Ynglŷn â CSAD

Cysylltwch â'r byd o'ch cwmpas. Edrychwch arno o bob ongl. Cwestiynwch a theimlwch. Byddwch yn agored i brofiadau newydd. Bwydwch eich creadigrwydd - a gallwch newid y byd.

Yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, mae creadigrwydd yn cael ei siapio gan eich profiadau chi. Rydym yn rhoi cyfleoedd i chi weld pethau'n wahanol, i archwilio disgyblaethau a diwylliannau. Rydym yn eich gwthio i ehangu'ch gorwelion ac adeiladu'ch sgiliau bob dydd.

Fel myfyriwr CSAD, fe gewch ddealltwriaeth drylwyr a dwfn o arbenigedd o'ch dewis chi. Ond byddwch yn mentro y tu hwnt i'ch pwnc. Byddwch yn cydweithredu â chyd-fyfyrwyr; yn archwilio’r syniadau a'r theori y tu ôl i'ch crefft; yn cael ysbrydoliaeth o bob man a phawb - a gweld ble’r aiff hynny â chi.

Oherwydd pan welwch chi brosiect tecstilau trwy lygaid ffotograffydd - neu gymhwyso meddwl pensaernïol i gelf gain – byddwch chi'n creu rhywbeth newydd, ac fe fydd y byd yn sylwi.

Gallwch ddewis eich llwybr eich hun. Datblygu sgiliau newydd yn ein gweithdai niferus. Creu cynllun busnes - neu deithio dramor. Cael blas ar fywyd proffesiynol trwy brofiad gwaith gydag un o'n partneriaid yn y diwydiant, neu feirniadu'r ymchwil ddiweddaraf.

Dysgwch sut i lunio'ch dyfodol, a phan fyddwch chi'n ein gadael ni - i fod yn ymarferydd, i astudio ymhellach neu i sefydlu'ch busnes eich hun - byddwch chi'n barod i newid y byd.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr sydd o ddifrif ynglŷn â chelf a dylunio, yn barod i reoli eu profiadau a’u dyfodol. Felly os ydch chi’n uchelgeisiol, yn chwilfrydig, ac yn barod i arllwys eich calon a’ch enaid i’ch profiad prifysgol, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi.