Cwynion

​​​​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd uchel i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd. Yn hanfodol i hyn mae monitro a gwerthuso'r gwasanaethau hynny er mwyn gwella ansawdd ac er mwyn sicrhau bod safonau penodol yn cael eu bodloni.

Mae gennym amrywiaeth o fecanweithiau ar waith er mwyn sicrhau bod myfyrwyr, staff a'r cyhoedd yn cael cyfle i gymryd rhan lawn yn natblygiad a gwelliant gwasanaethau a disgwylir y bydd pawb yn manteisio i'r eithaf ar y rhain wrth fynegi eu barn.

Rydym yn cydnabod y gall fod adegau pan nad yw mecanweithiau adborth yn ddigonol i ddelio â phroblemau. Dyma’r rheswm y sefydlwyd Gweithdrefn Gwynion. Dylid defnyddio'r Weithdrefn Gwynion pan nad yw ymdrechion anffurfiol i ddatrys y mater o fewn yr Ysgol neu'r Uned wedi datrys y mater.

Mae cyngor gweithdrefnol ar gael gan y Swyddog Cwynion y gellir cysylltu â nhw ar e-bost yn complaints@cardiffmet.ac.uk, ac mae cefnogaeth a chyngor annibynnol ar gyflwyno cwyn hefyd ar gael i fyfyrwyr gan Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd.

​​​Ffurflen Gwynion: Cymraeg | Saesneg
Gweithdrefn Gwynion: Cymraeg | Saesneg
Gweithdrefn Gwynion (Ymgeiswyr): Cymraeg | Saesneg​


Ffurflen Gwynion Ar-lein ​​​