Ar ôl i chi Wneud Cais

​Ar ôl derbyn cynnig gan Met Caerdydd, dylech ddefnyddio'r adran hon i ddod o hyd i fanylion ynglŷn â phopeth a ddisgwylir gennych rhwng nawr a dechrau eich rhaglen.​

Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch ar adegau pwysig drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â’ch cais - felly daliwch i wirio'r e-byst hynny! Cofiwch hefyd ei bod yn bosibl i’n negeseuon e-bost ymddangos yn eich ffolderau 'Spam' neu 'Sbwriel', felly gwiriwch y rhain i osgoi colli unrhyw wybodaeth allweddol am eich cais.

Os byddwch chi'n newid eich manylion cyswllt, mae'n bwysig eich bod chi'n diweddaru'r rhain gydag UCAS rhag i chi fethu unrhyw wybodaeth bwysig. Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gellwch gysylltu â Derbyniadau ar 029 2041 6010, neu e-bostio askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu drwy drydar @CMetAdmissions. 

Deall Eich Cynnig

Gellwch weld  amodau eich cynnig yn y llythyr cynnig a anfonwyd atoch gan Met Caerdydd.

Os yw eich cynnig yn Amodol ar eich astudiaethau cyfredol, h.y. ar hyn o bryd rydych chi'n ymgymryd â Safon Uwch, BTEC, Mynediad, ac ati. Dylai Derbyniadau eu derbyn yn awtomatig yn ystod yr haf, ar yr amod bod eich Ysgol neu Goleg wedi hysbysu UCAS. Mae angen sganio tystiolaeth o gymwysterau a enillwyd eisoes, megis TGAU, a'u hanfon dros e-bost at Derbyniadau ar offers@cardiffmet.ac.uk​ i’w gwirio.

Os yw eich cynnig yn amodol ar brawf o gymwysterau yn unig, mae angen i chi anfon bob
cymwysterau a nodirr ar eich cais UCAS at Derbyniadau. Gallwch wneud hyn trwy sganio'ch tystysgrifau a'u hanfon dros e-bost at offers@cardiffmet.ac.uk. Fel arall, gwllwch eu cyflwyno drwy un o'n  i-zone's au:

  • i-zone Prif Dderbynfa Campws Llandaf, Llandaf, 200 Western Avenue, CF5 2YB
  • i-zone Prif Dderbynfa Campws Cyncoed, Cyncoed, Cyncoed Road, CF23 6XD

Er ein bod yn derbyn llungopïau o dystysgrifau, gallwn ofyn am y rhai gwreiddiol os nad yw'r rhain yn cael eu hystyried yn ddigonol. Os ydych chi'n anfon eich datganiad canlyniadau yn hytrach na thystysgrifau, RHAID i'r Ysgol neu'r Coleg lofnodi a stampio'r dogfennau hyn.​

Os oes angen datgeliad DBS ar gyfer eich rhaglen, bydd hyn hefyd yn amod o'ch cynnig. Fe'ch hysbysir drwy e-bost pryd a sut  y dylech gwblhau'r broses hon ar ôl i chi  ddewis Met Caerdydd fel eich dewis Cadarn. I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar broses ymgeisio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/dbs.

Os ydych wedi dewis rhaglen radd a ariennir gan Fwrsariaeth y GIG, bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda GIG Cymru drwy BOSS (System Gymorth Bwrsariaeth Ar-lein),  ar yr amod eich bod wedi dewis Met Caerdydd fel eich dewis Cadarn.

Os ydych wedi dewis rhaglen sy'n gofyn am Sgrinio Iechyd Galwedigaethol, fe’ch hysbysir o hyn yn eich amodau cynnig, ac ar ôl i chi ein dewis ni fel eich dewis Cadarn, anfonir y manylion atoch yn electronig.

Os byddwch o dan 18 oed pan fyddwch yn cyrraedd y campws, bydd angen i chi lenwi ein Ffurflen Cydsynio, fel y nodir ym manylion eich cynnig. Gellwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein polisi myfyrwyr dan 18 oed a'r ffurflen berthnasol i'w chwblhau yma

Cynigion ar gyfer cyrsiau a gynhelir yn CAVC neu Pen-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi wedi derbyn cynnig gan un o'n colegau partner - Coleg Caerdydd a'r Fro neu Goleg Pen-y-bont ar Ogwr - bydd angen i chi fod yn ymwybodol o leoliad eich cwrs. Mae'r cyrsiau hyn wedi eu lleoli yn y coleg ei hun yn hytrach nag ar brif gampws Met Caerdydd. Rydym wedi rhestru'r lleoliadau isod ar eich cyfer gyda manylion cyswllt os oes gennych unrhyw ymholiadau.


Coleg Pen-y-bont ar Ogwr


LleoliadCyswllt Cwrs
​BA (Hons) Photographic Practice​Arts Academy
45 Trade Street (CF10 5DJ)
​Shaun McDermott
smcdermott@bridgend.ac.uk
BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol​Campws Ffordd y Frenhines (CF31 3UT)Roy Mayo
rmayo@bridgend.ac.uk

 


LleoliadCyswllt Cwrs
Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon​Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Lecwith (CF11 8AZ)​Kayley John 
kjohn@cavc.ac.uk
​Gradd  Sylfaen mewn Cyflyru Chwaraeon, Adsefydlu a Thylino​Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Leckwith (CF11 8AZ)​Wesley Sleat
wsleat@cavc.ac.uk
Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Tecstilau CyfoesCampws y Barri
Ffordd Colcot (CF62 8YJ)
​info@cavc.ac.uk
02920 250250
Gradd Sylfaen mewn Cyfathrebu GraffigCampws Canol Dinas Caerdydd
Ffordd Dumballs (CF10 5FE)
​info@cavc.ac.uk
02920 250250
Gradd Sylfaen mewn Dylunio Cynnyrch​Campws Canol Dinas Caerdydd
Ffordd Dumballs (CF10 5FE)
​info@cavc.ac.uk
02920 250250
​Gradd Sylfaen mewn Serameg​Campws y Barri
Ffordd Colcot (CF62 8YJ)
​info@cavc.ac.uk
02920 250250



Cynlluniwr Ymgeisydd

Rydym wedi creu Cynlluniwr Ymgeisydd defnyddiol i chi ei ddefnyddio fel cyfeirnod trwy'r flwyddyn i sicrhau nad ydych yn colli dyddiad cau pwysig trwy gydol y cylch ymgeisio israddedig. Os ydych chi'n dal cynnig gyda ni ar hyn o bryd, dylech chi hefyd fod wedi derbyn y cynlluniwr ymgeisydd yn y post gyda'ch llythyr cynnig. 

Cymwysterau

Ar ôl i chi dderbyn cynnig gan Met Caerdydd, a phenderfynu derbyn y cynnig, bydd angen i ni weld tystiolaeth o'r holl gymwysterau a restrir ar eich cais. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddarparu prawf o gymwysterau i'w gweld yma.

Rhaid i ni fod wedi gwirio pob cymhwyster cyn 31 Awst.  Os nad ydym wedi gallu gwirio'ch cymwysterau, gallai hyn arwain at  beidio â chadarnhau eich lle gan arwain at fethu â chasglu eich MetCard yn ystod yr wythnos Sefydlu.

Asesiad Iechyd Galwedigaethol:  Sgrinio ac Imiwneiddio

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ar y rhaglenni canlynol gwblhau Holiadur Iechyd Galwedigaethol CYN COFRESTRU; mynychu apwyntiad Sgrinio Iechyd Galwedigaethol unwaith ar y campws, yn ogystal â, o bosibl, chymryd rhan mewn rhaglen frechu orfodol cyn mynychu unrhyw leoliadau clinigol, yn amodol ar ofynion eu cwrs:

 

Gwyddor Gofal Iechyd BSc
Mae angen cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a fydd yn cynnwys imiwneiddio i ganiatáu ymgymryd â lleoliadau gwaith. Bydd methu â chwrdd â'r gofyniad hwn yn arwain at dynnu ymgeiswyr o'r rhaglen.

Maeth Dynol a Dieteg BSc
Mae angen cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a fydd yn cynnwys imiwneiddio i ganiatáu ymgymryd â lleoliadau gwaith. Bydd myfyrwyr sy'n methu â chwrdd â gofynion iechyd galwedigaethol yn ystod y cam sgrinio yn cael eu tynnu o'r cwrs.

Podiatreg BSc
Sylwch, gofyniad gorfodol i fyfyrwyr sy'n ymuno â'r rhaglen yw eu bod yn cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a chymryd rhan mewn rhaglen frechu. Mae hwn yn ofyniad Iechyd a Diogelwch er mswyn sicrhau diogelwch myfyrwyr yn y lleoliad clinigol.

Therapi Lleferydd ac Iaith BSc 
Mae angen cytuno i sgrinio iechyd galwedigaethol a fydd yn cynnwys imiwneiddio er mwyn gallu  ymgymryd â lleoliadau.

