Mae ein Bwrdd Llywodraethwyr yn cynnwys aelodau allanol a mewnol, gyda'r mwyafrif yn aelodau lleyg; mae ganddynt gyfrifoldeb am gymeriad addysgol a chenhadaeth ein prifysgol, yn ogystal â bod â goruchwyliaeth o'i gweithgareddau.
Mae swyddogaethau allweddol y Bwrdd yn cynnwys ystyried a chymeradwyo ein cynllun strategol, sy'n gosod nodau ac amcanion ein prifysgol, a goruchwylio'r strategaethau ariannol, corfforol a staffio sy'n angenrheidiol i gyflawni'r cynllun hwn.
Gellir cael manylion am waith Bwrdd y Llywodraethwyr a chyfleoedd i fod yn aelod gan Ysgrifennydd y Brifysgol a Chlerc i Fwrdd y Llywodraethwyr.
Yn y flwyddyn academaidd 22/23 mae gan Fwrdd y Llywodraethwyr chwe phwyllgor:
- Pwyllgor Archwilio
- Campws 2030 (Bwrdd Rhaglen)
- Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau
- Pwyllgor Taliadau
- Pwyllgor Adnoddau
- Pwyllgor Cynllunio a Pherfformiad Strategol
Dogfennau Allweddol a Chofnodion