Ymunwch â ni yn Sioe Meistr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Yn cynnwys gwaith gan fyfyrwyr Ôl-raddedig YGDC, y Sioe Meistr yw eu cyfle i arddangos a thrafod eu gwaith ar adeg tyngedfennol yn eu hastudiaethau.
Yn cynnwys gwaith gan Cerameg a Gwneuthurwr, Dylunio Ffasiwn, Celfyddyd Gain, Dylunio Byd-eang, Darlunio ac Animeiddio, Dylunio Mewnol, Ffotograffiaeth a Dylunio Cyfathrebu Gweledol, bydd y digwyddiad wedi’i guradu ar gael ar gampws Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd o ddydd Gwener 14eg o Orffennaf tan ddydd Mawrth 18fed o Orffennaf 2023. Mae’n rhad ac am ddim i ymweld, ac yn agored i’r cyhoedd.
Gweld Catalog Meistr 2023
Oriau Agor
Dydd Llun – Dydd Gwener 10:00-18:00
Dydd Sadwrn – Dydd Sul 12:00-16:00
Digwyddiadau
Dydd Gwener 14eg o Orffennaf 17:00-20:00 – Noson Agoriadol
Ymunwch â ni am daith breifat ar y Sioe Gradd Meistr eleni. Bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen Amelia Huw-Morgan yn eich croesawu i’r arddangosfa eleni, lle cewch wahoddiad i siarad â’n myfyrwyr Meistr ac ymgysylltu â’r arddangosfa.