man preswylio i leoliad ysgol. Byddwch chi’n cael gwybod am hyn ar ddechrau eich rhaglen. Chewch chi ddim trefnu eich lleoliad eich hun.

Alla i drefnu unrhyw wyliau yn ystod fy astudiaethau? 
Oherwydd natur broffesiynol y cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon, ni ddylai ymgeiswyr TAR llwyddiannus drefnu gwyliau yn ystod y rhaglen. Mae’r rhaglen fel arfer yn dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf.


Ffioedd a Chefnogaeth Ariannol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Mae’n bosib bod cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Cynradd.

Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy’n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy ffonio 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn lawn amser.

Dyddiad dechrau:
2 Medi 2024 – Yn amodol ar newid

Accreditation
Accreditation
Digwyddiadau TAR Cynradd
Athrawon Cyfrwng Cymraeg Yfory

Ydych chi’n chwilio am yrfa fel athro uwchradd neu cynradd? Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dewch draw i’n noson recriwtio i ddysgu mwy am yrfa fel athro. Cyfle i chi glywed gan athrawon a darlithwyr am y proffesiwn addysg. Bydd panel cwestiwn ac ateb, a chyfle i holi myfyrwyr, athrawon, a thiwtoriaid Met Caerdydd.

19 Mawrth 2024, 6yh-7.30yh: Mwy o wybodaeth
Archebwch eich lle

Cwrs Byr Blas ar Ddysgu

Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn chwilio am yrfa mewn addysgu Cynradd, dysgwch ragor am ein cwrs byr lle gallwch brofi amgylchedd ysgol ac archwilio gyrfa yn addysgu yn ysgolion Cymru.

Cwrs byr Blas ar Ddysgu: Mwy o wybodaeth
Cwrs 2: Mehefin 3-7, 2024

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Mae'r Uwch Darlithydd, Sioned Dafydd yn dweud mwy wrthym am astudio'r cwrs TAR Cynradd a'r manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Sioned Dafydd

Dewch i gwrdd â Sioned Dafydd, Darlithydd TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Proffil Graddedig

Dewch i glywed mwy gan Ethan, myfyriwr raddedig, am ei brofiadau ar y cwrs TAR Cynradd a pham a pham ei fod yn meddwl bod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn annatod o'i yrfa addysgu.

Blog
Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Cynradd ym Met Caerdydd

Mae Maria, un o raddedigion y cwrs TAR Cynradd, yn blogio am ei phrofiadau yn astudio ar y cwrs a pham gwneud hynny yn Gymraeg.
Darllen mwy.

Blog
Fy nhaith mewn i addysgu. Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Addysg Gynradd eleni!

Darllenwch pam y penderfynodd Aled, myfyriwr raddedig ar y cwrs i astudio TAR Cynradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy

Blog
Manteisio ar yr iaith Gymraeg i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf gyda fy nghwrs TAR Addysg Gynradd

Clywch gan Katie, a raddiodd ar y cwrs, am ei phrofiadau ar y TAR Cynradd a pham ei bod wrth ei bodd yn dysgu cymaint.
Darllen mwy

Astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg

Dewch i ddarganfod mwy am y cyfleoedd gwahanol ac unigryw i astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.