Diffinnir rhywun sy’n gadael gofal fel person 25 oed neu iau, sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ers iddo fod yn 14 oed.
Rhywun sy’n astudio heb gefnogaeth rhwydwaith teuluol ac sydd wedi ymddieithrio'n anghymodlon oddi wrth ei rieni yw myfyriwr sydd wedi ymddieithrio. Nid oes gan fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio unrhyw berthynas gyfathrebol â'u rhieni mabwysiadol neu fiolegol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth hon fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, rhaid ichi fodloni'r diffiniad hwn erbyn dyddiad dechrau eich cwrs.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth hon, cysylltwch ag Emma Cook yn uniongyrchol ar
ecook@cardiffmet.ac.uk.
Ydych chi'n Gymwys i gael Cymorth
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sy’n Gadael Gofal ac sydd Wedi Ymddieithrio, rhaid ichi:
- fod yn
breswylydd parhaol yn y DU
- gael eich ystyried yn fyfyriwr 'Cartref' (at ddibenion Ffioedd Dysgu)
- fod yn fyfyriwr newydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n gwneud cais drwy UCAS, ac sy’n dechrau ar gwrs israddedig llawn amser ym mlwyddyn un neu lefel sylfaen sy'n cychwyn yn 2023. (Gallwch hefyd fod yn gymwys os byddwch yn cychwyn eich ail neu drydedd flwyddyn o gwrs masnachfraint Prifysgol Metropolitan Caerdydd (e.e. HND neu gwrs gradd Sylfaen mewn darparwr arall), gan mai hwn fydd eich tro cyntaf yn mynychu campws Prifysgol Metropolitan Caerdydd). Cysylltwch â ni os yw hyn yn berthnasol i chi.
- fod yn 25 oed neu'n iau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd (1af Medi)
- allu darparu manylion eich gweithiwr cymorth neu weithiwr proffesiynol sy'n eich adnabod ac sydd wedi bod yn ymwybodol o'ch sefyllfa
- Os ydych chi'n fyfyriwr sydd wedi ymddieithrio, bydd angen ichi:
- fod wedi ymddieithrio'n anghymodlon oddi wrth eich rhieni cyn dechrau ar eich cwrs
- Os ydych yn berson sy'n gadael gofal, bydd angen ichi:
- fod wedi bod mewn gofal ers ichi fod yn 14 oed am 13 wythnos o leiaf
Ein Pecyn Cymorth
Rydym yn darparu pecyn cymorth a fydd yn eich helpu drwy gydol eich amser yn y Brifysgol.
Cyfarfod Cymorth Cyn Cychwyn
Cyn cychwyn ar eich cwrs ym Met Caerdydd (cyn cofrestru), gallwch gwrdd â'n mentor staff penodedig i drafod unrhyw gymorth yr ydych chi'n credu y gallai fod ei angen arnoch chi.
Gallwn hefyd drefnu bod eich gweithiwr cymorth, cynrychiolwyr o'n tîm llety, a'r Ysgol y byddwch chi'n ymuno â hi yn mynychu. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle ichi holi unrhyw gwestiynau a allai fod gennych cyn dechrau eich cwrs.
Mentor Staff Penodedig
Bydd gennych fentor staff penodedig a all eich cefnogi a'ch cynghori ar bob agwedd ar fywyd prifysgol.
Gallant weithredu fel cyswllt rhyngoch chi, eich awdurdod lleol a'r Brifysgol i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth a chyllid sydd ar gael ichi.
Cymorth Ariannol
Fe efallai'r Fwrsariaeth o hyd at £1,000 y flwyddyn i Fyfyrwyr sy’n Gadael Gofal ac sydd Wedi Ymddieithrio (na fyddai angen ichi ei dalu'n ôl) fod ar gael i'ch helpu chi tra byddwch yn y Brifysgol, os ydych chi’n cwrdd â meini prawf cymhwysedd y dyfarniad.
Bydd myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sy’n Gadael Gofal ac sydd Wedi Ymddieithrio hefyd yn derbyn y Wobr Bywyd Astudio (gweler y telerau ac amodau Bywyd Astudio llawn i gael gwybodaeth ar sut i barhau i fod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad hwn).
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor ariannol a llesiant llawn i'ch helpu chi ag unrhyw ymholiadau ariannol a allai fod gennych. Siaradwch â'ch mentor staff penodedig i gael mwy o wybodaeth.
Llety
Gallwn ddarparu llety ichi trwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys yn ystod gwyliau'r Nadolig, y Pasg a'r haf) mewn neuaddau preswyl addas, trwy gydol eich cwrs. Bydd ein tîm llety'n cysylltu â chi / eich gweithiwr cymorth i drafod hyn ymhellach ar ôl ichi wneud eich cais.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalennau gwe llety.
Cymorth Ychwanegol
Rydym yn cynnig casgliad ehangach o gymorth i helpu myfyrwyr ag amrywiaeth o anghenion. Gallwn gynnig cymorth anabledd ac iechyd meddwl a gwybodaeth anacademaidd yn gysylltiedig â'ch astudiaethau.
Gall eich mentor staff penodedig hefyd roi mwy o fanylion ichi am y cymorth sydd ar gael ichi.
Ystyriwch y cymorth ychwanegol isod, p’un a ydych chi’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sy’n Gadael Gofal ac sydd Wedi Ymddieithrio neu beidio.
Become yw’r elusen i blant mewn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae llu o gymorth ar gael ar eu
gwefan, o hyfforddiant am ddim, cyswllt wythnosol, taflenni ffeithiau gofal a llinell gyngor. Become sy’n rhedeg
Propel hefyd, gwefan chwiliadwy i bobl sy’n gadael gofal sy’n darparu gwybodaeth ar y cymorth sydd ar gael mewn prifysgolion ledled y DU.
Mae’r
Rees Foundation yn darparu rhwydwaith cymorth gydol oes i helpu pobl â phrofiad o fod mewn gofal i ffynnu, gan gynnig help a chyngor trwy eu prosiectau niferus, a chysylltiadau defnyddiol.
Mae
Voices From Care Cymru (VFCC) yn cynnig cymorth i’r sawl sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy’n byw yng Nghymru. Mae VFCC yn cynnig gwasanaeth lles, cymorth gan gymheiriaid, y cyfle i fynychu digwyddiadau a chynadleddau, cymryd rhan mewn hyfforddiant, a llawer mwy.
Mae
YMCA yn cynnig cymorth a chyngor i bobl ifanc, gwasanaethau teuluol, iechyd a lles, a hyfforddiant ac addysg.
Cysylltu â Ni