Anfonir gwybodaeth bellach at ymgeiswyr ynglŷn â sut i gwblhau a dychwelyd yr Holiadur Iechyd Galwedigaethol ar ôl iddynt ateb yn Gadarn.  Darperir manylion ynglŷn ag apwyntiad Sgrinio cychwynnol a’r angen am frechiadau yn yr apwyntiad Sgrinio, unwaith y byddant wedi cyrraedd y campws. 

Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ohq i gael manylion llawn am raglen Asesiad Iechyd Galwedigaethol Met Caerdydd
 
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â chwblhau'r Holiadur Iechyd Galwedigaethol at Derbyniadau ar askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Archebwch Eich Gwely gyda Llety

Ar ôl i chi dderbyn naill ai gynnig Diamod neu Amodol oddi wrthym, ac o fis Ebrill ymlaen, gellwch wneud cais am le mewn Neuaddau Preswyl gan ddefnyddio'r broses ymgeisio ar-lein. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/accommodation i gael mwy o wybodaeth. Gwarantir llety i'r rhai sy'n gwneud cais cyn diwedd mis Mai.

Anabledd

Os ydych wedi nodi anabledd ar eich cais, neu os ydych am siarad â rhywun ynglŷn â
chefnogaeth yn ystod eich astudiaethau, cysylltwch â'n Gwasanaeth Anabledd ar Ffôn.  029 2041 6170 neu e-bost  disability@cardiffmet.ac.uk.

Gadael Gofal

Mae myfyrwyr Met Caerdydd sy'n cwrdd â'r meini prawf, yn sicr o gael llety drwy gydol y flwyddyn mewn neuaddau sy'n eiddo i'r Brifysgol yn ystod cyfnod eu cwrs, a bwrsariaeth, yn ogystal â derbyn gwasanaethau myfyrwyr a chefnogaeth mentor.  Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at y canlynol: www.metcaerdydd.ac.uk/studentservices

Ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr a Bwrsariaethau  Met  Caerdydd

Os ydych chi'n fyfyriwr o Gymru sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru www.studentfinancewales.co.uk. Argymhellir eich bod yn gwneud cais erbyn dechrau mis Mai i sicrhau eich bod yn derbyn eich rhandaliad cyntaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor.

Os ydych chi'n fyfyriwr o Loegr sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar wefan gov.uk ar y ddolen ganlynol www.gov.uk/studentfinance.

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr i astudio yn Met Caerdydd, bydd angen i chi gofrestru gyda Cyllid Myfyrwyr drwy wefan gov.uk: www.gov.uk/student-finance/eu-students. Argymhellir eich bod yn gwneud cais erbyn dechrau mis Mai er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich rhandaliad cyntaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor.

Os ydych chi'n ymgeisydd o Ogledd Iwerddon sy’n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar www.studentfinanceni.co.uk.

Os ydych chi'n ymgeisydd o'r Alban sy'n edrych i wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar www.saas.gov.uk .

I gael gwybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Met Caerdydd a allai fod ar gael i chi hefyd, edrychwch ar www.metcaerdydd.ac.uk/scholarships.

Bwrsariaethau GIG

I gael gwybodaeth am Fwrsariaethau'r GIG,  cliciwch yma.​

Cadarnhad o'ch Lle ym Met Caerdydd

O fis Gorffennaf ymlaen, bydd Derbyniadau yn dechrau derbyn canlyniadau BTEC yn uniongyrchol oddi wrth UCAS. Cyn belled â bod Met Caerdydd wedi derbyn eich canlyniadau a’ch bod wedi cwrdd â’ch amodau cynnig, byddwn yn cadarnhau eich lle ar-lein i chi.

Ganol Awst, bydd Derbyniadau yn derbyn canlyniadau Diploma Mynediad i AU a chanlyniadau Safon Uwch yn uniongyrchol oddi wrth UCAS. Cyn belled â bod Met Caerdydd wedi derbyn eich canlyniadau a'ch bod wedi cwrdd â'ch amodau cynnig, byddwn yn cadarnhau eich lle drwy UCAS.

Yn anffodus, mae Met Caerdydd yn wynebu sawl sefyllfa lle na dderbynnir bob canlyniad, neu lle mae anghysondebau yn y canlyniadau a gyflwynwyd, ac mewn rhai achosion ceir oedi cyn cymhwyso'r cymhwyster llawn. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae angen i ni fedru cysylltu â chi.

