Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)

 

Dogfen electronig ddilys yw’r HEAR sy'n cofnodi cyflawniadau academaidd, ynghyd ag ystod o weithgareddau y gall myfyrwyr fod eisiau cymryd rhan ynddynt fel rhan o'u profiad ym Met Caerdydd. Mae'r HEAR ar gael i fyfyrwyr Israddedig, Ôl-raddedig a Gradd Sylfaen sydd wedi astudio ar gampws Caerdydd ers mis Gorffennaf 2016. 

Mae Met Caerdydd yn credu bod cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, ochr yn ochr â chyrhaeddiad academaidd, yn galluogi myfyrwyr i ehangu eu sgiliau, gan hyrwyddo eu datblygiad personol a phroffesiynol. Mae cydnabod y gweithgareddau allgyrsiol hyn yn ychwanegu gwerth at brofiad y myfyrwyr. Mae'r HEAR yn darparu cofnod o'r gweithgareddau hyn ac yn rhoi darlun mwy cyfannol o gyflawniadau myfyrwyr a’u hamser yn y brifysgol.  

HEAR ar gyfer Fyfyrwyr

Mae Met Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Gradintel i ddarparu HEAR ichi. Mae'r HEAR ar gael i'r myfyrwyr hynny sy'n astudio rhaglenni Israddedig ac Ôl-raddedig a gyflwynir ar ein campysau Caerdydd. Byddwn yn eich cofrestru’n awtomatig gyda Gradintel a byddwn yn creu cyfrif ar eich rhan. Pan fydd yr amser iawn wedi dod, byddwn yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost Met Caerdydd gyda dolen ichi actifadu eich cyfrif.  

Mae Met Caerdydd wedi dewis yn ofalus ddilyniant o weithgareddau y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd. Ar ôl eu cwblhau, bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn adran gweithgareddau allgyrsiol eich HEAR. Mae Met Caerdydd yn annog myfyrwyr yn gryf i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyd-fynd â'u diddordebau/nodau: gwella eu profiad prifysgol wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth amhrisiadwy ar gyfer eu dyfodol. 

Gellir dod o hyd i restr o weithgareddau wedi'u gwirio yma 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn 



HEAR ar gyfer Staff

Os ydych chi’n aelod o staff Met Caerdydd ac yn credu bod gennych weithgaredd y dylid ei gynnwys, ewch i Adran 6.1 yr HEAR

HEAR ar gyfer Graddedigion

Gan mai dogfen electronig yw'r HEAR, mae'n galluogi myfyrwyr i rannu manylion am eu gweithgareddau academaidd ac allgyrsiol a gyflawnwyd gyda darpar gyflogwyr neu ddarparwyr addysg.

Bydd myfyrwyr Israddedig, Ôl-raddedig a Gradd Sylfaen a gwblhaodd eu hastudiaethau ar un o'n Campysau Caerdydd hefyd yn derbyn tystysgrif electronig. 

Bydd yr holl fyfyrwyr cymwys yn derbyn e-bost a anfonwyd at eu cyfeiriad e-bost Met Caerdydd cyn cwblhau eu hastudiaethau, gyda dolen i actifadu eu cyfrif Gradintel. Byddwch yn gallu gweld eich HEAR a'ch tystysgrif electronig trwy fewngofnodi i'ch cyfrif Gradintel ar www.gradintel.com. Os na allwch gofio eich manylion mewngofnodi mwyach, ewch i www.gradintel.com, cliciwch ar ‘lost account details’ a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair. 

Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr HEAR.

Os ydych chi wedi colli’r e-bost hwn, cliciwch yma 

HEAR ar gyfer Cyflogwyr

Cofnod cynhwysfawr o gyrhaeddiad myfyrwyr mewn Prifysgol yn y DU yw'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR). Gallwch ddarllen rhagor am hyn yma: www.hear.ac.uk 

Os bydd un o raddedigion Met Caerdydd yn gwneud cais i weithio ichi, ac yn rhoi mynediad ichi at ei HEAR, byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i weld y ddogfen. Byddwch nid yn unig yn gallu gweld dadansoddiad llawn o farciau myfyriwr trwy gydol ei gwrs yn y Brifysgol, ond hefyd manylion wedi'u gwirio am amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol megis chwaraeon, dyfarniadau, gwobrau a chynrychiolaeth myfyrwyr.

Mae Met Caerdydd yn ymfalchïo mewn datblygu graddedigion cyflawn sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phriodoleddau ar ben eu cyflawniadau academaidd.

Dewiswyd y gweithgareddau hyn oherwydd ein bod ni’n credu eu bod nhw’n helpu ein myfyrwyr i ddatblygu nodweddion sy'n bwysig yn eu datblygiad personol a phroffesiynol. 
Cwestiynau Cyffredin Gweithgareddau wedi'u Gwirio
Related Links