Ffioedd a Chyllid>Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau>Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Israddedig

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Israddedig

​​Er mwyn cynorthwyo gyda chost astudio yn y Brifysgol, mae Met Caerdydd wedi creu ystod o gynlluniau bwrsariaeth ac ysgoloriaeth.


​Bwrsariaeth Gofalwyr

Trosolwg o'r Dyfarniad 
Dyfarniad arian parod gwerth hyd at £1000.
Pwy all wneud cais? 
Ymgeiswyr israddedig Cartref sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed, ymdopi heb eu cymorth.
Mwy o wybodaeth 

Bwrsariaeth Myfyrwyr sy'n Gadael Gofal a Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio  

Trosolwg o'r Dyfarniad 
Dyfarniad arian parod gwerth hyd at £1000 y flwyddyn.
Pwy all wneud cais? 
Ymgeiswyr israddedig Cartref o gefndir gofal, neu'r rhai sy’n ymgeisio heb gymorth rhwydwaith teuluol.
Mwy o wybodaeth 

Ysgoloriaethau Perfformiad a Chwaraeon Elitaidd

Trosolwg o'r Dyfarniad 
Pecyn cymorth wedi'i deilwra gwerth hyd at £5000 y flwyddyn.
Pwy all wneud cais? 
Ymgeiswyr israddedig Cartref/UE/Rhyngwladol sy'n rhagori yn y gamp o'u dewis (gan gynnwys perfformiad a/neu hyfforddi). 
Mwy o wybodaeth
Trosolwg o'r Dyfarniad 
Darparu tocyn bws Met Rider, taleb arlwyo a dileu ffioedd dysgu’n llawn.
Pwy all wneud cais? 

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU. 

Mwy o wybodaeth

Gwobr Bywyd Astudio

Trosolwg o'r Dyfarniad 
Dyfarniad gwerth hyd at £950 y flwyddyn.
Pwy all wneud cais? 
Ymgeiswyr israddedig Cartref sy'n byw mewn cymdogaethau cyfranogiad isel mewn Addysg Uwch dynodedig, sydd ag incwm aelwyd o dan £30,000.
Mwy o wybodaeth


Nid yw'r Gwobr Cynnydd yn ysgoloriaeth sydd wedi'i hysbysebu, ond, os ydych chi wedi derbyn y wobr gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma.

Os ydych chi'n dilyn cwrs a ariennir gan y GIG, gallwch ddod o hyd i fanylion Bwrsariaeth y GIG a chymorth ychwanegol gan Met Caerdydd yma.

Os ydych chi'n Fyfyriwr Rhyngwladol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Rhyngwladolyma.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gallech ffeindio mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yma.

Os ydych chi'n wynebu anawsterau ariannol, mae gennym Gynghorwyr dynodedig yn ein Tîm Cyngor Arian sy'n gallu cynnig cyngor ar gyllid, cyllidebu a rheoli arian, a chymorth ariannol.

 

Opsiynau Bwrsariaeth Allanol Eraill

Y tu allan i Met Caerdydd, gall fod opsiynau cyllido ar gael i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Rydym wedi rhestru rhai o'r opsiynau y daethom o hyd iddynt sydd ar gael yma.



​Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar scholarship@cardiffmet.ac.uk

Sylwer, defnyddir unrhyw wybodaeth a roddwch i ni o ran y bwrsariaethau ac ysgoloriaethau uchod ar gyfer asesu cymhwysedd dyfarniadau, dyraniad dyfarniadau a phroses dderbyn y Brifysgol. Mae eich asesiad cymhwysedd dyfarniadau yn gyffredinol dim ond yn cael ei weld gan staff cymorth bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Er, mewn rhai sefyllfaoedd, gall staff eraill y brifysgol weld eich cais/asesiad dyfarniad a gwybodaeth berthnasol, os oes rhaid ar gyfer y pwrpas o asesu, gweithredu gwobr, neu er mwyn darparu cymorth pellach. Er enghraifft, gellir rhanni gwybodaeth mewn achos ble mae’r wobr yn cael ei chydweinyddu gydag Ysgol academaidd neu adran, neu gyda Cofrestru, Cyllid, neu Gwasanaethau Masnachol er mwyn gweithredu eich gwobr, neu gyda chydweithwyr mewn Gwasanaethau Myfyrwyr ynglŷn â darparu cymorth.


Dyfernir y grant/cymorth ariannol hwn yn unol â gofynion ein Polisi Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.