Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Pensaernïaeth - BA (Anrh)

Pensaernïaeth - BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd Pensaernïaeth yn siapio’r byd o’n cwmpas. Bydd yn adlewyrchu ein cymdeithasau a’n cymunedau ac yn dylanwadu ar y ffordd y byddwn yn meddwl ac yn teimlo. Bydd Pensaernïaeth yn meddiannu’r nenlinell, yn gweddnewid ein dinasoedd, yn newid ein ffordd o fyw ac o weithio gan ddod yn rhan o’n naratif. Byddwch yn dysgu sut i ddylunio adeiladau a gwneud gofodau ar gyfer pobl mewn ffordd greadigol a ffordd sy’n amgylcheddol-gyfrifol.

Mae gradd mewn Pensaernïaeth ym Met Caerdydd wedi’i goleuo gan draddodiad a threftadaeth ysgol gelf a dylunio a gan y defnydd creadigol cyfoes ar y dechnoleg ddiweddaraf a fydd yn archwilio’r berthynas rhwng profiadau pobl a phensaernïaeth.

Nod y cwrs yw sefydlu deialog greadigol rhwng meysydd gwahanol o wybodaeth bensaernïol: dylunio, cynrychioli, technoleg, astudiaethau cyd-destunol ac ymarfer proffesiynol. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r meysydd thematig hyn a’u hintegreiddiad drwy gymryd rhan mewn prosiectau a fydd yn rhai cynyddol anodd.

Bydd hyn yn eich galluogi i ffurfio cynigion pensaernïol a fydd wedi’u pennu yn dechnegol ac yn ofodol, ar sail ddamcaniaethol gadarn. Byddwch yn dysgu hefyd sut i gyfleu eich cynigion yn effeithiol o fewn cyd-destun proffesiynol, drwy ystod o gyfryngau.

Yn olaf, bydd y cwrs yn rhoi pwyslais arbennig ar gyfrifoldeb y pensaer i gael mynd i’r afael â phroblemau cyfoes sy’n destun pryder yn amgylcheddol ar lefel leol a byd-eang (megis yr argyfwng o ran yr hinsawdd). Cewch eich annog yn bendant i ddatblygu persbectifau beirniadol ar sut y gellir defnyddio gwybodaeth a chreadigrwydd gyda’i gilydd i gael hyd i atebion drwy gyfrwng dylunio a fydd yn gallu sicrhau y bydd adeiladau, cymdogaethau neu ddinasoedd yn fwy cynaliadwy yn y tymor byr a’r tymor hir.

Ceir cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau go iawn, gan gynnwys gwaith gyda chymunedau a chyflogwyr lleol, yn ogystal â chyfleoedd i gael profi diwylliannau eraill – a’u pensaernïaeth – drwy deithiau i astudio dramor.

Mae’r BA (Anrh) Bensaernïaeth ym Met Caerdydd wedi’i ragnodi fel cymhwyster Rhan 1 gan yr ARB (Bwrdd Cofrestru Penseiri), y corff sy’n rheoleiddio proffesiwn y penseiri yn y DU.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich eithrio o Arholiad Rhagnodedig yr ARB yn Rhan 1, y cam cyntaf tuag at ddod yn bensaer cofrestredig.

Cyflawnodd BA (Anrh) Pensaernïaeth boddhad cyffredinol o 100% yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf (NSS 2023)​.​


Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau’n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Mae’r cwricwlwm wedi’i ffurfio o dair cydran, sef Pwnc, Maes a Chytser:

  • Bydd y Pwnc yn rhoi sylfaen gadarn i’r myfyrwyr sy’n benseiri dan hyfforddiant.
  • Bydd y Maes yn galluogi’r myfyrwyr i archwilio ac i gydweithredu gyda’u cydfyfyrwyr (a’u tiwtoriaid) ar y rhaglenni eraill a gynigir yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
  • Bydd y Cytser yn rhoi sail ddamcaniaethol a fydd yn annog y myfyrwyr i osod eu hymarfer o fewn cyd-destunau traws-ddisgyblaethol.

Bydd y modiwlau Maes a Chytser yn galluogi’r myfyrwyr i ymgyfarwyddo â gwahanol ddisgyblaethau celf a dylunio ac i werthfawrogi eu perthynas â phensaernïaeth a’u dylanwad ar ansawdd dylunio pensaernïol.


Blwyddyn 1

Pwnc – Cyflwyniad i Feddwl yn Bensaernïol ac i Ddylunio Pensaernïol (40 credyd)

Cewch eich cyflwyno i gysyniadau a sgiliau pensaernïol hanfodol ac i werthfawrogi yr hyn yw dylunio a’r hyn y mae’n ei olygu.


Pwnc – Dylunio Integredig: Ymyriadau Bach (20 credyd)

Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch wedi’u caffael yn y modiwl cyntaf ac yn gwella’ch gallu dylunio drwy gymryd rhan mewn prosiect a fydd yn integreiddio dylunio, cynrychioli a thechnoleg pensaernïol ac astudiaethau cyd-destunol.


Maes: Cydweithredu – 20 credyd*

Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.


Cytser: Cysyniad – 40 credyd

Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.



Blwyddyn 2

Pwnc – Dylunio Integredig: Ymyriadau Trefol (40 credyd)

Nod y modiwl hwn yw symud eich sgiliau dylunio ymlaen drwy roi prosiect integredig mwy cymhleth na’r rheiny a gynigir ym mlwyddyn 1 a thrwy eich cyflwyno i ddimensiwn trefol pensaernïaeth.


