Y Canghellor
Stephen Wordsworth CMG LVO
Y Canghellor yw pennaeth seremonïol Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cefndir
Cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol y Cyngor ar gyfer Academyddion Risg (Cara) yn 2012, cafodd Stephen yrfa nodedig mewn diplomyddiaeth. Ymunodd Stephen â'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad am y tro cyntaf ym 1977, ac aeth Stephen ymlaen i wasanaethu ym Moscow, Nigeria, yr Almaen ac yn NATO, cyn dod yn Llysgennad y DU i Serbia.
Ym 1992, penodwyd Stephen yn Rhaglaw Urdd Frenhinol Fictoria (LVO) gan Ei Mawrhydi'r Frenhines, am ei ran yn sefydliad Ymweliad Gwladol cyntaf y Frenhines i'r Almaen adunodd yn ystod yr un flwyddyn. Yna, yn 2011, gwnaed Stephen yn Gydymaith Urdd St Michael & St George (CMG).
Ar ôl gadael y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, ymunodd Stephen â Cara. Sefydlwyd Cara yn 1933 mewn ymateb i benderfyniad y Natsïaid i ddiarddel, am resymau hiliol, academyddion blaenllaw o'r Almaen. Nawr, mae'r elusen, gyda chefnogaeth partneriaid prifysgol y DU ac eraill, yn darparu noddfa i academyddion a'u teuluoedd sy'n ffoi rhag erledigaeth a thrais mewn gwledydd fel Syria, Affganistan, ac Wcráin. Gallwch ddarllen am berthynas Met Caerdydd gyda Cara ar ein tudalennau newyddion.
Mae Stephen hefyd wedi dal amryw o swyddi gwirfoddol, megis Is-gadeirydd Clymblaid Fyd-eang o Efrog Newydd i Amddiffyn Addysg rhag Ymosodiad, ac Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor a Sefydliad Slynn.
Mae gyrfa fyd-eang nodedig Stephen a'i wreiddiau Cymreig (ar ôl cael ei eni ym Mhort Talbot) yn ei wneud yn ychwanegiad arbennig i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn gynrychiolydd iddo. Gyda gwerthoedd, nodau, a chysylltiadau diwylliannol Met Caerdydd â'n rhwydwaith rhyngwladol helaeth, mae Stephen yn cyd-fynd yn dda â bod yn Ganghellor ein Prifysgol.
Dirprwy Ganghellor a Llywydd Anrhydeddus
Ar Ebrill 1af 1996 penderfynodd Bwrdd y Llywodraethwyr benodi Llywydd y Brifysgol ac i wahodd Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd yn rhinwedd ei swydd i fod yn ddeiliad y swydd honno. Ar Orffennaf 7fed 2015, wedi penderfynu creu swydd Canghellor y Brifysgol, penderfynodd Bwrdd y Llywodraethwyr benodi hefyd Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd yn rhinwedd ei swydd yn Ddirprwy Ganghellor a Llywydd Anrhydeddus.
Y Cynghorydd Dianne Elizabeth Rees yw'r Dirprwy Ganghellor a'r Llywydd Anrhydeddus ar hyn o bryd am y flwyddyn 2018/2019. A hithau'n Arglwydd Faer, y Cynghorydd Rees yw Prif Ddinesydd Caerdydd a'r llysgennad sy'n arwain gweithgareddau dinesig y Ddinas.