Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Dylunio Mewnol – Gradd BA (Anrh)

Dylunio Mewnol – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd dylunio’n cael effaith enfawr ar gymdeithas, a gall dylunio mewnol effeithiol newid y ffordd y byddwn yn byw ein bywydau er gwell.

Ym Met Caerdydd bydd eich astudiaethau’n canolbwyntio ar wrthrychau a’u perthnasoedd â gofodau, yn ogystal â’r ffyrdd y byddan nhw’n creu profiad i’r defnyddwyr.

Drwy astudio ar ein gradd BA Dylunio Mewnol, byddwch yn dysgu mor bwysig yw cynaliadwyedd a dylunio amgylcheddol-gyfrifol; traddodiad a threftadaeth lle; estheteg a deunyddiolrwydd; yn ogystal â’r effaith y caiff dylunio ar brofiad a lles bodau dynol. Bydd ein cwrs Dylunio Mewnol israddedig yn rhoi’r adnoddau i chi gael deall gofod mewnol mewn ffordd feirniadol a chyfoes. Bydd y sgiliau hyn yn eich galluogi i ailfodelu’r gorffennol, i greu’r presennol ac i oleuo’r dyfodol.

Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cydweithredol a fydd yn ymestyn ar draws ystod o gyd-destunau, gwledydd a diwylliannau. Byddwch yn archwilio ac yn defnyddio ystod o dechnolegau, yn ymgysylltu’n feirniadol â briffiau byw a phryderon byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich hunaniaeth ddylunio chi eich hunan.

Bydd hyn yn eich galluogi i gyfansoddi, delweddu ac efelychu amgylcheddau unigryw ac unigol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Bydd eich pynciau craidd, sef meddwl yn greadigol, lluniadu, gwneud modelau, technegau dylunio stiwdio a thechnolegau CAD, yn rhoi sylfaen sicr i chi yn elfennau sylfaenol dylunio. Oddi yma byddwch yn archwilio technegau, syniadau a dulliau gwahanol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • Ailfodelu; cadw; adfer; adnewyddu safleoedd a fydd yn bodoli eisoes
  • Creu amgylcheddau â’r defnyddwyr yn ganolog (byw; gweithio; gorffwys; chwarae)
  • Dadansoddi Diwylliant Cleientiaid (iaith dylunio; naws; awyrgylch)
  • Ffurfio strategaethau dylunio
  • Creu lleoedd priodol ar gyfer profiad
  • Cynhyrchu gwybodaeth Manylion Tectonig
  • Braslunio lluniad dylunio â manylion wrth raddfa
  • Gwneud modelau a delweddu 3D (CAD; Realaeth Rithiol; Labordy Profiad Canfyddiad)
  • Datblygu perthnasoedd â chleientiaid, adeiladwyr ac arbenigwyr eraill
  • Fframweithiau Cyfreithiol a Rheoleiddiol


Bydd llawer dewis ar agor i chi – o astudio dramor hyd at gyfleoedd ymchwil a phrofiad mewn diwydiant – er mwyn i chi gael dod i adnabod mathau gwahanol o gleientiaid ac archwilio’r llwybrau gyrfaol dirifedi y gallwch eu cymryd wedi i chi raddio mewn dylunio mewnol.

Bydd llawer dewis ar agor i chi – o astudio dramor hyd at gyfleoedd ymchwil a phrofiad mewn diwydiant – er mwyn i chi gael dod i adnabod mathau gwahanol o gleientiaid ac archwilio’r llwybrau gyrfaol dirifedi y gallwch eu cymryd wedi i chi raddio mewn dylunio mewnol.


Blwyddyn Un

Pwnc: Stiwdio 1.1 – 40 credyd a Stiwdio 1.2 – 20 credyd
Byddwch yn treulio eich tymor cyntaf yn hogi eich sgiliau ac yn astudio strategaeth ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddelweddu ac i gyflwyno eich syniadau drwy fraslunio, lluniadu technegol, gwneud modelau, delweddu CAD a chyflwyno llafar. A byddwch yn dechrau archwilio’r materion moesegol a chymdeithasol – gan gynnwys egwyddorion amgylcheddol, ecolegol a chynaliadwyedd – y bydd y diwydiant hwn yn ymwneud â nhw. Byddwch yn dysgu am synthesis ‘gwrthrych’, ‘gofod’ a ‘phrofiad’.

Maes Un: Cydweithredu - 20 credyd*
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.

Cytser: Cysyniad - 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Blwyddyn Dau

Pwnc: Stiwdio 2 - 40 credyd
Byddwch yn darganfod yr hyn mae bod yn ddylunydd mewnol yn yr 21ain ganrif yn ei olygu. Fe gewch fewnwelediad i fywyd gwaith dylunydd a dechrau gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm dylunio. Byddwch yn creu Lle ar gyfer Profiad, yn ystyried cyfyngiadau a phosibiliadau safle-benodol – gan roi eich sgiliau a’ch gwybodaeth ynglŷn â phwy yw’r cleientiaid a’r defnyddwyr ar waith yn uniongyrchol.

