Cynnwys y Cwrs
Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a chreadigol drwy archwilio deunyddiau amrywiol a’r defnydd ar gyfryngau. Bydd mynediad gennych i’ch gofod stiwdio chi eich hunan a byddwch yn gweithio gyda’r staff academaidd i ddiffinio ac i ddatblygu eich diddordebau a’ch arferion mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Meddwl yn feirniadol / barn gritigol (wedi trwytho ym meddwl/ymarfer celf hanesyddol a chyfoes)
- Proses a Dysgu yn seiliedig ar Ddeunyddiau: (peintio, fideo, animeiddio, gwneud printiau, ffotograffiaeth, lluniadu, perfformio, plastr, roboteg, celf gyhoeddus, arferion cyfranogol a chynhwysol, gwaith coed, gwaith metel, cerameg, dylunio cynhyrchion, castio efydd, gwnïo)
- Cyfrifoldeb Unigol/Hunan-Ysgogiad
- Annibyniaeth / Hyder / Dychymyg / Chwarae
- Ymarfer ar hap wedi’i yrru gan ymholi
Bydd digon o gyfleoedd i gael rhyngweithio gydag ymarferwyr a phartneriaid allanol. Gallwch ddewis dysgu sut bydd practis proffesiynol yn gweithredu drwy leoliadau diwydiant. Gallwch archwilio beth fydd gan entrepreneuriaeth i’w gynnig i’r artist cyfoes. Neu gallwch astudio dramor gan gael eich ysbrydoli gan ddiwylliannau a phobl wahanol.
Byddwch yn treulio’ch blwyddyn olaf yn cynhyrchu gwaith ar gyfer arddangosfa. Byddwch hefyd yn cwblhau cynllun busnes, traethawd hir neu arolwg beirniadol – eich dewis chi fydd hynny, yn dibynnu ar i ble y byddwch am fynd â’ch gyrfa artistig nesaf.
Blwyddyn Un
Pwnc: Cyflwyniad i gysyniad, proses ac ymarfer – 40 credyd
Pwnc: Cyflwyniad i ymarfer stiwdio annibynnol – 20 credyd
Ewch amdani ar unwaith gyda phrosiectau ymarfer â deunyddiau a fydd wedi’u cynllunio i’ch cael i feddwl am eich ymarfer stiwdio unigol. Â chymorth oddi wrth eich tiwtoriaid, byddwch yn dechrau adeiladu eich meddwl beirniadol – ac yn ymgyfarwyddo â’r amryfal brosesau y bydd rhaid i chi weithio gyda nhw. Lluniadu yw’r ffordd bwysicaf i fagu dealltwriaeth o’ch perthynas â’r byd a bydd yn ganolog i astudiaeth celfyddyd gain. Drwy ymuno â’r rhaglen lluniadu cyfeiriedig, byddwch yn datblygu syniadau, yn cyfathrebu syniadau cymhleth ac yn datrys problemau cysyniadol.
Maes Un: Cydweithredu – 20 credyd
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.
Cytser: Cysyniad – 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Ymchwil ar sail Ymarfer – 40 credyd
Byddwch yn dechrau archwilio’ch sefyllfa artistig eginol drwy astudiaeth drylwyr o weithiau celf allweddol o fewn holl weithiau celfyddyd gain a fydd o ddiddordeb personol i chi mewn amgueddfa, oriel neu gasgliad preifat; gall hyn fod yn ganolbwynt i’ch ymchwil a’r catalydd a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich ymarfer a’ch safbwynt. Ynghyd â thiwtorialau, darlithoedd a beirniadaeth grŵp, byddwch yn treulio amser yn y stiwdio yn ogystal ag yn ymweld ag orielau, amgueddfeydd a chanolfannau rhagoriaeth cenedlaethol eraill.
Maes Dau: Archwilio – 40 credyd
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.
