Mae Sioe Radd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer 2023.
Gydag arddangosfeydd o 13 rhaglen israddedig, bydd gwaith ein myfyrwyr ar gael ar gampws Llandaf, Prifysgol Metropolitan Caerdydd rhwng 7 a 13 Mehefin, 2023. Mae’r sioe yn rhad ac am ddim i ymweld ac ar agor rhwng 10:00-18:00 yn ystod yr wythnos, a rhwng 12:00-16:00 ar y penwythnos. Dewch i archwilio a rhyngweithio â:
- Yr heriol
- Yr amrywiol
- Y rhyfeddol
- Y chwilfrydig
- Y beiddgar
Mae Sioe Radd CSAD yn arddangosfa o waith gan fyfyrwyr blwyddyn olaf ar y rhaglenni israddedig canlynol: Animeiddio, Pensaernïaeth, Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol, Arlunydd Ddylunydd: Gwneuthurwr, Cerameg, Dylunio Ffasiwn, Celf Gain, Cyfathrebu Graffig, Darlunio, Dylunio Mewnol, Ffotograffiaeth, Dylunio Cynnyrch, a Dylunio Tecstilau.
Fel rhan o ddathliadau ar gyfer sioe radd eleni, bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Caerdydd gan gynnwys digwyddiadau golwg preifat, arddangosfeydd awyr agored a gweithdai ymarferol ble byddwch chi’n gallu gwneud potyn, dylunio a thorri bathodyn gyda laser, ac archwilio eich creadigrwydd yn ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.
Rhannwch eich profiad o Sioe Radd CSAD 2023 ar Instagram gan ddefnyddio’r hashnod
#CSAD23.
Oriau Agor
Dydd Llun-Dydd Gwener 10:00-18:00
Dydd Sadwrn-Dydd Sul 12:00-16:00
Gwelwch beth ddigwyddodd y llynedd:
Digwyddiadau Ymylol
Fel rhan o ddathliadau’r sioe radd eleni, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Caerdydd gan gynnwys dangosiadau cyhoeddus, digwyddiadau taith dywys, arddangosfeydd awyr agored a gweithdai ymarferol:
Sioe Lwyfan Dylunio Ffasiwn, Campws Llandaf
Dechreuwyd ein dathliadau #CSAD23 mewn steil gan ein Dosbarth ’23 o fyfyrwyr Dylunio Ffasiwn. Roedd modelau ar y llwyfan i arddangos penllanw tair blynedd o archwilio mewn patrwm, ffurf a swyddogaeth.
5 i 18 Mehefin – Arddangosfa Poster Canol y Ddinas
Dewch i weld arddangosfa awyr agored bythefnos o hyd sy’n cynnwys gwaith myfyrwyr o 13 o gyrsau creadigol israddedig. Bydd gwaith i’w weld ar draws 21 o leoliadau yng nghanol y ddinas o ddydd Llun 5 Mehefin tan ddydd Sul 18 Mehefin. Archwiliwch y map isod neu
cliciwch yma i lawrlwytho’r PDF.
Dydd Mercher 7 Mehefin – Noson Agoriadol, Campws Llandaf
Bydd #CSAD23 yn agor yn swyddogol ar ddydd Mercher 7 Mehefin.
Dydd Iau 8 Mehefin @ 17:30 – Dangosiad Animeiddio, Chapter Arts
Bydd ein carfan BA (Anrh) Animeiddio yn camu i’r sgrin fawr, gan arddangos eu gwaith yng nghanolfan celfyddydol annibynnol Chapter Arts.
Dydd Gwener 9 Mehefin – Digwyddiad Lansio Swyddogol, Campws Llandaf
Bydd Deon yr Ysgol Bethan Gordon yn agor #CSAD23 yn swyddogol am 6pm wrth i ni wahodd cydweithwyr o ddiwydiant a’r cyhoedd i ddod i’r digwyddiad arbennig hwn. Byddwn hefyd yn cynnal prif anerchiad gan yr athro gwadd Robert Hopkins a fydd yn rhannu manylion ei waith gyda
The Carbon Literacy Project.
Dydd Sul 11 Mehefin @ 12yp – Diwrnod Cymunedol, Campws Llandaf
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Cymunedol i brofi bywyd fel myfyriwr yn CSAD. Ar agor o 12-4yp, bydd gweithdai am ddim ar waith tan 3.30yp. Mae gweithgareddau yn addas i unrhyw un 8+ oed ac yn cynnwys:
- Creu potyn ar olwyn y crochenydd – paratoi clai, dysgu rheoli cyflymder yr olwyn, canoli’r clai a chael tro ar daflu.
- Dylunio a thorri bathodyn â laser – dylunio bathodyn, dysgu sut mae torrwr laser yn gweithio, a’i ddefnyddio i gynhyrchu eich bathodyn eich hun.
- Ffotograffiaeth ffôn gwych – awgrymiadau a thriciau am dynnu’r lluniau gorau gyda ffôn gan un o diwtoriaid ffotograffiaeth Ysgol Gelf Agored Caerdydd.
- Gweithdy paentio cydweithredol – dysgu am gymysgu lliwiau i greu siapiau a phatrymau ar eich paentiad bach eich hun, a fydd wedyn yn dod yn rhan o waith celf enfawr.
Bydd sgwrs – ‘Llwybrau at lwyddiant yng Nghelf a Dylunio’ – yn cael ei ailadrodd drwy gydol y dydd ac yn rhoi cipolwg i fynychwyr ar yrfaoedd yn y diwydiant, a bydd teithiau o’n cyfleusterau a’n gweithdai yn cael eu cynnal drwy’r dydd.