Rydym yn cynnig lleoedd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn seiliedig ar broses gyfweld.
Nid canlyniadau arholiadau yw’r unig ystyriaeth - rydyn ni eisiau gwybod mwy amdanoch chi fel person, ac fel artist, dylunydd neu wneuthurwr.
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein cwricwlwm rhyngddisgyblaethol arloesol a’n cymuned amrywiol a chreadigol o fyfyrwyr a staff yn addas ar eich cyfer chi.
Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'ch
brwdfrydedd, eich
creadigrwydd a'ch
chwilfrydedd, ynghyd â'ch sgiliau a'ch potensial fel unigolyn sy’n meddwl yn greadigol ac yn feirniadol ac artist, dylunydd neu wneuthurwr.
Mae'r broses gyfweld yn amrywio gan ddibynnu ar ba gwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano, ond mae'r mwyafrif yn cynnwys adolygiad o'ch portffolio gwaith a sgwrs gyda'r tîm pwnc.
Mae rhai o'n cyfweliadau yn un-i-un tra gall eraill gynnwys ymarferion grŵp. Mae pob un o'n cyfweliadau yn anffurfiol - rydyn ni am i chi deimlo'n hamddenol ac yn ddigon cyfforddus i fod chi eich hun.
Rydym yn cynnal ein cyfweliadau ar-lein ar hyn o bryd a byddwn yn gofyn am bortffolio electronig i'w drafod gyda chi fel rhan o'r cyfweliad. Byddwn wedyn hefyd yn cynnal diwrnodau ymgeiswyr yn y Gwanwyn i roi’r cyfle perffaith i chi ymweld â’n campws, gweld ein cyfleusterau a chael blas llawn o’ch dewis gwrs.
Gweler ein hadran Awgrymiadau Portffolio i gael gwybodaeth ar sut i greu portffolio electronig sylfaenol.