Cytser: Bwrw golwg feirniadol – 40 credyd
Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff ac i dreiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Cyfnerthu – 40 credyd
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cyrraedd safon broffesiynol ac yn diffinio paramedrau eich ymarfer chi eich hunan. Byddwch yn mireinio sgiliau ymarferol a damcaniaethol ac yn eu defnyddio i greu darnau gwreiddiol trawiadol. Byddwch yn rhoi eich gwaith mewn cyd-destun ac yn archwilio’i botensial drwy sesiynau beirniadu agored a seminarau gyda’ch tiwtoriaid a’ch cyd-artistiaid.
Maes Tri: Arddangos – 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Cytser: Cyfraniad – 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.
Dysgu ac Addysgu
O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau deunyddiol craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau llai, targedig wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.
Caiff craidd eich addysgu stiwdio ei gyflawni drwy drafod yn feirniadol mewn grwpiau tiwtorial, lle y ceir cyngor myfyriwr-i-fyfyriwr academaidd uchel a thrwy diwtorialau unigol gyda’r staff academaidd. Caiff y rhain eu hategu yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn gyda phrosiectau ymarfer deunyddiau o dan arweiniad academaidd, dosbarthiadau lluniadu a gweithdai technegol gydag Arddangoswyr Technegwyr.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Asesu
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
SGILIAU: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
CYD-DESTUN: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.
Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.
Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.
Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.
Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud cais
Dylai fod portffolio celf a/neu ddylunio cryf gan ymgeiswyr a byddan nhw’n dangos ymrwymiad i gelf a/neu ddylunio, ac yn ddelfrydol 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith (neu Cymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch / gradd 4 neu’n uwch (ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr).
Yn dilyn cyfweliad ac asesiad portffolio, bydd ein cynigion nodweddiadol yn amrywio rhwng:
- 96 - 120 pwynt wedi cwblhau Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yn llwyddiannus a/neu
- 96 - 120 pwynt o 2 Safon U o leiaf: Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch ei hystyried yn drydydd pwnc
- RQF BTEC National Extended Diploma / Cambridge Technical Extended Diploma: MMM / DDM
- 96 - 120 pwynt o gyfuniad o Scottish Highers a Scottish Advanced Highers
- 96 - 120 pwynt o’r Irish Leaving Certificate (Highers) i gynnwys 2 x H2 radd mewn unrhyw bwnc (H4 yw’r radd leiaf a gaiff ei hystyried)
- 96 - 120 pwynt o Ddiploma Mynediad i AU mewn pwnc perthnasol
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn
Mathemateg neu
Mathemateg – Rhifedd..
Ar gyfer ymgeiswyr na fydd ond yn cymryd 2 Safon U neu gyfwerth, neu’n gwneud cais gyda phrofiadau bywyd eraill, caiff cymwysterau a/neu gyflawniadau celf a dylunio eraill eu hystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd, ac efallai y gwnawn roi cynnig graddedig yn lle cynnig a fydd yn defnyddio Tariff UCAS.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych yma
chwilio cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE drwy glicio
yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r
tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddewis a Diwrnodau Cyfweld:
Mae’r dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a bod yn bresennol mewn cyfweliad yr Ysgol Gelf a Dylunio.
Bydd cael eich derbyn yn y cyfweliad yn seiliedig ar dri maen prawf:
- Brwdfrydedd personol dros Gelf a Dylunio ac i gael eich trochi’n llwyr yn eu hymarfer a’u theori
- Gallu a chyrhaeddiad academaidd
- Ansawdd y gwaith, yr uchelgais a’r sgiliau a fydd wedi’u dangos mewn portffolio
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnodau Cyfweld Celf a Dylunio: cliciwch yma.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma: www.ucas.com/apply. Dylid gwneud ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i’r Brifysgol yma: www.cardiffmet.ac.uk/selfservice
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma:
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs a fydd yn derbyn mynediad i flwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais yma: tudalen cydnabod dysgu blaenorol. Cysylltwch â Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth yma.
Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i
www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.
Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Deunyddiau
Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.
Ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i
Cardiff FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i
www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.
Teithiau maes ac ymweliadau
Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.
Cysylltu â Ni