Cyngor i Ymgeiswyr>Cyrsiau Israddedig UCAS>Cyfweliadau Israddedigion

Cyfweliadau Israddedigion

​​​​​Mae nifer o'n rhaglenni israddedig yn cynnwys cyfweliad fel rhan o'r broses ymgeisio. Ar ôl i chi wneud cais i Met Caerdydd, os cewch eich gwahodd am gyfweliad, byddwch yn derbyn e-bost gyda'ch gwahoddiad. 

Er mwyn sicrhau eich bod yn hollol barod ar gyfer eich cyfweliad, darllenwch y wybodaeth ychwanegol bwysig y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohoni cyn mynychu. 

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal trwy MS Teams neu wyneb yn wyneb ar y campws. Darllenwch y gwybodaeth isod i wneud yn siwr eich bod yn ymwybodol o'r trefniadau ar gyfer eich cyfweliad.

Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Anfonir e-bost atoch gyda manylion eich cyfweliad a chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno'ch portffolio. Gallwch hefyd weld awgrymiadau pellach yma ar sut i baratoi eich portfolio.

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

​Bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ar gampws Cyncoed. Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth ganlynol cyn eich cyfweliad:​

BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Tystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Addysg Gynradd (3-11) gyda SAC

Cynhelir eich cyfweliad drwy MS Teams a byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys gwybodaeth ar y broses gyfweld a sut i baratoi ar gyfer y diwrnod.  

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen y wybodaeth gan ei bod hi’n hanfodol eich bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth cyn mynychu eich cyfweliad, oherwydd bydd hefyd yn cynnwys Tasg Lythrennedd Cyn Cyfweliad.

Byddwch hefyd yn derbyn gwahoddiad MS Teams yn agosach at ddyddiad y cyfweliad, yn neilltuo amser penodol i chi.


Gwaith Cymdeithasol

Bydd y cyfweliadau Gwaith Cymdeithasol yn cael eu cynnal ar gampws Llandaf. Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i chi fod ar y campws o 9.30am - 4.30pm.​

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru cyn y cyfweliad a chwblhewch y ffurflenni gofynnol isod:

BSc (Anrh) ​Gwaith Cymdeithasol

Hunan Ddatganiad (PDF) / Hunan Ddatganiad (Word)

Cwblhewch a dychwelwch y ffurflenni hyn i socialwork@cardiffmet.ac.uk.

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Anfonir e-bost atoch gyda manylion pellach am eich cyfweliad. Agorwch y ddolen isod sy'n ymwneud â'ch cwrs i gael rhagor o wybodaeth bwysig cyn eich cyfweliad.​

BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd

​BSc (Anrh) Maetheg Ddynol a Dieteg

BSc (Anrh) Podiatreg

BSc (Anrh) Therapi Lleferydd ac Iaith

Addasiadau rhesymol ar gyfer cyfweliad

Os oes gennych unrhyw ofynion ychwanegol, rhowch wybod i ni ar e-bost cyn gynted â phosibl ar applications@cardiffmet.ac.uk​ yn amlinellu eich anghenion penodol, fel y gellir rhoi unrhyw addasiadau rhesymol ar waith a gwneud trefniadau priodol.

Ni allaf ddod i'm cyfweliad
Os na allwch fynychu ar y dyddiad neu'r amser a roddwyd i chi, anfonwch e-bost atom ar applications@cardiffmet.ac.uk i ofyn am ddyddiad newydd. Fe gewch wybod y dyddiad newydd trwy UCAS.

Os bydd yn rhaid i Met Caerdydd aildrefnu eich cyfweliad ar fyr rybudd, byddwn yn eich hysbysu'n uniongyrchol trwy e-bost. 


Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn, neu ynghylch eich cyfweliad, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch applications@cardiffmet.ac.uk.