Hafan>Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Ymchwil ac Arloesedd

Ymchwil ac Arloesi yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD)

Mae staff Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn ymhél â’r broses o ddatblygu ymchwil o'r radd flaenaf a chydweithrediad ystyrlon â’r diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau cymunedol.

Cydnabuwyd hyn gan REF2021, sef asesiad annibynnol y DU o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU, a raddiodd 84% o’n hymchwil celf a Dylunio fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Roedd y cyflwyniad Celf a Dylunio hefyd yn gydradd ail am effaith, gan ddangos gwerth diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd ein hymchwil.

Trwy feithrin amgylchedd dysgu integredig a chyffrous, mae ein myfyrwyr yn teimlo budd y rhagoriaeth ymchwil ac arloesi hon yng nghyfoeth eu haddysg ac yn rhagolygon am yrfa ein graddedigion.


Graddau Ymchwil

Dysgwch ragor am y Graddau Ymchwil a gynigir.

Graddau Ymchwil ​​​
Grwpiau Ymchwil a Cwmnïau Deillio

Mae CSAD yn gartref i ganolfannau a grwpiau sy'n ymhél ag ymchwil mwyaf blaengar y byd. Grwpiau Ymchwil   ​​​

Grwpiau Ymchwil   ​​​
Arloesi

Mae CSAD yn cynnig cyfoeth o arbenigedd i ystod eang o bartneriaid allanol.

Arloesi   ​​​