Hafan>Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cardiff Open Art School

Ysgol Gelf Agored Caerdydd

Helô a Chroeso i Ysgol Gelf Agored Caerdydd. Mae gan COAS enw rhagorol am ei chyrsiau Celf a Dylunio byr o ansawdd uchel. Bydd eich angerdd, syniadau a sgiliau yn cael eu mireinio a'u gwella wrth i chi ddysgu technegau, sgiliau a phrosesau creadigol newydd gyda ffrindiau newydd. Efallai y bydd y dosbarthiadau yma’n fodd i rai ddechrau ar gyfeiriad gyrfa newydd, neu’n hytrach yn hobi neu'n ddiddordeb yr ydych wedi bod yn awyddus i’w ddatblygu a dysgu mwy amdano. Beth bynnag fo'ch rheswm dros wneud cais i COAS, chewch chi ’mo’ch siomi, a bydd yr ystod o waith a gyflawnir yn ystod eich cwrs yn eich cyffroi.

P’un ai os ydych chi'n artist neu'n ddylunydd profiadol, yn paratoi portffolio ar gyfer cais am radd neu raglen Sylfaen neu os nad ydych chi wedi codi pensil yn eich bywyd, mae gennym rywbeth i'w gynnig i chi felly mae'r cyrsiau a’r gweithdai yn ffordd wych o roi cynnig ar sgiliau newydd neu ddatblygu eich arferion ymhellach.

Mae COAS wedi’i lleoli yng nghanol Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Ysgol Gelf sydd wedi’i seilio gadarn ar 150 mlynedd o hanes a’r egwyddor o arbrofi creadigol ac ymarfer. Mae gan ein stiwdios a'n gweithdai offer proffesiynol sy’n hygyrch i'n myfyrwyr eu defnyddio o dan oruchwyliaeth arbenigol tîm deinamig o diwtoriaid – pob un ohonynt yn ymarferwyr a chanddynt enw da yn eu meysydd astudio arbenigol.

Mae cyrsiau'n rhedeg drwy gydol y flwyddyn ar ein campws yn Llandaf, gan ddechrau fel rheol bob Tymor yr Hydref, y Gwanwyn a'r Haf. Mae'r wybodaeth fwyaf ddiweddar am y cyrsiau sy’n cael eu rhedeg a phryd i'w chael bob amser yn adran cyrsiau gwefan COAS.

I gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio a derbyn diweddariadau am ein rhaglen gyrsiau, e-bostiwch eich manylion cyswllt at coas@cardiffmet.ac.uk


coas-260x172.jpg

Archebwch eich lle

Nifer cyfyngedig o leoeodd sydd ar bob un o'r cyrsiau, felly archebwch nawr i osgoi cael eich siomi!

Ein Tiwtoriaid

Darllenwch am ein tiwtoriaid yn Ysgol Gelf Agored Caerdydd.

Ymunwch â'n Llyfrgell

Mae Caerdydd Agored yn cynnig cyfle i ymuno â'n Llyfrgell.

Mae FabLab Caerdydd ar Agor

Dysgwch am arduinos, torri â laser, argraffu 3D, dylunio graffig, creu cerddoriaeth electronig a llawer mwy!

Cliciwch yma i ymweld â gwefan FabLab Caerdydd