Maes Dau: Archwilio - 40 credyd*
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cytser: Bwrw golwg feirniadol - 40 credyd
Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff a threiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.

Dewis Cwrs Rhyngosod
Bydd yn bosib strwythuro’r cwrs hefyd ar ffurf gradd ryngosod. Rhwng blynyddoedd 2 a 3, gallwch weithio am flwyddyn mewn practis pensaernïol neu bractis adeiladu tebyg a fydd yn canolbwyntio ar ddylunio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ymhellach y sgiliau a gafodd eu hennill ym Mlynyddoedd Un a Dau ac i fagu profiad gwerthfawr mewn amgylchedd byd go iawn. O ganlyniad bydd eich CV a’ch cyflogadwyedd yn gwella’n fawr.


Blwyddyn Tri

Testun: Prosiect Mawr -40 credyd
Gweithio ar friff prosiect ar gyfer prosiect dylunio a chyfleu pob agwedd ar yr ateb dylunio i gynulleidfa anarbenigol mewn moddproffesiynol gan ddefnyddio ystod briodol o dechnegau cyfathrebu a chyfryngau. Dangos gallu i syntheseiddio a manylu ar atebion dylunio arloesol gan ddefnyddio ystod eang o sgiliau creadigol, cysylltiedig â dylunio a throsglwyddadwy, sy'n gofyn am astudiaeth ymreolaethol, ymchwil, dadansoddi a meddwl gwreiddiol.

Pwnc: Prosiect Mawr - 40 credyd
Byddwch yn hogi’n effeithiol friff ar gyfer prosiect dylunio ac yn cyfathrebu pob rhan o’r ateb dylunio i gynulleidfa nad ydyn nhw’n arbenigwyr, mewn ffordd broffesiynol gan ddefnyddio ystod briodol o dechnegau a chyfryngau cyfathrebu. Dylech ddangos gallu i syntheseiddio a manylu ar atebion dylunio arloesol gan ddefnyddio ystod eang o sgiliau creadigol, trosglwyddadwy a dylunio-gysylltiedig, y bydd gofyn astudio annibynnol, ymchwil, dadansoddi a meddwl yn wreiddiol arnyn nhw.

Maes Tri: Arddangos - 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cytser: Cyfraniad - 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

Caiff ffocws sylweddol ar addysgu yn y Stiwdio ei gynnal, wedi’i gefnogi gan Brif Ddarlithoedd a seminarau cefnogol. Caiff myfyrwyr unigol eu cefnogi gan ‘adborth’ sylweddol yn ystod Beirniadaethau Grŵp a thiwtorialau unigol a grŵp.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.

Bydd y myfyrwyr â rhan sylweddol yn arwain eu hastudiaethau, yn datblygu ffocws eu hymchwil a chronfa eu harbenigedd nhw eu hunain ac yn ymgysylltu’n weithredol â’r broses asesu a’r ffordd y gellir mynegi a phrofi eu harbenigedd unigol nhw eu hunain.

Caiff y myfyrwyr eu cefnogi wrth iddyn nhw weithio’n annibynnol i’w galluogi i gynhyrchu dysgu sylweddol ac unigryw drwy ymarfer trylwyr, hunan-gyfeiriedig a chydweithredol.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn i’ch disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist/dylunydd mewnol a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg. Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Cewch gyfle i ymgysylltu â chleientiaid ac yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl priodol.

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael ymuno â chwmnïau dylunio mewnol, i weithio yn ddylunwyr annibynnol. Bydd rhai yn cael mwy o hyfforddiant, drwy wneud TAR er enghraifft. Bydd rhai yn dewis astudio ymhellach drwy wneud cymhwyster Meistr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio a bydd cyfleoedd iddyn nhw fynd â hyn ymhellach eto drwy Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Dylunio neu PhD.

​​Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill:Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Dylunio Mewnol, Craig Thomas:

Ebost: crthomas@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6147



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
56F1 - gradd 3 blynedd

Man Astudio: 
Campws Llandaff

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​​

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Craig Thomas

Mae'r uwch ddarlithydd Craig Thomas yn trafod ei yrfa fel Dylunydd Mewnol a sut mae'n defnyddio ei brofiad i helpu i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y diwydiant.

Cwrdd â’r Tîm: Charlie Bull

Mae'r Arddangoswr Technegydd Charlie Bull yn trafod sut mae hi'n helpu ein myfyrwyr i ddod â'u syniadau'n fyw trwy ddylunio digidol a delweddu.

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.