Ffioedd a Chyllid>Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau>Welsh Medium Provision Scholarships

Ysgoloriaethau Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysgol rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi datblygu cwricwlwm academaidd a galwedigaethol eang trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae nifer o’n cyrsiau’n gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r Brif Ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio o leiaf 80 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n werth £1000 y flwyddyn.

Mae’r Ysgoloriaeth Cymhelliant, sy’n ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg, werth hyd at £500 y flwyddyn.

Cynigir 10 ysgoloriaeth Meistr bob blwyddyn.

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau i ddinasyddion o Gymru sy’n astudio gradd Meistr neu Ddoethuriaeth ac yn darparu hyd at £5,000 ar gyfer talu ffioedd dysgu.

I ganfod pa gyrsiau sy’n cynnig modiwlau y gallwch eu hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg cliciwch yma.