Mae'r Wobr Cynnydd 2024/25 ar gyfer rhai sydd wedi enill graddau uchel ym Mlwyddyn 1 eu cwrs yn 2024.
Mae’r wobr hon ar gyfer myfyrwyr presennol sydd wedi cofrestru ar gyrsiau israddedig ail flwyddyn, a gwblhaodd Blwyddyn 1 yn 2024, sydd â chyfeiriad parhaol mewn ardal sydd â'r cyfraddau cyfranogiad isaf mewn Addysg Uwch yn ôl diffiniad y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch ar gyfer naill ai Cymru (CCAUC) neu Loegr (CCAULl).
Pecyn Gwobr
Gwobr arian parod o £1,000 yw’r Wobr Cynnydd.
Cymhwystra
Mae’r wobr hon ar gyfer myfyrwyr
Cartref sy’n talu ffioedd.
Mae’r wobr hon ar gyfer
myfyrwyr presennol sydd wedi cofrestru ar
gyrsiau israddedig ail flwyddyn,
a gwblhaodd Blwyddyn 1 yn 2024, sydd â chyfeiriad parhaol mewn ardal sydd â'r
cyfraddau cyfranogiad isaf mewn Addysg Uwch yn ôl diffiniad y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch ar gyfer naill ai Cymru (CCAUC) neu Loegr (CCAULl).
Dim ond ar gyfer Gwobr Cynnydd a ddyrennir i’r ysgol academaidd yr ydych chi wedi ei chofrestru ynddi y cewch eich ystyried.
Nifer cyfyngedig o’r wobr hon sydd ar gael. Rhoddir blaenoriaeth dyrannu i’r rheiny sydd â’r marciau canran uchaf ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2023/24.
Telerau ac Amodau
Gweler y
Telerau ac Amodau ar gyfer cymhwysedd llawn. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y telerau ac amodau i ddeall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Gwobr Cynnydd yn llawn.
Anfonir gohebiaeth am y wobr at eich
cyfeiriad e-bost myfyriwr gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Bydd rhaid i fyfyrwyr llwyddiannus cwblhau ffurfflen arlein, sy'n cynnwys gwybodaeth Diogelu Data.
Sut i Ymgeisio
Nid oes angen cais penodol. Cafodd pob myfyriwr sydd wedi cyrraedd y meini prawf cymhwystra ei ystyried.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Wobr Cynnydd, cysylltwch â scholarship@cardiffmet.ac.uk.