Intropara
Beth yw Siarter y Myfyrwyr?
Mae Siarter y Myfyrwyr yn ddogfen bartneriaeth lefel uchel sy’n gymwys i’r corff amrywiol o fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig.
Datblygir Siarter y Myfyrwyr ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd (‘y Brifysgol’), Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr i gyflwyno’r profiad hwn i fyfyrwyr yn effeithiol fel rhan o gymuned ehangach.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu profiad i fyfyrwyr sy’n gyson â’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r blaenoriaethau a gynhwysir yng Nghynllun Strategol 2030. Fel y cyfryw, rydym yn annog bod y gwerthoedd cymunedol isod yn cael eu cynnwys drwy gydol yr holl themâu ac ymrwymiadau a amlinellir yn Siarter y Myfyrwyr:
- I greu amgylchedd diogel, sicr a chroesawgar i bawb.
- Annog cydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.
- Hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg
- Cymryd rhan mewn partneriaethau parchus a chydweithredol sy’n rhoi llais y myfyrwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a gweithredu sy’n ymwneud â phob maes o gylch bywyd myfyrwyr.
- Annog eraill i geisio cymorth priodol ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles.
- Bod yn gwrtais, yn barchus, ac yn ystyriol wrth gyfathrebu ag eraill.
- Yr hawl i ryddid mynegiant tra’n cydnabod yr un rhyddid i eraill.
- Parchu hawliau unigolion a thrin pob unigolyn ag urddas.
- Cynnal lefel o broffesiynoldeb ac ymddygiad tra yn y gymuned ehangach fel cynrychiolwyr Met Caerdydd.
Dysgu ac Addysgu
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:
- Ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu.
- Darparu dulliau newydd ac arloesol o ddysgu ac addysgu a chymorth.
- Darparu parhad dysgu os bydd aflonyddwch allanol i astudiaethau a sicrhau bod myfyrwyr yn dal i allu ymgysylltu ag asesiadau.
- Darparu adborth ar asesiadau a gweithgareddau dysgu o fewn 20 diwrnod gwaith.
- Darparu adnoddau dysgu a mannau dysgu priodol a hygyrch.
- Darparu rhaglenni astudio (a addysgir ac ymchwil) a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer canlyniadau a chyfleoedd graddedig.
- Darparu rheoliadau a pholisïau agored a thryloyw, a gwybodaeth am fodiwlau/rhaglen.
- Adolygu ei darpariaeth yn barhaus i wella ansawdd a safonau.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Hyrwyddo dulliau o ennyn diddordeb myfyrwyr.
- Gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu deialog agored, adeiladol a pharhaus rhwng myfyrwyr a staff, ac ymhlith myfyrwyr.
-
Cynnal etholiadau democrataidd i benodi arweinwyr myfyrwyr sy’n hyrwyddo hawliau myfyrwyr ac yn sicrhau partneriaeth gref ac effeithiol gyda’r Brifysgol.
Mae myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Fod yn llawn cymhelliant ac yn barod i ymgysylltu â’r rhaglen o’u dewis.
- Cyflwyno gwaith wedi’i asesu erbyn y terfyn amser gofynnol.
- Ystyried a myfyrio ar eu hymchwil eu hunain a’r adborth a dderbyniwyd gan staff academaidd.
- Gwneud defnydd llawn o’r dysgu, y gefnogaeth a’r adnoddau a ddarperir.
- Cymryd perchnogaeth o astudio annibynnol y tu allan i weithgaredd dysgu wedi’i amserlennu.
- Dilyn polisïau, a rheoliadau’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
- Deall ac osgoi llên-ladrad a mathau eraill o gamymddwyn academaidd.
Llais y Myfyrwyr a Phartneriaethau
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:
- Ddarparu cyfleoedd i godi, gwrando ac ymateb i lais y myfyrwyr.
- Cefnogi cyfranogiad effeithiol mewn datblygu, adolygu a gwerthuso rhaglenni.
- Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod ble i fynd os nad yw’r Brifysgol yn bodloni’r safonau gofynnol.
- Rheoli
gweithdrefn Cwynion ac Apeliadau Academaidd glir, sy’n cadw at ofynion Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA).
Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Werthuso a gwella cyfleoedd i godi, gwrando ac ymateb i lais y myfyrwyr.
- Gweithio ochr yn ochr â’r Brifysgol i ddiffinio a hyrwyddo ystod o ddulliau ymgysylltu, gwerthuso a gwella cyfleoedd i godi, gwrando ac ymateb i lais y myfyrwyr.
- Hwyluso
system gynrychioliadol, wedi’i gwreiddio ar bob lefel o’r Brifysgol i sicrhau bod materion a syniadau myfyrwyr yn cael eu codi’n brydlon a bod y ddolen adborth wedi’i chau.
- Darparu
cefnogaeth a chynrychiolaeth i fyfyrwyr unigol a grwpiau o fyfyrwyr sy’n destun gweithdrefnau’r brifysgol pan ofynnir amdanynt.
- Darparu cynrychiolaeth trwy Swyddog y Gymraeg UM i sicrhau bod materion a syniadau myfyrwyr yn cael eu codi’n brydlon a bod y ddolen adborth ar gau i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Gymryd rhan mewn prosesau sydd wedi’u cynllunio i gael adborth gan fyfyrwyr a graddedigion.
- Peidio â gwneud cwynion neu honiadau maleisus neu afresymol.
Cefnogaeth a Lles
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:
- Ddatblygu a darparu cymorth ac ymyriadau priodol i gefnogi a chynnal iechyd meddwl a lles myfyrwyr, gan adeiladu ar ddysgu proses hunanasesu ‘StepChange’.
- Bydd y Gwasanaeth Lles yn cysylltu â myfyrwyr unwaith y byddant wedi gwneud cais am gymorth neu ar ôl derbyn adroddiad Achos Pryder. Gwneir tri chynnig i gysylltu â myfyrwyr trwy e-bost, ffôn a Microsoft Teams.
- Cyflawni ei chyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb a diogelu i ddarparu amgylchedd dysgu diogel, gan gynnwys dulliau mwy diogel o ddelio â hunan-laddiad.
- Datblygu Rhaglen ar gyfer gweithredu polisïau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Darparu
gwasanaethau proffesiynol sy’n gwella profiad myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i’r myfyrwyr hynny sydd angen cymorth ychwanegol.
- Darparu gwybodaeth am ble y gall myfyrwyr gael mynediad at
gymorth ariannol.
- Darparu mynediad at
wasanaethau cymorth Cymraeg gan gynnwys cwnsela, tiwtoriaid personol a cheisiadau am gymorth ariannol.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Gynnal ymgyrchoedd a digwyddiadau perthnasol a defnyddiol trwy gydol cylch bywyd myfyrwyr.
- Cynhyrchu datganiad Ymrwymiad Cynhwysiant Amrywiaeth blynyddol a fydd yn amlinellu meysydd ffocws i hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
- Hyrwyddo ymgyrch sy’n mynd i’r afael â’r mythau a’r stereoteipiau ynghylch camymddwyn rhywiol, a grymuso cymuned Met Caerdydd i sefyll yn erbyn yr ymddygiad hwn
#DimEsgus.
- Darparu
cymorth bugeiliol i fyfyrwyr, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau proffesiynol.
Mae myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Ymgysylltu’n weithredol â’u Tiwtor Personol dynodedig a mynychu apwyntiadau a drefnwyd.
- Cadw at holl reoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol, a dilyn yr egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad Myfyrwyr.
- Bod yn gyfrifol wrth fynd ati’n rhagweithiol i geisio cymorth amserol ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles.
- Bod yn gyfrifol am ddatgelu ac adrodd am honiadau o gamymddwyn a cham-drin rhywiol.