Maes: Archwilio (40 credyd)

Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.


Cytser – Dylunio Integredig: Anheddau a Chymuned (40 credyd)

Byddwch yn ymgymryd â phrosiect dylunio pensaernïol integredig a fydd yn rhoi themâu a heriau newydd i chi o gylch tai a chymunedau lleol.



Blwyddyn 3

Pwnc – Dylunio Integredig: Prosiect Cynhwysfawr (40 credyd)

Byddwch yn cyfnerthu’r wybodaeth a’r sgiliau y byddwch wedi’u magu yn lefelau blaenorol eich astudio ac yn datblygu eich gallu i ymgymryd â dyluniad pensaernïol integredig drwy fod yn rhan o brosiect a fydd yn fwy cymhleth.


Maes: Arddangos – 40 credyd

Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.


Cytser: Cyfraniad – 40 credyd

Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

Dysgu ac Addysgu

Bydd strategaethau dysgu, addysgu ac asesu yn ceisio hyrwyddo arddulliau dysgu effeithiol i gael creu amgylchedd lle y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn ymddiddori yn y pwnc; ac yn annog gallu i ddysgu’n annibynnol a dysgu gydol oes; ac yn gwireddu potensial llawn pob myfyriwr.

Bydd y rhaglen Pensaernïaeth yn ceisio datblygu diwylliant dysgu ac addysgu a fydd yn datblygu meddwl ymholgar a chreadigol gan gydnabod yr angen i ymateb i alwadau ymarfer pensaernïol proffesiynol.

Caiff y rhaglen ei chyflawni drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, adolygiadau a gweithdai.

Darlithoedd

Bydd darlithoedd yn darparu rhaglen astudio gydlynol ac yn eich ysbrydoli’n gyffredinol. Cân nhw eu cefnogi gan ddeunydd gweledol a thestunol. Lle y bydd hynny’n briodol, caiff y darlithoedd eu strwythuro i gynnwys myfyrwyr mewn trafodaethau.

Tiwtorialau

Mewn tiwtorialau bydd grŵp o fyfyrwyr (neu fyfyriwr unigol) yn cyfarfod gyda darlithiwr neu ddarlithwyr a chân nhw eu defnyddio i ymestyn y deunydd a fydd yn cael ei gynnwys yn y darlithoedd drwy ddull ymholgar a datrys problemau, ac er mwyn goresgyn unrhyw ddiffygion o ran gwybodaeth gefndir y myfyrwyr.

Seminarau

Bydd tri math o seminar: y rheiny o dan arweiniad staff lle y caiff testunau neu arteffactau eu rhoi i’r myfyrwyr er mwyn cyflwyno dadansoddiad i’w grŵp; y rheiny lle y bydd y myfyrwyr yn dewis testunau/arteffactau i’w trafod o fewn y grŵp; a’r rheiny lle y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u gwaith neu gasgliadau eu hymchwil nhw eu hunain.

Bydd seminarau wedi’u dylunio i annog cyflwyniadau croyw a dadansoddol a, thrwy drafodaeth grŵp, i ddatblygu dealltwriaeth o’r pwnc a’i gyd-destun.

Adolygiadau

Mae adolygiadau yn gonglfeini’r broses ddysgu a chân nhw eu cynnal ar bob cyfnod asesu (interim neu derfynol) aseiniad neu brosiect dylunio. Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u gwaith i’r grŵp blwyddyn ac i’w tiwtoriaid ar gyfer adborth a thrafodaeth.

Gweithdai

Bydd gweithdai yn helpu myfyrwyr i ddatblygu ystod eang o sgiliau ymarferol a damcaniaethol.

E-Ddysgu

Caiff Moodle, amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol, ei ddefnyddio’n eang ar y cwrs i wella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i fynd i astudio ac i hyfforddi ymhellach er mwyn cymhwyso yn benseiri, neu i gael eu cyflogi yn gynorthwywyr pensaernïol neu yn y diwydiannau creadigol ehangach.

Yn ystod cwrs gradd Pensaernïaeth ym Met Caerydd, bydd cyfleoedd i ymgymryd â briffiau byw a phrofiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau yn ogystal â chael dod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu a phensaernïaeth drwy anerchiadau diwydiannol a mentora. Cewch gynnig cymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Bydd rhai graddedigion yn dod yn athrawon drwy gymryd TAR. Bydd rhai graddedigion yn dewis mynd â’u hastudiaethau ymhellach drwy astudio yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ar gyfer cymhwyster Meistr ac mae cyfleoedd i gael mynd â hyn ymhellach eto, i ymchwil ar gyfer PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 120-128
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 26 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill:Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â’r tiwtoriaid ar architectureenquiries@cardiffmet.ac.uk​.



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
​K100

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Fausto Sanna

Mae'r Uwch Ddarlithydd Dr Fausto Sanna yn trafod sut mae'n defnyddio ei brofiad diwydiant i helpu i baratoi myfyrwyr Pensaernïaeth Met Caerdydd ar gyfer eu gyrfaoedd.

Cwrdd â’r Tîm: Charlie Bull

Arddangoswr Technegydd Charlie Bull yn trafod sut mae hi'n helpu ein myfyrwyr i ddod â'u syniadau'n fyw trwy ddylunio digidol a delweddu.

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.