Os na chaiff eich lle ei gadarnhau erbyn canol mis Awst, cysylltwch â ni i ddarganfod pam. Gall hyn fod oherwydd nad ydym wedi derbyn eich canlyniadau, ac yn yr achos hwnnw, gellwch anfon tystiolaeth o ganlyniadau eich arholiadau atom. Os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrifau eto, bydd cadarnhad uniongyrchol gan eich Ysgol neu Goleg yn ddigonol, ar yr amod ei fod ar ffurf llythyr swyddogol.

Os nad ydych wedi cwrdd ag amodau eich cynnig a bod eich lle yn dal yn Amodol, cysylltwch â ni i wirio ein bod wedi derbyn eich holl ganlyniadau. Ar ôl i ni dderbyn eich holl ganlyniadau, bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at Gyfarwyddwr y Rhaglen i wneud penderfyniad terfynol amdano.

Anfonir eich Pecyn Ymuno Myfyrwyr atoch i'w ddefnyddio ar y cyd â'n gwefan Myfyrwyr Newydd bwrpasol, lle gellwch lawrlwytho’r wybodaeth ymuno sy'n ymwneud â'r Wythnos  Sefydlu. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y wybodaeth hon.

Cofiwch, os nad ydych eto wedi anfon tystiolaeth o'ch TGAU, gwnewch hynny cyn dechrau'r cwrs.

Cofrestru Ar-lein

Byddwch chi’n barod i gofrestru pan fydd yr holl amodau cynnig wedi'u bodloni ac  e-bost wedi ei anfon atoch gyda manylion ynglŷn â sut i gwblhau'r broses. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar  www.metcaerdydd.ac.uk/enrolment

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chofrestru ar-lein, cysylltwch ag enrolment@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2020 5669.

Os yw eich lle wedi'i gadarnhau, ond na anfonwyd eich manylion cofrestru atoch, gallai hyn fod oherwydd nad yw eich datgeliad DBS neu eich cliriad Sgrinio Iechyd Galwedigaethol wedi eu cwblhau.

Dylech fod wedi cofrestru cyn mynychu eich Wythnos Sefydlu.

Newidiadau a therfynu Rhaglenni

Mae'r Brifysgol yn gwneud  pob ymdrech i sicrhau fod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr ynglŷn
â rhaglenni sy'n cael eu cynnig mor gywir a chyfredol â phosibl. Fodd bynnag, mae rhaglenni astudio’n cael eu hadolygu'n barhaus ac mae'n ddigon posibl y bydd rhai newidiadau’n digwydd rhwng amser cyhoeddi’r deunydd a'r adeg y bydd y myfyriwr yn cychwyn ar eu rhaglen. Mae angen isafswm fyfyrwyr er mwyn rhedeg rhaglenni Prifysgol hefyd, h.y. mae angen i nifer penodol o fyfyrwyr ymgymryd â'r rhaglen er mwyn iddi fod yn hyfyw.  Bwriad nodi lleiafswm o fyfyrwyr ar gyfer rhaglenni yw cyfoethogi profiad y myfyriwr.

Os digwydd newidiadau neu pan ddaw rhaglen i ben, hysbysir ymgeiswyr o hynny cyn gynted â phosibl drwy lythyr, yn ddelfrydol,. cyn iddynt dderbyn yynnig o le, fel bod cyfle i ystyried rhaglen arall yn Met Caerdydd neu rywle arall.  Os  penderfynir dod â rhaglen i ben ar ôl i ymgeiswyr dderbyn cynnig lle, bydd Derbyniadau yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewisiadau amgen perthnasol a darparu cymorth i ymgeiswyr ddod o hyd i'r dewis mwyaf addas hwnnw.
I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i raglenni, cyfeiriwch at yr ymwadiad a nodir yn y Llawlyfr Myfyrwyr (www.metcaerdydd.ac.uk/studenthandbook) y byddwch yn ei dderbyn fel rhan o'ch cyfarwyddiadau ymuno yn ystod yr Haf. 

Yn amodol ar Raglenni Dilysu

Rhaid dilysu pob rhaglen newydd yn y Brifysgol, a'r diben yw sicrhau fod y rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â Chenhadaeth y Brifysgol a'i chynnwys yn adlewyrchu lefelau priodol o safonau ac ansawdd academaidd.  Cewch eich hysbysu o unrhyw newidiadau a wneir i raglen yn ystod y digwyddiad dilysu a chaiff ein tudalennau cwrs eu diweddaru.

Telerau ac Amodau

Mae'n bwysig eich bod yn deall Telerau ac Amodau eich cynnig i wneud penderfyniad hyddysg.

Ewch i'n tudalennau Telerau ac Amodau​ i gael mwy o wybodaeth.