- Cydnabod pan fydd amgylchiadau’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles a gofyn am gymorth gan y gwasanaeth cymorth priodol.
Cyfathrebu
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:
- Gadw at rwymedigaethau a amlinellwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), a diogelu buddiannau myfyrwyr.
- Ymateb i ohebiaeth gan fyfyrwyr mewn modd amserol.
- Sicrhau ansawdd swyddogaeth TG Moodle a MetCanolog i sicrhau amseroldeb y cynnwys arno i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr.
- Cadw gwybodaeth myfyrwyr yn gyfrinachol yn unol â chyfreithiau diogelu data.
- Darparu manylion am
gostau astudio.
- Gweithredu gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.
- Cyfathrebu â myfyrwyr yn eu dewis iaith (Cymraeg, Saesneg neu Ddwyieithog).
Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Ddarparu ystod o gyfryngau i sicrhau cyfathrebu effeithiol, amserol a pherthnasol gan Undeb y Myfyrwyr.
- Cadw gwybodaeth myfyrwyr yn gyfrinachol yn unol â chyfreithiau diogelu data.
- Sicrhau y gwrandewir ar lais y myfyriwr ac yr ymatebir iddo mewn modd amserol.
Mae myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Ymgyfarwyddo â’r polisïau sy’n ymwneud â chyfathrebu, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol personol.
- Gwirio pob e-bost a chyfathrebiad gan y Brifysgol yn rheolaidd ac ymateb neu weithredu yn ôl yr angen.
- Gwirio Moodle a MetCanolog yn rheolaidd am ddiweddariadau a chyhoeddiadau a chwblhewch unrhyw dasgau mewn modd amserol.
- Cadw eu manylion cyswllt yn gyfredol.
- Ymgyfarwyddo â gwybodaeth sydd ar gael am ffioedd cwrs a chostau astudio cysylltiedig.
- Talu ffioedd dysgu a chostau eraill o fewn yr amserlen berthnasol.
- Hysbysu’r Brifysgol pa iaith yr hoffent dderbyn gohebiaeth gan y Brifysgol (Cymraeg neu Saesneg).
Datblygiad Personol a Phroffesiynol
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:
Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Ddarparu amrywiaeth o
glybiau Chwaraeon UM, Cymdeithasau UM, digwyddiadau cymdeithasol, a chyfleoedd datblygiad personol.
- Darparu gofnodion cywir o fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd UM i’w cofnodi ar yr HEAR.
- Cyflwyno Gwobr Met Caerdydd i gynnig datblygiad personol a phroffesiynol y tu allan i astudiaethau academaidd.
Mae myfyrwyr yn ymrwymo i:
- Gymryd rhan yn y cyfleoedd cymdeithasol ac allgyrsiol.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau a gymeradwyir gan
HEAR i ehangu eu set sgiliau, gan hybu eu datblygiad personol a phroffesiynol.
- Ymgyfarwyddo ag unrhyw godau proffesiynol perthnasol a dilyn unrhyw safonau penodol.
Cymhwysiad
Mae’r Siarter Myfyrwyr hon yn berthnasol i bob myfyriwr sy’n cofrestru ar raglen astudio yn 2023/24.
Gellir dod o hyd i Siarter y Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen yn y flwyddyn flaenorol trwy’r ddolen ganlynol:
Student Charter 2022-2023
Datganiad Diogelu’r Myfyrwyr
Bydd y Brifysgol yn gwasanaethu ei rhwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr ac yn cydymffurfio â’i hymrwymiadau o dan gyfraith defnyddwyr fel yr amlinellwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Wrth wneud hynny, bydd prifysgolion yn gweithio i ddiogelu buddiannau myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau megis newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff cwrs ei gyflwyno neu gwrs yn cau. Mae gan y brifysgol weithdrefnau ar waith i ymateb i’r amgylchiadau hyn a fydd yn lliniaru’r effaith bosibl ar fyfyrwyr, ac sy’n cydnabod anghenion gwahanol ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter hon, cysylltwch â: